Tâl ac absenoldeb tadolaeth
Mabwysiadu a threfniadau mam fenthyg
Cymhwystra
Mae’n rhaid bod eich cyflogwr yn eich cyflogi chi’n barhaus (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr ‘wythnos gymhwysol�.
Ar gyfer mabwysiadu yn y DU, dyma’r wythnos pan gewch chi eich paru â’r plentyn.
Ar gyfer mabwysiadu dramor, mae hyn naill ai:
-
yr wythnos pan fydd y plentyn yn cyrraedd y DU
-
yr wythnos pryd hoffech i’ch tâl neu absenoldeb ddechrau
Mae’n rhaid i chi hefyd fodloni’r amodau cymhwystra eraill ar gyfer tâl neu absenoldeb tadolaeth.
Dyddiadau dechrau a dyddiadau dod i ben � Absenoldeb Tadolaeth
Gall eich cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth ddechrau:
-
ar y dyddiad lleoli
-
ar y dyddiad y mae’r plentyn yn cyrraedd y DU, os ydych yn mabwysiadu o dramor
-
y dyddiad y mae’r baban yn cael ei eni (neu’r diwrnod wedyn os ydych yn gweithio’r diwrnod hwnnw) os ydych yn rhiant benthyg
-
ar ddyddiad o’ch dewis chi ar ôl y dyddiad geni neu’r dyddiad lleoli
Mae’n rhaid i chi roi rhybudd o 28 diwrnod i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dechrau.
Ar gyfer mabwysiadu yn y DU a mabwysiadu dramor
Os oes disgwyl i’r plentyn gael ei leoli, neu os oes disgwyl iddo gyrraedd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban:
-
cyn 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 56 diwrnod i’r dyddiad lleoli neu’r dyddiad cyrraedd
-
ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 52 wythnos i’r dyddiad lleoli neu’r dyddiad cyrraedd
Mae rheolau gwahanol ar waith ar gyfer mabwysiadu .
Ar gyfer rhieni benthyg
Os oes disgwyl i’r baban gael ei eni:
-
ar neu cyn 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 56 diwrnod i’r dyddiad geni
-
ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 52 wythnos i’r dyddiad geni
Sut i hawlio � Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth
Gallwch ddefnyddio’r (neu fersiwn o’r ffurflen sydd gan eich cyflogwr) ar gyfer y canlynol:Â
-
mabwysiadu � cyn pen 7 diwrnod i’r dyddiad y mae’ch cyd-fabwysiadwr neu’ch partner yn cael ei baru â phlentyn
-
trefniadau mam fenthyg � 28 diwrnod, neu cyn gynted ag y gallwch, cyn i chi eisiau i’ch tâl ddechrau
Bydd angen i chi lawrlwytho neu argraffu’r ffurflen ar ôl ei llenwi a rhoi copi i’ch cyflogwr.
Mae’r cyfnod o rybudd yn wahanol ar gyfer mabwysiadu tramor. Mae’r broses wedi’i hesbonio yn .
Mae’r ffurflen ar-lein yn cymryd lle ffurflenni SC4 ac SC5.
Trefniadau mam fenthyg
I fod yn gymwys i gael Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth os defnyddiwch fam fenthyg i gael baban, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:
-
rydych yn rhan o gwpl
-
rydych yn gyfrifol am y baban (gyda’ch partner)
-
rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr yn barhaus (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd yr ‘wythnos gymhwysol� (y 15fed wythnos cyn dyddiad disgwyl y baban)
Gallwch hawlio Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth drwy’ch cyflogwr. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 15 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr er mwyn hawlio Tâl Tadolaeth. I gael Tâl Tadolaeth Statudol, mae’n rhaid i chi roi eich rhybudd yn ysgrifenedig.
Mae hefyd raid i chi roi datganiad ysgrifenedig i gadarnhau’r canlynol:
-
eich bod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn rhieni (yn agor tudalen Saesneg) yn ystod y 6 mis ar ôl genedigaeth y plentyn
-
eich bod yn disgwyl i’r llys roi’r gorchymyn hwnnw i chi
Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer mabwysiadu .