Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu鈥檔 gwahanu
Os ydych yn cytuno
Nid oes rhaid i chi lenwi unrhyw waith papur swyddogol os ydych yn cytuno ynghylch trefniadau plant.
Gallwch ysgrifennu鈥檙 hyn rydych wedi cytuno arno mewn聽聽os ydych eisiau cofnod.
Os ydych am wneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol, gall cynghorydd cyfreithiol helpu gyda鈥檙 gwaith papur.
Gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol
骋补濒濒飞肠丑听gael cynghorydd cyfreithiol i ddrafftio 鈥榞orchymyn cydsynio鈥� os ydych am gael cytundeb sy鈥檔 rhwymol yn gyfreithiol.
Mae gorchymyn cydsynio yn ddogfen gyfreithiol sy鈥檔 cadarnhau eich cytundeb. Gall gynnwys manylion am sut y byddwch yn gofalu am eich plant, megis:
- ble maent yn byw
- pryd fyddant yn treulio amser gyda phob rhiant
- pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy鈥檔 digwydd (galwadau ff么n, er enghraifft)
Rhaid i chi a鈥檆h cyn-bartner ill dau lofnodi鈥檙 gorchymyn cydsynio drafft. Bydd angen i chi hefyd gael cymeradwyaeth i鈥檙 gorchymyn cydsynio.
Cael cymeradwyaeth i鈥檆h gorchymyn cydsynio.
Mae angen i chi neu鈥檆h cyn-bartner wneud cais am orchymyn llys聽er mwyn i鈥檆h gorchymyn cydsynio gael ei gymeradwyo.聽 Gall eich cynghorydd cyfreithiol eich helpu gyda鈥檆h cais.
Ni fydd angen i chi ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu.
Cadwch gopi o鈥檙 ffurflen a鈥檙 gorchymyn cydsynio drafft.
Ar 么l i鈥檙 llys gael eich gwaith papur
Fel arfer nid oes gwrandawiad llys. Bydd barnwr yn cymeradwyo eich gorchymyn cydsynio i鈥檞 wneud yn rhwymol yn gyfreithiol os yw鈥檔 meddwl eich bod wedi gwneud penderfyniadau er lles eich plant.
Os nad yw鈥檙 barnwr o鈥檙 farn bod eich gorchymyn cydsynio er lles eich plant, gall:
- newid eich gorchymyn cydsynio
- gwneud gorchymyn llys gwahanol i benderfynu beth sydd orau i鈥檆h plant