Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr
Eithriadau a goddefebau
Mae yna rhai treuliau arferol cyflogeion nad oes rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) amdanynt. Gelwir hyn yn 鈥榚ithriad鈥�.
Mae eithriadau wedi disodli goddefebau. Ni allwch wneud cais am oddefeb mwyach.
Treuliau sydd wedi鈥檜 cwmpasu gan eithriad
Nid oes rhaid i chi roi gwybod am rai treuliau busnes a buddiannau fel:
-
teithio busnes
-
biliau ff么n
-
treuliau busnes ar gyfer gwesteia
-
gwisg ac offer ar gyfer gwaith
I fod yn gymwys i gael eithriad, mae鈥檔 rhaid i chi fod naill ai:
-
yn talu cyfradd unffurf i鈥檆h cyflogai fel rhan o鈥檌 enillion - mae鈥檔 rhaid i hyn fod naill ai鈥檔 gyfradd meincnod neu gyfradd arbennig (鈥榩wrpasol鈥�) sydd wedi鈥檌 chymeradwyo gan CThEF
-
yn talu costau gwirioneddol y cyflogai yn 么l
Mae鈥檔 rhaid i chi ddidynnu a thalu treth ac Yswiriant Gwladol ar yr holl dreuliau a buddiannau eraill (yn agor tudalen Saesneg) rydych yn eu rhoi i鈥檆h cyflogeion. Rhowch wybod i CThEF amdanynt yn 么l yr arfer.
Gwneud cais am eithriad
Nid oes angen i chi wneud cais am eithriad os ydych yn talu cyfraddau meincnod CThEF ar gyfer treuliau caniataol.
Mae ond angen i chi wneud cais am eithriad os ydych am dalu cyfraddau pwrpasol i鈥檆h cyflogeion.
Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i CThEF fod y cyfraddau rydych yn eu hawgrymu yn seiliedig ar dreuliau gwirioneddol eich cyflogeion.
Os oedd gennych oddefeb gan CThEF
Ni fydd eich goddefeb yn berthnasol ar 么l 5 Ebrill 2016, ond dylai鈥檙 treuliau sydd wedi鈥檜 cwmpasu ganddi hefyd gael eu cwmpasu gan yr eithriad.
Os oedd eich goddefeb yn cynnwys cyfraddau pwrpasol, a chytunwyd arni ar 么l 6 Ebrill 2011, gallwch ofyn am ddefnyddio鈥檙 un cyfraddau pan fyddwch yn gwneud cais am eithriad.
Gallwch ond defnyddio鈥檙 cyfraddau pwrpasol am hyd at 5 mlynedd o鈥檙 dyddiad y cytunwyd arnynt ddiwethaf.
Gwirio treuliau
Mae鈥檔 rhaid i chi fod 芒 system ar waith i wirio taliadau rydych yn eu gwneud ar gyfraddau meincnod neu bwrpasol.
Ni all eich cyflogeion wirio eu treuliau eu hunain.
Gofynnwch i鈥檆h cyflogeion gadw tystiolaeth o鈥檜 treuliau, er enghraifft derbynebau neu filiau, rhag ofn bod angen i chi eu gwirio.