Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr
Rhoi gwybod a thalu
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am dreuliau neu fuddiannau trethadwy rydych yn eu rhoi i鈥檆h cyflogeion. Gallwch wneud hyn naill ai drwy鈥檆h cyflogres neu ar-lein ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Mae angen i chi hefyd roi gwybod faint o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch ar yr holl dreuliau a buddiannau rydych wedi鈥檜 rhoi a thalu unrhyw Yswiriant Gwladol sydd heb ei dalu.
Beth i roi gwybod amdano
Mae pob traul neu fuddiant yn cael ei gyfrifo鈥檔 wahanol. Dewch o hyd i鈥檙 math o draul neu fuddiant (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi鈥檌 roi, i weld beth fydd angen i chi roi gwybod amdano a鈥檌 dalu.
Ar gyfer treuliau neu fuddiannau 鈥榖ach鈥�, mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu gwneud taliad untro, a elwir yn Gytundeb Setliad TWE.
Os ydych yn talu treuliau a buddiannau drwy鈥檙 gyflogres (鈥榯alu drwy鈥檙 gyflogres鈥�)
Rhowch wybod am dreuliau a buddiannau cyflogeion drwy鈥檆h meddalwedd cyflogres a thalwch dreth arnynt drwy gydol y flwyddyn.
Nid oes angen i chi roi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer pob cyflogai ar ddiwedd y flwyddyn dreth os yw eu holl dreuliau a buddiannau wedi鈥檜 talu drwy鈥檙 gyflogres.
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch trwy gyflwyno ffurflen ar-lein o鈥檙 enw P11D(b).
I ddechrau talu drwy鈥檙 gyflogres, rhowch wybod i CThEF cyn dechrau鈥檙 flwyddyn dreth (6 Ebrill).
Os na fyddwch yn talu treuliau a buddiannau drwy鈥檙 gyflogres
Mae鈥檔 rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein o鈥檙 enw P11D a鈥檌 chyflwyno i CThEF ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Llenwch P11D ar gyfer pob cyflogai rydych wedi rhoi treuliau neu fuddiannau trethadwy iddynt nad oeddent wedi鈥檜 talu drwy鈥檙 gyflogres.
Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd gyflwyno ffurflen ar-lein i CThEF ar ddiwedd y flwyddyn dreth ar gyfer unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch. Gelwir hyn yn P11D(b).
Sut i gyflwyno ffurflen P11D neu P11D(b)
Os oes gennych lai na 500 o gyflogeion, llenwch a chyflwynwch y ffurflenni trwy wasanaeth TWE ar-lein CThEF.
Os oes gennych fwy na 500 o gyflogeion, llenwch a chyflwynwch y ffurflenni trwy鈥檆h meddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg).
Ni dderbynnir ffurflenni papur.
Cywiro gwall neu roi gwybod am flynyddoedd blaenorol
I drwsio gwall, rhoi gwybod am fuddiannau a threuliau ar gyfer blynyddoedd treth cynharach neu roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau, llenwch y ddwy ffurflen gywiro ar-lein:
Enghraifft
Gwnaethoch gyflwyno ffurflen P11D yn dangos buddiant meddygol o 拢300 a buddiant car o 拢2,100. Mae鈥檙 buddiant car yn gywir, ond fe ddylai鈥檙 buddiant meddygol fod yn 拢500. Cyflwynwch ffurflen gywiro P11D sy鈥檔 dangos y buddiant meddygol o 拢500 a鈥檙 buddiant car o 拢2,100.
Os ydych yn cywiro P11D(b), dylech gynnwys cyfanswm yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y mae angen i chi ei dalu - nid y gwahaniaeth o鈥檆h fersiwn flaenorol.
Enghraifft
Gwnaethoch gyflwyno ffurflen P11D(b) yn dangos bod angen i chi dalu 拢10,000 o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, ac rydych yn sylweddoli eich bod wedi anghofio ychwanegu 拢500. Dylai鈥檆h ffurflen P11D(b) ar-lein ddangos y swm fel 拢10,500.
Cosbau
Mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir yn eich Ffurflen Dreth yn ddiofal neu鈥檔 fwriadol sy鈥檔 golygu eich bod:
- yn peidio 芒 thalu digon o dreth
- yn gor-hawlio rhyddhadau treth