Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr
Cadw cofnodion
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnod o鈥檙 holl dreuliau a buddiannau a roddir gennych i鈥檆h cyflogeion.
Mae angen i鈥檆h cofnodion ddangos eich bod wedi rhoi gwybod yn gywir a bod eich ffurflenni diwedd blwyddyn yn gywir.
Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) ofyn am dystiolaeth o sut yr oeddech yn cyfrif am bob traul neu fuddiant ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Beth y dylech ei gadw
Bydd angen i chi gadw cofnod o鈥檙 canlynol:
-
dyddiad a manylion pob traul neu fuddiant rydych yn ei roi
-
unrhyw wybodaeth sydd ei angen i gyfrifo鈥檙 symiau rydych yn eu rhoi ar eich ffurflenni diwedd blwyddyn
-
unrhyw daliad y mae鈥檆h cyflogai鈥檔 ei gyfrannu at draul neu fuddiant
Dylech hefyd gadw unrhyw ohebiaeth sydd gennych gyda CThEF.
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi.
Enghraifft
Rydych yn ad-dalu treuliau teithio cyflogai - bydd angen i chi gadw cofnod o bryd a pham y teithiodd y cyflogai, a lle bo鈥檔 bosibl cadw derbynebau fel tystiolaeth.