Os na allwch gytuno

Os ydych wedi cael help ac yn dal i fethu cytuno yna bydd angen i chi wneud cais am orchymyn llys cyn i chi fynd i鈥檙 llys.

Rhaid i chi ddangos eich bod wedi mynychu cyfarfod cyfryngu yn gyntaf - ac eithrio mewn achosion penodol (lle mae cam-drin domestig wedi digwydd, er enghraifft).

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynychu apwyntiad llys a mynd i nifer o wrandawiadau llys.

Cyn i鈥檙 llys wneud penderfyniad, efallai y bydd yn gofyn i chi roi cynnig arall ar gyfryngu neu fynd ar gwrs i鈥檆h helpu i ddatrys problemau.

Mathau o orchmynion llys

Mae鈥檙 math o orchymyn llys sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar yr hyn nad ydych wedi gallu cytuno arno. Gallwch wneud cais am fwy nag un gorchymyn llys.

Trefniadau ar gyfer eich plentyn

Mae 鈥榞orchymyn trefniadau plant鈥� yn penderfynu:

  • lle mae eich plentyn yn byw
  • pryd fydd eich plentyn yn treulio amser gyda phob rhiant
  • pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy鈥檔 digwydd (galwadau ff么n, er enghraifft)

Mae 鈥榞orchmynion trefniadau plant鈥� yn disodli 鈥榞orchmynion preswylio鈥� a 鈥榞orchmynion cyswllt鈥�. Nid oes angen i rieni sydd 芒鈥檙 gorchmynion hyn ailymgeisio.

Chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol聽os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol.

Magwraeth eich plentyn

Defnyddir 鈥榞orchymyn mater penodol鈥� i edrych ar gwestiwn penodol am sut mae鈥檙 plentyn yn cael ei fagu, er enghraifft:

  • i ba ysgol maen nhw鈥檔 mynd
  • a ddylent gael addysg grefyddol

Gallwch hefyd wneud cais am 鈥榦rchymyn camau gwaharddedig鈥� i atal y rhiant arall rhag gwneud penderfyniad am fagwraeth y plentyn.

Pwy all wneud cais

Gall mam, tad y plentyn neu unrhyw un sydd 芒 聽chyfrifoldeb rhiant聽wneud cais am orchymyn llys.

Gall pobl eraill wneud cais am y gorchmynion llys hyn, ond bydd angen iddynt gael caniat芒d gan y llysoedd yn gyntaf. Darllenwch fwy am sut i wneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn nain neu鈥檔 daid i鈥檙 plentyn.