Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu

Printable version

1. Gwneud trefniadau ar gyfer plant

Gallwch ddewis sut i wneud trefniadau ar gyfer gofalu am eich plant os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner.

Mae’r hyn y gallwch ei wneud yn wahanol yn a .

Fel arfer, gallwch chi a’ch cyn-bartner osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar:

  • lle bydd y plant yn byw
  • faint o amser y byddant yn ei dreulio gyda phob rhiant
  • sut y byddwch yn cefnogi’ch plant yn ariannol

Gallwch ddefnyddio cynghorydd cyfreithiol os ydych am wneud eich cytundeb yn rhwymol gyfreithiol.

Gallwch gytuno ar gynhaliaeth plant ar yr un pryd neu ar wahân.

Cael cymorth i gytuno

Gallwch wneud gyda’ch cyn-bartner. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfryngwr neu gael help arall i’ch helpu i ddod i gytundeb.

Gallwch ddarllen mwy am .Ìý

Gallwch gael cymorth a gwybodaeth gan y canlynol hefyd:

Os na allwch gytuno ar bopeth

Gallwch ofyn i’r llys benderfynu ar unrhyw beth na allwch gytuno arno ar ôl defnyddio cyfryngwr neu gael cymorth arall.

Mae’n rhaid i chi ddangos eich bod wedi mynychu cyfarfod i weld a yw cyfryngu yn iawn i chi cyn gwneud cais i lys. Ni fydd yn rhaid i chi wneud hynny mewn rhai achosion, er enghraifft os oes cam-drin domestig wedi digwydd neu os yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gysylltiedig â’r achos.

Ni fyddwch fel arfer yn cael cymorth cyfreithiol i helpu gyda chostau llys oni bai eich bod yn gwahanu oddi wrth bartner ymosodol.

Gallwch i gael cyngor ar beth i’w wneud yn eich sefyllfa.

2. Os ydych yn cytuno

Nid oes rhaid i chi lenwi unrhyw waith papur swyddogol os ydych yn cytuno ynghylch trefniadau plant.

Gallwch ysgrifennu’r hyn rydych wedi cytuno arno mewn  os ydych eisiau cofnod.

Os ydych am wneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol, gall cynghorydd cyfreithiol helpu gyda’r gwaith papur.

Gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol

³Ò²¹±ô±ô·É³¦³óÌýgael cynghorydd cyfreithiol i ddrafftio ‘gorchymyn cydsynioâ€� os ydych am gael cytundeb sy’n rhwymol yn gyfreithiol.

Mae gorchymyn cydsynio yn ddogfen gyfreithiol sy’n cadarnhau eich cytundeb. Gall gynnwys manylion am sut y byddwch yn gofalu am eich plant, megis:

  • ble maent yn byw
  • pryd fyddant yn treulio amser gyda phob rhiant
  • pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy’n digwydd (galwadau ffôn, er enghraifft)

Rhaid i chi a’ch cyn-bartner ill dau lofnodi’r gorchymyn cydsynio drafft. Bydd angen i chi hefyd gael cymeradwyaeth i’r gorchymyn cydsynio.

Cael cymeradwyaeth i’ch gorchymyn cydsynio.

Mae angen i chi neu’ch cyn-bartner wneud cais am orchymyn llys er mwyn i’ch gorchymyn cydsynio gael ei gymeradwyo.Ìý Gall eich cynghorydd cyfreithiol eich helpu gyda’ch cais.

Ni fydd angen i chi ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu.

Cadwch gopi o’r ffurflen a’r gorchymyn cydsynio drafft.

Ar ôl i’r llys gael eich gwaith papur

Fel arfer nid oes gwrandawiad llys. Bydd barnwr yn cymeradwyo eich gorchymyn cydsynio i’w wneud yn rhwymol yn gyfreithiol os yw’n meddwl eich bod wedi gwneud penderfyniadau er lles eich plant.

Os nad yw’r barnwr o’r farn bod eich gorchymyn cydsynio er lles eich plant, gall:

  • newid eich gorchymyn cydsynio
  • gwneud gorchymyn llys gwahanol i benderfynu beth sydd orau i’ch plant

3. Cael cymorth i gytuno

Gall cyfryngwr eich helpu chi a’ch cyn-bartner i gytuno ar drefniadau plant, heb gymryd ochr.

Nid yw cyfryngu yr un peth â chwnsela. Gall eich helpu i gytuno ar fanylion sut y byddwch yn gofalu am eich plant, megis:

  • ble byddant yn byw
  • pryd fyddant yn treulio amser gyda phob rhiant
  • pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy’n digwydd (galwadau ffôn, er enghraifft)
  • taliadau cynhaliaeth plant

.

Bydd pris cyfryngu yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a faint o sesiynau yr ewch iddynt.Ìý

Efallai y gallwch gael hyd at £500 tuag at gost cyfryngu drwy’r Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu os ydych ar incwm isel.

Ar ddiwedd y broses cyfryngu byddwch yn cael dogfen yn dangos yr hyn y gwnaethoch gytuno arno. Nid yw’r cytundeb hwn yn rhwymol yn gyfreithiol. Gallwch ei wneud yn rhwymol yn gyfreithiol trwy gael cyfreithiwr i ddrafftio gorchymyn cydsynio i lys ei gymeradwyo ar ôl cyfryngu.

Gall y cyfryngwr benderfynu nad yw cyfryngu yn iawn i chi (er enghraifft, os bu cam-drin domestig a bod angen i chi fynd i’r llys yn lle).

Os oes angen mwy o help arnoch i gytuno

Gallwch gael help gyda .

Gallwch hefyd:

  • ³ó´Ç±ô¾±Ìýcyfreithiwr am ffyrdd eraill o ddatrys materion y tu allan i’r llys
  •  i gael gwybod am unrhyw help arall y gallwch ei gael
  • gofyn am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol, os yw materion fel trais domestig neu gam-drin cyffuriau yn ei gwneud yn anos cytuno ar drefniadau plant

4. Os na allwch gytuno

Os ydych wedi cael help ac yn dal i fethu cytuno yna bydd angen i chi wneud cais am orchymyn llys cyn i chi fynd i’r llys.

Rhaid i chi ddangos eich bod wedi mynychu cyfarfod cyfryngu yn gyntaf - ac eithrio mewn achosion penodol (lle mae cam-drin domestig wedi digwydd, er enghraifft).

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynychu apwyntiad llys a mynd i nifer o wrandawiadau llys.

Cyn i’r llys wneud penderfyniad, efallai y bydd yn gofyn i chi roi cynnig arall ar gyfryngu neu fynd ar gwrs i’ch helpu i ddatrys problemau.

Mathau o orchmynion llys

Mae’r math o orchymyn llys sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar yr hyn nad ydych wedi gallu cytuno arno. Gallwch wneud cais am fwy nag un gorchymyn llys.

Trefniadau ar gyfer eich plentyn

Mae ‘gorchymyn trefniadau plant� yn penderfynu:

  • lle mae eich plentyn yn byw
  • pryd fydd eich plentyn yn treulio amser gyda phob rhiant
  • pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy’n digwydd (galwadau ffôn, er enghraifft)

Mae ‘gorchmynion trefniadau plant� yn disodli ‘gorchmynion preswylio� a ‘gorchmynion cyswllt�. Nid oes angen i rieni sydd â’r gorchmynion hyn ailymgeisio.

Chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol.

Magwraeth eich plentyn

Defnyddir ‘gorchymyn mater penodol� i edrych ar gwestiwn penodol am sut mae’r plentyn yn cael ei fagu, er enghraifft:

  • i ba ysgol maen nhw’n mynd
  • a ddylent gael addysg grefyddol

Gallwch hefyd wneud cais am ‘orchymyn camau gwaharddedig� i atal y rhiant arall rhag gwneud penderfyniad am fagwraeth y plentyn.

Pwy all wneud cais

Gall mam, tad y plentyn neu unrhyw un sydd â  chyfrifoldeb rhiant wneud cais am orchymyn llys.

Gall pobl eraill wneud cais am y gorchmynion llys hyn, ond bydd angen iddynt gael caniatâd gan y llysoedd yn gyntaf. Darllenwch fwy am sut i wneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn nain neu’n daid i’r plentyn.

5. Gwneud cais am orchymyn llys

Fel arfer mae’n rhaid i chi fynychu cyfarfod am gyfryngu cyn i chi wneud cais am orchymyn llys. Gelwir hyn yn gyfarfod asesu a gwybodaeth am gyfryngu (MIAM).

Mewn rhai achosion nid oes gofyn i chi fynychu MIAM, er enghraifft lle mae cam-drin domestig wedi digwydd neu os ydych yn gwneud cais am orchymyn cydsynio.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy ddefnyddio ffurflen bapur ar gyfer unrhyw un o’r canlynol:

  • gorchymyn trefniadau plant
  • gorchymyn camau gwaharddedig
  • gorchymyn mater penodol
  • gorchymyn cydsynio

Mae proses wahanol yn Ìý²¹Ìý.

