Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr

Printable version

1. Trosolwg

Os ydych yn gyflogwr ac yn rhoi treuliau neu fuddiannau i gyflogeion neu gyfarwyddwyr, mae鈥檔 rhaid i chi fel arfer:

  • rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) amdanynt

  • talu treth ac Yswiriant Gwladol arnynt

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau鈥檔 cynnwys:

  • ceir cwmni

  • yswiriant iechyd

  • treuliau teithio a gwesteia

  • gofal plant

Mae rheolau gwahanol ar gyfer yr hyn y mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod amdano a鈥檌 dalu yn dibynnu ar y math o draul neu fuddiant (yn agor tudalen Saesneg) rydych yn ei roi.

2. Rhoi gwybod a thalu

Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am dreuliau neu fuddiannau trethadwy rydych yn eu rhoi i鈥檆h cyflogeion. Gallwch wneud hyn naill ai drwy鈥檆h cyflogres neu ar-lein ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Mae angen i chi hefyd roi gwybod faint o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch ar yr holl dreuliau a buddiannau rydych wedi鈥檜 rhoi a thalu unrhyw Yswiriant Gwladol sydd heb ei dalu.

Beth i roi gwybod amdano

Mae pob traul neu fuddiant yn cael ei gyfrifo鈥檔 wahanol. Dewch o hyd i鈥檙 math o draul neu fuddiant (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi鈥檌 roi, i weld beth fydd angen i chi roi gwybod amdano a鈥檌 dalu.

Ar gyfer treuliau neu fuddiannau 鈥榖ach鈥�, mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu gwneud taliad untro, a elwir yn Gytundeb Setliad TWE.

Os ydych yn talu treuliau a buddiannau drwy鈥檙 gyflogres (鈥榯alu drwy鈥檙 gyflogres鈥�)

Rhowch wybod am dreuliau a buddiannau cyflogeion drwy鈥檆h meddalwedd cyflogres a thalwch dreth arnynt drwy gydol y flwyddyn.

Nid oes angen i chi roi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer pob cyflogai ar ddiwedd y flwyddyn dreth os yw eu holl dreuliau a buddiannau wedi鈥檜 talu drwy鈥檙 gyflogres.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch trwy gyflwyno ffurflen ar-lein o鈥檙 enw P11D(b).

I ddechrau talu drwy鈥檙 gyflogres, rhowch wybod i CThEF cyn dechrau鈥檙 flwyddyn dreth (6 Ebrill).

Os na fyddwch yn talu treuliau a buddiannau drwy鈥檙 gyflogres

Mae鈥檔 rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein o鈥檙 enw P11D a鈥檌 chyflwyno i CThEF ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Llenwch P11D ar gyfer pob cyflogai rydych wedi rhoi treuliau neu fuddiannau trethadwy iddynt nad oeddent wedi鈥檜 talu drwy鈥檙 gyflogres.

Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd gyflwyno ffurflen ar-lein i CThEF ar ddiwedd y flwyddyn dreth ar gyfer unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch. Gelwir hyn yn P11D(b).

Sut i gyflwyno ffurflen P11D neu P11D(b)

Os oes gennych lai na 500 o gyflogeion, llenwch a chyflwynwch y ffurflenni trwy wasanaeth TWE ar-lein CThEF.

Os oes gennych fwy na 500 o gyflogeion, llenwch a chyflwynwch y ffurflenni trwy鈥檆h meddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg).

Ni dderbynnir ffurflenni papur.

Cywiro gwall neu roi gwybod am flynyddoedd blaenorol

I drwsio gwall, rhoi gwybod am fuddiannau a threuliau ar gyfer blynyddoedd treth cynharach neu roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau, llenwch y ddwy ffurflen gywiro ar-lein:

Enghraifft

Gwnaethoch gyflwyno ffurflen P11D yn dangos buddiant meddygol o 拢300 a buddiant car o 拢2,100. Mae鈥檙 buddiant car yn gywir, ond fe ddylai鈥檙 buddiant meddygol fod yn 拢500. Cyflwynwch ffurflen gywiro P11D sy鈥檔 dangos y buddiant meddygol o 拢500 a鈥檙 buddiant car o 拢2,100.

Os ydych yn cywiro P11D(b), dylech gynnwys cyfanswm yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y mae angen i chi ei dalu - nid y gwahaniaeth o鈥檆h fersiwn flaenorol.

Enghraifft

Gwnaethoch gyflwyno ffurflen P11D(b) yn dangos bod angen i chi dalu 拢10,000 o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, ac rydych yn sylweddoli eich bod wedi anghofio ychwanegu 拢500. Dylai鈥檆h ffurflen P11D(b) ar-lein ddangos y swm fel 拢10,500.

Cosbau

Mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir yn eich Ffurflen Dreth yn ddiofal neu鈥檔 fwriadol sy鈥檔 golygu eich bod:

  • yn peidio 芒 thalu digon o dreth
  • yn gor-hawlio rhyddhadau treth

3. Dyddiadau cau

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud Dyddiad cau ar 么l diwedd y flwyddyn dreth
Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau 6 Gorffennaf
Rhoi copi o鈥檙 wybodaeth i鈥檆h cyflogeion 6 Gorffennaf
Rhoi gwybod am gyfanswm yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch 6 Gorffennaf
Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A 22 Gorffennaf (19 Gorffennaf os ydych yn talu 芒 siec)
Talu treth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B os oes gennych Gytundeb Setliad TWE 22 Hydref (19 Hydref os ydych yn talu 芒 siec)
Talu treth TWE neu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 os ydych yn 鈥檛alu drwy鈥檙 gyflogres鈥� Misol drwy鈥檙 gyflogres

Codir cosb arnoch o 拢100 am bob 50 o gyflogeion ar gyfer pob mis neu ran o鈥檙 mis mae鈥檆h P11D(b) yn hwyr. Hefyd, caiff cosbau a llog eu codi arnoch os ydych yn hwyr yn talu Cyllid a Thollau EF.

4. Cadw cofnodion

Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnod o鈥檙 holl dreuliau a buddiannau a roddir gennych i鈥檆h cyflogeion.

Mae angen i鈥檆h cofnodion ddangos eich bod wedi rhoi gwybod yn gywir a bod eich ffurflenni diwedd blwyddyn yn gywir.

Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) ofyn am dystiolaeth o sut yr oeddech yn cyfrif am bob traul neu fuddiant ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Beth y dylech ei gadw

Bydd angen i chi gadw cofnod o鈥檙 canlynol:

  • dyddiad a manylion pob traul neu fuddiant rydych yn ei roi

  • unrhyw wybodaeth sydd ei angen i gyfrifo鈥檙 symiau rydych yn eu rhoi ar eich ffurflenni diwedd blwyddyn

  • unrhyw daliad y mae鈥檆h cyflogai鈥檔 ei gyfrannu at draul neu fuddiant

Dylech hefyd gadw unrhyw ohebiaeth sydd gennych gyda CThEF.

Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi.

Enghraifft

Rydych yn ad-dalu treuliau teithio cyflogai - bydd angen i chi gadw cofnod o bryd a pham y teithiodd y cyflogai, a lle bo鈥檔 bosibl cadw derbynebau fel tystiolaeth.

5. Eithriadau a goddefebau

Mae yna rhai treuliau arferol cyflogeion nad oes rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) amdanynt. Gelwir hyn yn 鈥榚ithriad鈥�.

Mae eithriadau wedi disodli goddefebau. Ni allwch wneud cais am oddefeb mwyach.

Treuliau sydd wedi鈥檜 cwmpasu gan eithriad

Nid oes rhaid i chi roi gwybod am rai treuliau busnes a buddiannau fel:

  • teithio busnes

  • biliau ff么n

  • treuliau busnes ar gyfer gwesteia

  • gwisg ac offer ar gyfer gwaith

I fod yn gymwys i gael eithriad, mae鈥檔 rhaid i chi fod naill ai:

  • yn talu cyfradd unffurf i鈥檆h cyflogai fel rhan o鈥檌 enillion - mae鈥檔 rhaid i hyn fod naill ai鈥檔 gyfradd meincnod neu gyfradd arbennig (鈥榩wrpasol鈥�) sydd wedi鈥檌 chymeradwyo gan CThEF

  • yn talu costau gwirioneddol y cyflogai yn 么l

Mae鈥檔 rhaid i chi ddidynnu a thalu treth ac Yswiriant Gwladol ar yr holl dreuliau a buddiannau eraill (yn agor tudalen Saesneg) rydych yn eu rhoi i鈥檆h cyflogeion. Rhowch wybod i CThEF amdanynt yn 么l yr arfer.

Gwneud cais am eithriad

Nid oes angen i chi wneud cais am eithriad os ydych yn talu cyfraddau meincnod CThEF ar gyfer treuliau caniataol.

Mae ond angen i chi wneud cais am eithriad os ydych am dalu cyfraddau pwrpasol i鈥檆h cyflogeion.

Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i CThEF fod y cyfraddau rydych yn eu hawgrymu yn seiliedig ar dreuliau gwirioneddol eich cyflogeion.

Os oedd gennych oddefeb gan CThEF

Ni fydd eich goddefeb yn berthnasol ar 么l 5 Ebrill 2016, ond dylai鈥檙 treuliau sydd wedi鈥檜 cwmpasu ganddi hefyd gael eu cwmpasu gan yr eithriad.

Os oedd eich goddefeb yn cynnwys cyfraddau pwrpasol, a chytunwyd arni ar 么l 6 Ebrill 2011, gallwch ofyn am ddefnyddio鈥檙 un cyfraddau pan fyddwch yn gwneud cais am eithriad.

Gallwch ond defnyddio鈥檙 cyfraddau pwrpasol am hyd at 5 mlynedd o鈥檙 dyddiad y cytunwyd arnynt ddiwethaf.

Gwirio treuliau

Mae鈥檔 rhaid i chi fod 芒 system ar waith i wirio taliadau rydych yn eu gwneud ar gyfraddau meincnod neu bwrpasol.

Ni all eich cyflogeion wirio eu treuliau eu hunain.

Gofynnwch i鈥檆h cyflogeion gadw tystiolaeth o鈥檜 treuliau, er enghraifft derbynebau neu filiau, rhag ofn bod angen i chi eu gwirio.