Canllawiau

Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol

Yma, cewch wybod a ydych chi鈥檔 gymwys ar gyfer y Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol a sut i wneud cais.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio cynllun talebau a fydd yn cyfrannu hyd at 拢500 tuag at gostau cyfryngu ar gyfer achosion cymwys, gan gefnogi pobl i ddatrys eu hanghydfodau cyfraith teulu y tu allan i鈥檙 llys, lle bo hynny鈥檔 briodol.

Beth yw cyfryngu teuluol?

Mae cyfryngu teuluol yn broses lle bydd cyfryngwr annibynnol hyfforddedig yn eich helpu i gytuno ar drefniadau gyda rhywun arall (e.e. cyn-bartner) sy鈥檔 ymwneud 芒 phlant, cyllid neu eiddo.

Mae鈥檙 cyfryngwr yno i鈥檆h helpu i ddelio ag anghytundeb a dod o hyd i atebion sy鈥檔 gweithio i鈥檙 ddau ohonoch chi, ac esbonio sut i rwymo鈥檙 cytundeb dan gyfraith, os ydych chi鈥檔 dymuno gwneud hynny.

Pan fyddwch chi鈥檔 gwneud cais am orchymyn llys mewn perthynas 芒 sawl math o anghydfod cyfraith teulu, rhaid i chi ddangos i鈥檙 llys eich bod wedi ystyried cyfryngu teuluol, drwy fod wedi mynychu Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (sy鈥檔 cael ei alw鈥檔 MIAM), oni bai eich bod wedi鈥檆h .

Sut alla i gael gafael ar wasanaeth cyfryngu pan fo cyfyngiadau Covid ar waith?

Mae gwasanaethau cyfryngu wedi bod yn gweithredu鈥檔 ddiogel drwy gydol y cyfnod clo, ar-lein yn bennaf. Bydd eich cyfryngwr yn gallu egluro sut mae鈥檙 broses yn gweithio, a sicrhau eich bod yn gallu derbyn eu gwasanaeth.

Beth yw鈥檙 Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol?

Mae鈥檙 cynllun talebau cyfryngu teuluol yn gynllun am gyfnod penodol, sydd wedi鈥檌 gynllunio i gefnogi part茂on a allai ddatrys eu hanghydfodau cyfraith teulu y tu allan i鈥檙 llys. Mae鈥檙 Llywodraeth wedi sefydlu鈥檙 cynllun mewn ymateb i Covid-19, i gefnogi adferiad yn y llys teulu, ac i annog mwy o bobl i ystyried cyfryngu fel ffordd o ddatrys eu hanghydfodau, lle bo hynny鈥檔 briodol. I gefnogi hyn, bydd cyfraniad ariannol o hyd at 拢500 yn cael ei ddarparu tuag at gostau cyfryngu, i deuluoedd cymwys.

Dim ond cyfryngwyr a awdurdodir gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol sy鈥檔 cymryd rhan yn y cynllun talebau.

Pam allai cyfryngu fod o fudd i mi?

Mae cyfryngu teuluol yn eich galluogi i gadw rheolaeth. Yn wahanol i鈥檙 llys, lle bydd barnwr yn gwneud y penderfyniadau am blant a threfniadau ariannol, wrth gyfryngu byddwch chi a鈥檙 person arall/pobl eraill yn penderfynu beth rydych chi鈥檔 cytuno iddo a beth nad ydych y cytuno iddo. O ran eich plant, gall cyfryngu eich helpu i roi lles eich plentyn yn gyntaf.

Gall cyfryngu fod yn llai o straen ac yn llawer cyflymach na mynd i鈥檙 llys, felly gall fod yn ffordd effeithlon o ddatrys anghydfodau. Os na allwch chi ddod i gytundeb, mae gennych chi鈥檙 hawl o hyd i fynd i鈥檙 llys. Gallwch chi hefyd ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth cyfryngu teuluol ar 么l i chi wneud cais i鈥檙 llys.

Gall fod yn anodd i rieni sydd wedi gwahanu neu aelodau eraill o鈥檙 teulu sydd mewn anghydfod siarad 芒鈥檌 gilydd a chydweithio i ddod o hyd i atebion. Mae cyfryngu teuluol yn darparu strwythur diogel a chefnogol i gytuno ar y trefniadau gorau ar gyfer plant, yn ogystal ag ystyriaethau eraill fel sut i rannu asedau ac arian, a ble byddwch chi a鈥檆h plant yn byw.

Gall cyfryngu teuluol hefyd helpu pan fydd amgylchiadau鈥檔 newid, sy鈥檔 golygu bod angen i chi wneud trefniadau newydd. Er enghraifft, wrth i blant dyfu i fyny, gall cyfryngwyr teuluol eich helpu i gytuno ar newidiadau i鈥檙 trefniadau ar gyfer plant heb orfod mynd i鈥檙 llys.

Oes rhaid i mi fod yn yr un ystafell 芒鈥檙 person rwyf yn cyfryngu ag ef/hi?