Faint mae’n costio

Mae’n costio £255 i wneud cais am orchymyn llys. Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.

Gwneud cais ar-lein

Unwaith y byddwch wedi dechrau eich cais, gallwch gadw eich ffurflen a’i chwblhau yn nes ymlaen. Bydd gennych 28 diwrnod i gwblhau’r ffurflen ar ôl i chi ei chadw.

Gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur

Dilynwch y camau hyn i wneud cais am orchymyn llys gan ddefnyddio ffurflen bapur.

  1. ¶Ù²¹°ù±ô±ô±ð²Ô·É³¦³óÌýganllaw CB001 ar wneud cais.

  2. ³¢±ô±ð²Ô·É³¦³óÌýffurflen llys C100. Rhaid i chi ddangos eich bod wedi mynychu cyfarfod cyfryngu yn gyntaf - ac eithrio mewn achosion penodol (lle mae cam-drin domestig wedi digwydd, er enghraifft) neu wrth wneud cais am orchymyn cydsynio.

  3. Anfonwch eich ffurflen wreiddiol a 3 chopi ohoni i’r .

6. Ar ôl i chi wneud cais am orchymyn llys

Bydd y llys yn trefnu ‘gwrandawiad cyfarwyddiadau� gyda’r ddau riant os byddwch yn gwneud cais am orchymyn llys.

Fel arfer bydd cynghorydd llys teulu o’r  yn y gwrandawiad.

Bydd Cafcass yn anfon gwybodaeth atoch cyn y gwrandawiad - byddant fel arfer yn eich ffonio chi hefyd.

Yn y gwrandawiad, bydd barnwr neu ynad yn ceisio gweithio allan:

  • beth allwch chi gytuno arno
  • yr hyn na allwch gytuno arno
  • os yw eich plentyn mewn perygl mewn unrhyw ffordd

Byddant yn eich annog i ddod i gytundeb os yw hynny er lles y plentyn. Os gallwch chi, ac os nad oes unrhyw bryderon am les y plentyn, gall y barnwr neu’r ynad ddod â’r broses i ben.

Bydd y llys yn gwneud gorchymyn cydsynio sy’n nodi’r hyn yr ydych wedi cytuno arno, os oes angen.

Os na allwch ddod i gytundeb yn y gwrandawiad llys cyntaf

Bydd y barnwr neu’r ynad yn gosod amserlen ar gyfer yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Efallai y bydd yn gofyn i chi geisio dod i gytundeb eto, er enghraifft trwy fynd i gyfarfod gyda chyfryngwr.

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd ar gwrs os yw eich achos yn ymwneud â threfniadau plant. Gelwir y cwrs yn ‘�, a gallai eich helpu i ddod o hyd i ffordd i wneud i drefniadau plant weithio.

Fel arfer mae’n rhaid i chi fynd i un neu ddau gyfarfod, yn dibynnu ar y math o raglen. Ni fydd eich cyn-bartner yn yr un cyfarfodydd â chi.

Os byddwch yn dod i gytundeb ar unrhyw adeg, gall y barnwr neu’r ynad atal y broses.

Adroddiadau Cafcass

Gall y llys ofyn i Cafcass roi adroddiad ar eich achos i helpu i benderfynu beth sydd orau i’r plentyn.

Mae’n bosibl y bydd y swyddog Cafcass yn gofyn i’ch plentyn beth yw eu teimladau nhw. Byddwch yn cael copi o’r adroddiad pan gaiff ei ysgrifennu.

Beth mae barnwyr ac ynadon yn ei ystyried

Byddant bob amser yn rhoi lles plant yn gyntaf. Byddant yn meddwl am y canlynol:

  • dymuniadau a theimladau’r plentyn
  • anghenion corfforol, emosiynol ac addysgol y plentyn
  • yr effaith y gall unrhyw newidiadau ei chael ar y plentyn
  • oedran, rhywedd, nodweddion a chefndir y plentyn
  • risg posibl o niwed i’r plentyn
  • gallu rhieni i ddiwallu anghenion y plentyn
  • gorchmynion y mae gan y llys y pŵer i’w gwneud

Bydd barnwr neu ynad ddim ond yn gwneud gorchymyn os yw’n meddwl ei fod er lles gorau’r plentyn.

