Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Tachwedd 2020

Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Canllawiau hawdd eu defnyddio newydd ar gyfer ymddiriedolwyr

Mae鈥檙 Comisiwn wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau hawdd eu defnyddio ar gyfer ymddiriedolwyr. Wedi鈥檜 lansio yn ystod Wythnos Ymddiriedolwyr 2020, mae鈥檙 pum canllaw pum-munud newydd yn cynnwys 鈥榤aes llafur craidd鈥� o wybodaeth sylfaenol a fydd yn helpu ymddiriedolwyr i redeg eu helusennau鈥檔 effeithiol. Ar gael yn y Saesneg a鈥檙 Gymraeg, maent yn esbonio hanfodion:

Mae llywodraethu da wrth wraidd cyflawni dibenion eich elusen i鈥檙 safonau uchel a ddisgwylir gan y cyhoedd. Darllenwch fwy mewn blog gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Helen Stephenson am y r么l hanfodol sydd gan ymddiriedolwyr a sut rydym yn eu helpu i ymdopi 芒鈥檙 rheolau: .

Arweiniad ynghylch coronafeirws (COVID-19) ar gyfer elusennau

Gwyddom fod y pandemig yn parhau i gael effaith sylweddol ar wasanaethau ac incwm elusennau.

Mae ein dull ynghylch rheoleiddio yn ystod y cyfnod ansicr hwn wedi bod mor hyblyg a phragmatig 芒 phosibl.

Mae ein harweiniad a ddiweddarir yn rheolaidd yn cynnwys atebion i鈥檙 cwestiynau a ofynnir yn fwyaf aml.

Darllenwch Arweiniad ynghylch Coronafeirws (COVID-19) ar gyfer y sector elusennau.

Ein Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol (APM)

Yn y cyfarfod cyhoeddus blynyddol adroddom am ein gwaith yn ystod y flwyddyn a aeth heibio a rhoddom ddiweddariad ynghylch sut rydym yn cyflwyno cefnogaeth a gwasanaethau trwy鈥檙 pandemig presennol.

Prif araith

Defnyddiodd ein cadeirydd, Tina Stowell, ei phrif araith i amlygu鈥檙 gwersi gan COVID-19 a pham eu bod yn allweddol i gadw cefnogaeth y cyhoedd ac adeiladu sector elusennol cryfach ar gyfer y dyfodol.

.

Recordiad llawn o鈥檙 Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol

Oherwydd y pandemig roedd cyfarfod eleni yn ddigwyddiad rhithiol a oedd yn agored i bob aelod o鈥檙 cyhoedd a chynrychiolwyr elusennau. Os na wrandawoch ar y recordiad mae nawr ar gael ar YouTube.

.

Ymwybyddiaeth o dwyll elusennau

Fel pob sector, gall elusennau fod yn agored i dwyll a seiberdroseddu. Gall y rhai sy鈥檔 darparu gwasanaethau a chefnogaeth hanfodol i gymunedau lleol yn ystod y pandemig fod yn arbennig o agored i niwed.

Ym mis Hydref cynhaliom ymgyrch ymwybyddiaeth o dwyll gyda鈥檙 nod o annog a galluogi elusennau i siarad am dwyll a rhannu arfer gorau.

Mae鈥檙 adnoddau a gweminarau rhad ac am ddim i gyd yn parhau ar gael i鈥檆h helpu i atal twyll. Gweler wythnos ymwybyddiaeth o dwyll elusennau 2020.

Cofrestr newydd o elusennau

Ym mis Medi 2020 lansiom gofrestr ar-lein well o elusennau.

Ein huchelgais ar gyfer y gofrestr newydd yw ei bod yn cael ei defnyddio鈥檔 ehangach yn gynyddol i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus am yr elusennau maent yn eu cefnogi.

Mae鈥檙 gofrestr newydd yn dangos gwybodaeth am elusennau鈥檔 fwy eglur, a bydd yn cael ei diweddaru鈥檔 barhaus yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr. Gall ymddiriedolwyr elusennau wirio a diweddaru鈥檜 gwybodaeth yn rhwydd gan ddilyn dolenni ar y gofrestr.

Darllenwch y blog gan Helen Stephenson, ein Prif Weithredwr, .

Y DU a phontio鈥檙 UE

Mae鈥檙 DU wedi gadael yr UE, ac mae鈥檙 cyfnod pontio鈥檔 dod i ben eleni. Gwiriwch y rheolau newydd o fis Ionawr 2021 i sicrhau eich bod yn barod. Dyma鈥檙 hyn sydd angen i chi ei wneud os yw eich elusen yn:

Mae hefyd ystod o ganllawiau ar gyfer sectorau DCMS ar 188体育.

Sut i gael help i adfywio eich cronfeydd elusen

Mae鈥檙 rhaglen 鈥楢dfywio Ymddiriedolaethau鈥� yn cefnogi elusennau sy鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd gwario eu hincwm ar fudd y cyhoedd i naill ai gau neu adfywio eu helusen. Dylai ymddiriedolwyr elusennau drafod dyfodol eu helusen os bydd yn anodd:

  • cael ymddiriedolwyr newydd
  • gwario eu hincwm
  • nodi buddiolwyr
  • neilltuo amser i redeg yr elusen

Dysgwch sut i gael help ar gyfer eich elusen gan raglen yr Ymddiriedolaethau Adfywio.

Cadw mewn cysylltiad 芒 ni

Ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0300 066 9197. Rydym ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am to 5pm.

Cofrestru ar gyfer rhybuddion e-bost 188体育 yw鈥檙 ffordd symlaf i wybod y diweddaraf am y newyddion y byddwn yn eu cyhoeddi ar ein gwefan. Gofynnir i chi am gyfeiriad e-bost i greu tanysgrifiad pwrpasol.

Mae hefyd yn ddefnyddiol i鈥檔 dilyn trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a .