Wrth gyfryngu, mae鈥檔 dal yn bosibl dod i gytundeb heb fod yn yr un ystafell neu le 芒鈥檙 person arall 鈥� does dim rhaid i chi dreulio amser gyda鈥檙 person rydych yn cyfryngu ag ef/hi os ydych yn dewis peidio. Gall eich cyfryngwr eich helpu i ddod o hyd i ffordd o ddatrys eich anghytundeb heb gael cysylltiad uniongyrchol.

Sut ydw i鈥檔 gwneud cais am daleb gyfryngu?

Yn eich MIAM, bydd y cyfryngwr yn trafod y cynllun talebau gyda chi os yw eich achos yn gymwys. Cynigir cyfraniad 鈥榯aleb鈥� i chi, yn dibynnu ar addasrwydd, y math o achos ac argaeledd y talebau.

Beth yw MIAM?

Cyn gwneud cais i鈥檙 llys am rai mathau o orchmynion cyfraith teulu, bydd gofyn i chi fynd i Gyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM) oni bai fod gennych dilys.

Mae MIAM yn gyfarfod byr gyda chyfryngwr cymwys, lle byddwch yn cael gwybodaeth am gyfryngu fel ffordd o ddatrys eich problemau. Bydd y cyfryngwr yn asesu a yw cyfryngu yn opsiwn priodol ar sail eich amgylchiadau unigol. Bydd angen i鈥檙 ddau barti gymryd rhan mewn MIAM cyn ymgymryd 芒 chyfryngu y gallan nhw fynd iddo gyda鈥檌 gilydd, neu ar wah芒n.

Dim ond cyfryngwyr sydd ag 鈥楢chrediad y Cyngor Cyfryngu Teuluol鈥� gaiff lofnodi ffurflenni llys i gadarnhau eu bod wedi cymryd rhan mewn MIAM neu fod rhai eithriadau鈥檔 berthnasol.

Oes rhaid i mi dalu am MIAM cyn derbyn gwasanaeth cyfryngu?

Os ydych chi neu鈥檙 rhiant/person arall yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd y ddau ohonoch yn gymwys i gael MIAM am ddim (gyda chyfryngwyr sy鈥檔 gwneud gwaith cymorth cyfreithiol).

Os nad yw鈥檙 naill na鈥檙 llall ohonoch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd yn rhaid i chi dalu am y MIAM. Mae鈥檔 costio tua 拢90 y person. Gall y ffioedd a amcangyfrifir amrywio yn 么l eich lleoliad a phrofiad y cyfryngwr. Mae rhai cyfryngwyr yn cynnig gostyngiadau os ydych chi鈥檔 ddi-waith neu ar incwm isel.

Gweld a ydych chi鈥檔 gymwys i gael cymorth cyfreithiol

A oes modd defnyddio鈥檙 daleb gwasanaeth cyfryngu i dalu am MIAM?

Na, dim ond i dalu am sesiynau cyfryngu y gallwch chi ddefnyddio鈥檙 daleb gyfryngu. Bydd yn rhaid i chi dalu am eich MIAM yn gyntaf, oni bai eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.

Sut ydw i鈥檔 gwybod os ydw i鈥檔 gymwys am daleb gyfryngu?

Ar 么l cymryd rhan mewn MIAM, bydd cyfryngwr hyfforddedig yn asesu鈥檙 materion y byddwch yn ceisio eu datrys i weld a ydynt yn addas ar gyfer cyfryngu ac yn bodloni鈥檙 gofynion cymhwyso ar gyfer y cynllun talebau. Nid yw pob achos yn gymwys dan y cynllun. Mae鈥檙 mathau o achosion a nodir isod yn gymwys i gael taleb gyfryngu:

  • anghydfod/cais yn ymwneud 芒 phlentyn
  • anghydfod/cais yn ymwneud 芒 materion ariannol teuluol lle rydych chi hefyd ynghlwm ag anghydfod/cais sy鈥檔 ymwneud 芒 phlentyn

Mae鈥檔 bwysig cofio mai dim ond pan fydd y ddau berson yn cytuno i gymryd rhan y bydd cyfryngu yn opsiwn. Felly, bydd angen i chi a鈥檙 person arall gytuno i gyfryngu.

Sut bydda i鈥檔 cael y daleb?

Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen 芒鈥檙 broses gyfryngu, a鈥檆h bod yn gymwys i gael y daleb, bydd eich cyfryngwr yn gwneud cais am gyllid drwy dalebau, a bydd yn cael ei thalu鈥檔 uniongyrchol iddynt ar 么l cwblhau鈥檙 holl sesiynau cyfryngu. Ni fyddwch yn cael taleb ffisegol, ac ni fydd angen i chi wneud cais amdani.

Nifer cyfyngedig o dalebau sydd ar gael, a byddant yn cael eu cynnig i bart茂on cymwys nes nad oes rhagor ohonynt ar gael. Bydd eich cyfryngwr yn rhoi gwybod i chi a oes talebau ar gael.

Beth sy鈥檔 rhaid i mi ei wneud i gymryd rhan yn y cynllun?