Os ydych eisiau newid eich cais

¶Ù±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±·É³¦³óÌýffurflen C2 i newid cais y mae’r llys yn dal i’w ystyried.

Mae’r ffi yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn gofyn i’r llys ei wneud. Rydych chi’n talu’r llys:

  • £184 os ydych yn dal am i’r llys benderfynu ar eich achos drwy wrandawiad llys
  • £58 os ydych chi a’ch cyn-bartner wedi dod i gytundeb a’ch bod am i’r llys gymeradwyo eich gorchymyn cydsynio heb wrandawiad llys

7. Newid neu orfodi gorchymyn

Gallwch newid gorchymyn llys neu orchymyn cydsynio presennol. Gallwch hefyd ofyn i lys orfodi gorchymyn os nad yw eich cyn-bartner yn ei ddilyn.

Os byddwch yn gofyn i’r llys newid neu orfodi gorchymyn, mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi fynd i wrandawiad llys. Fel arfer gallwch osgoi hyn os ydych yn cael cymorth y tu allan i’r llys, fel defnyddio cyfryngwr neu gael help arall yn lle hynny.

Newid gorchymyn

Gallwch benderfynu gwneud rhywbeth gwahanol i’r gorchymyn llys, os yw’r ddau ohonoch yn cytuno. Ond ni fyddwch yn gallu gorfodi hyn hwyrach ymlaen oni bai eich bod yn ei wneud yn rhwymol yn gyfreithiol.

Gwneud newid yn rhwymol yn gyfreithiol

Os yw’r ddau ohonoch yn cytuno, gallwch ddrafftio gorchymyn cydsynio i gwmpasu’r cytundeb newydd a gofyn i’r llys ei gymeradwyo.

Os na allwch gytuno, gallwch  ofyn i lys benderfynu sut i newid (‘amrywio�) y gorchymyn.

Gorfodi gorchymyn

Os nad yw eich cyn-bartner yn dilyn y gorchymyn, gallwch ofyn i’r llys ei orfodi. Dilynwch y camau hyn.

  1. ³¢±ô±ð²Ô·É³¦³óÌýffurflen C79 i wneud cais - darllenwch ganllaw CB5 os oes angen help arnoch.

  2. ¶Ù±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±·É³¦³óÌýffurflen C78 i atodi ‘hysbysiad o rybuddâ€� os gwnaed eich gorchymyn cyn 8 Rhagfyr 2008. Bydd gorchmynion a wneir ar ôl y dyddiad hwn eisoes yn cynnwys un.

  3. Anfonwch ef i’r . Mae’n costio £255.

Bydd y llys yn edrych ar y ffeithiau eto i weld a oes unrhyw beth wedi newid.

Os bydd y llys yn gorfodi’r gorchymyn

Yn dibynnu ar eich sefyllfa a’r hyn yr ydych wedi gofyn i’r llys benderfynu gallent wneud:

  • ‘gorchymyn gorfodiâ€� â€� mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’ch cyn-bartner wneud rhwng 40 a 200 awr o waith di-dâl
  • ‘gorchymyn iawndal am golled ariannolâ€� â€� mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’ch cyn-bartner ad-dalu unrhyw arian rydych chi wedi’i golli oherwydd nad oedd wedi dilyn y gorchymyn (er enghraifft, os gwnaethoch chi golli gwyliau)

Gallwch fynd yn ôl i’r llys os nad yw eich cyn-bartner yn dilyn gorchmynion y llys o hyd.

Os na fydd y llys yn gorfodi’r gorchymyn

Mae’n bosibl na fydd y llys yn gorfodi’r gorchymyn presennol os yw’n meddwl nad yw eich cyn-bartner yn ei ddilyn oherwydd:

  • mae ganddyn nhw reswm da i beidio
  • mae’n well i’ch plant wneud rhywbeth gwahanol

Gallwch fynd yn ôl i’r llys os nad ydych yn cytuno â’u penderfyniad neu os bydd eich sefyllfa’n newid.

Terfynu gorchymyn

Defnyddiwch ffurflen C100 i wneud cais i derfynu gorchymyn llys nad yw’n gweithio, neu nad yw’n berthnasol i chi a’ch plant mwyach.

Os daw eich gorchymyn i ben ar amser penodol (‘cyfyngiad amser�), gallwch wneud eich cytundeb eich hun wedi hynny. Gallwch gael cymorth i ddod i gytundeb, megis defnyddio cyfryngwr neu gael cymorth arall.