Bydd gofyn i chi gadarnhau:

  • eich bod wedi gofyn i鈥檙 cyfryngwr wneud cais am y daleb
  • nad ydych chi wedi gwneud cais am daleb arall yn barod fel rhan o鈥檙 un cynllun
  • eich bod wedi rhoi caniat芒d i鈥檆h cyfryngwr ddarparu鈥檙 wybodaeth angenrheidiol i鈥檙 Cyngor Cyfryngu Teuluol. Mae hyn yn cynnwys eich enw, y bil am wasanaethau cyfryngu y byddwch yn ei gael gan y cyfryngwr, a rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am eich achos.

Faint o dalebau fydda i鈥檔 eu cael?

Dim ond unwaith fesul teulu/achos y cewch chi hawlio cyfraniad untro o hyd at 拢500 tuag at eich costau cyfryngu.

Os oes gennych gais neu anghydfod yn ymwneud 芒 phlentyn a bod gennych hefyd gais mater ariannol neu anghydfod yn parhau ar yr un pryd, dim ond hyd at 拢500 y gallwch ei dderbyn.

Os byddwch yn gwneud ail gais ac wedi cael taleb yn barod, ni chewch ail daleb dan y cynllun hwn.

A fydd y daleb yn talu fy holl gostau cyfryngu?

Bydd hyn yn dibynnu ar y cyfraddau a bennir gan y cyfryngwr o鈥檆h dewis a faint o sesiynau cyfryngu sydd eu hangen. Bwriad y daleb yw cyfrannu tuag at sesiynau cyfryngu. Bydd eich cyfryngwr yn dweud wrthych beth yw eu cyfraddau a faint o sesiynau y mae鈥檙 daleb yn debygol o dalu amdanynt. Gan mai 拢500 yw cyfanswm gwerth y daleb, efallai y bydd angen i chi gyfrannu at gost lawn eich sesiynau os byddwch yn dewis parhau 芒鈥檙 broses gyfryngu.

Alla i gael taleb os ydw i鈥檔 gymwys i gael cymorth cyfreithiol?

Gallwch, os ydych chi鈥檔 gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallwch fod yn gymwys i gael taleb o hyd.

Mae鈥檙 cynllun talebau cyfryngu yn gyfraniad ariannol untro o hyd at 拢500 ac ni fydd yn talu am gost MIAM. Bydd cymorth cyfreithiol yn darparu cyllid ar gyfer y MIAM a phob sesiwn gyfryngu, os ydych chi鈥檔 gymwys.

Yn eich MIAM, bydd eich cyfryngwr a achredwyd gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol yn trafod eich opsiynau (gan gynnwys a ydynt yn gallu ymgymryd 芒 gwaith cymorth cyfreithiol).

Mwy o wybodaeth am gymorth cyfreithiol

Alla i gael taleb os oes gan y person arall sy鈥檔 rhan o鈥檙 broses gyfryngu hawl i gael cymorth cyfreithiol??

Gallwch, mae鈥檙 talebau鈥檔 cael eu dyrannu fesul achos.

Os yw un person yn yr achos hwnnw鈥檔 gymwys i gael cymorth cyfreithiol, mae鈥檔 dal yn bosibl i鈥檙 person arall wneud cais am daleb i gyfrannu tuag at eu costau cyfryngu. Os yw鈥檙 person arall yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ond nad ydych chi, yna bydd gennych hawl hefyd i gael cyllid cymorth cyfreithiol a fydd yn talu am gost y MIAM a鈥檙 sesiwn gyfryngu gyntaf.

A yw鈥檙 daleb gyfryngu ar gael ar gyfer materion rhwymedi ariannol?

Os yw eich materion yn ymwneud yn unig ag anghydfod/cais am rwymedi ariannol, ni fyddwch yn gallu cael taleb. Fodd bynnag, os yw eich materion yn ymwneud 芒 phlentyn a mater rhwymedi ariannol, gallwch gael taleb, os oes rhai ar gael.

Sut ydw i鈥檔 gwybod os ydw i鈥檔 gymwys am gymorth cyfreithiol?

Rwyf eisoes wedi bod mewn MIAM ac ni chefais wybodaeth am y cynllun hwn. Alla i dderbyn gwasanaeth cyfryngu a chael taleb nawr?

Daw鈥檙 cynllun talebau cyfryngu i rym ar 26 Mawrth 2021. Dim ond pan fyddwch chi wedi cymryd rhan mewn MIAM ar neu ar 么l y dyddiad hwn y gellir cael talebau.

Casglu data

Gofynnir i chi hefyd lenwi holiadur monitro byr. Nid oes rhaid i chi lenwi hwn.

Bydd gofyn i鈥檆h cyfryngwr ddarparu rhywfaint o wybodaeth am eich achos, megis a ydych yn dod i gytundeb ac a ydych yn gofyn i鈥檙 llys ffurfioli cytundeb. Bydd y data a ddarperir yn cael ei wneud yn ddienw cyn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth am y ffordd y defnyddiwyd y cynllun talebau a鈥檙 gwasanaethau cyfryngu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Ebrill 2021 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon