Absenoldeb

Absenoldeb Tadolaeth

Mae faint o absenoldeb y gallwch ei gymryd yn dibynnu ar ddyddiad disgwyl eich baban.

Os yw dyddiad disgwyl y baban ar neu cyn 6 Ebrill 2024, neu cyn 6 Ebrill 2024 ar gyfer mabwysiadu

Gallwch ddewis cymryd naill ai 1 wythnos neu 2 wythnos o absenoldeb. Mae鈥檔 rhaid i chi gymryd eich cyfnod o absenoldeb ar un tro. Cewch yr un faint o absenoldeb hyd yn oed os ydych yn cael mwy nag un plentyn (er enghraifft, gefeilliaid).

Mae wythnos o absenoldeb yn hafal i nifer y diwrnodau yr ydych fel arfer yn gweithio mewn wythnos. Er enghraifft, os ydych dim ond yn gweithio ar ddydd Llun a dydd Mawrth, bydd wythnos o absenoldeb yn hafal i 2 ddiwrnod.

Ni all eich absenoldeb ddechrau cyn y dyddiad geni. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 absenoldeb ddod i ben cyn pen 56 diwrnod i鈥檙 enedigaeth (neu鈥檙 dyddiad disgwyl, os daw鈥檙 baban yn gynnar). Mae rheolau gwahanol ar waith os ydych yn mabwysiadu.

Mae鈥檔 rhaid i chi roi rhybudd o 28 diwrnod i鈥檆h cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dechrau.

Nid oes rhaid i chi roi union ddyddiad pan fyddwch am gymryd yr absenoldeb. Yn lle hynny, gallwch roi amser cyffredinol, megis diwrnod yr enedigaeth neu wythnos ar 么l yr enedigaeth.

Os yw dyddiad disgwyl y baban ar 么l 6 Ebrill 2024, neu ar neu ar 么l 6 Ebrill 2024 ar gyfer mabwysiadu

Gallwch ddewis cymryd naill ai 1 wythnos neu 2 wythnos o absenoldeb. Os ydych yn dewis cymryd 2 wythnos, gallwch gymryd yr amser hwn fel pythefnos neu fel 2 wythnos ar wah芒n. Cewch yr un faint o absenoldeb hyd yn oed os ydych yn cael mwy nag un plentyn (er enghraifft, gefeilliaid).

Mae wythnos o absenoldeb yn hafal i nifer y diwrnodau yr ydych fel arfer yn gweithio mewn wythnos. Er enghraifft, os ydych dim ond yn gweithio ar ddydd Llun a dydd Mawrth, bydd wythnos o absenoldeb yn hafal i 2 ddiwrnod.

Ni all eich absenoldeb ddechrau cyn y dyddiad geni. Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 absenoldeb ddod i ben cyn pen 52 wythnos i鈥檙 enedigaeth (neu鈥檙 dyddiad disgwyl, os daw鈥檙 baban yn gynnar). Mae rheolau gwahanol ar waith os ydych yn mabwysiadu.

Mae鈥檔 rhaid i chi roi rhybudd o 28 diwrnod i鈥檆h cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dechrau.

Nid oes rhaid i chi roi union ddyddiad pan fyddwch am gymryd yr absenoldeb. Yn lle hynny, gallwch roi amser cyffredinol, megis diwrnod yr enedigaeth neu wythnos ar 么l yr enedigaeth.

Mae rheolau gwahanol ar waith .

Absenoldeb ar y Cyd i Rieni

Gallech hefyd fod yn gymwys i gael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL). Ni allwch gymryd Absenoldeb Tadolaeth ar 么l i chi gymryd SPL.

Absenoldeb ar gyfer apwyntiadau cynenedigol

Gallwch gymryd absenoldeb di-d芒l i fynd gyda menyw feichiog i 2 apwyntiad cynenedigol os yw鈥檙 canlynol yn wir:

  • rydych yn dad i鈥檙 baban

  • rydych yn briod neu鈥檔 bartner sifil i鈥檙 fam sy鈥檔 disgwyl

  • rydych mewn perthynas hirdymor 芒鈥檙 fam sy鈥檔 disgwyl

  • chi yw鈥檙 rhiant bwriadedig (os ydych yn cael baban drwy drefniant mam fenthyg)

Gallwch gymryd hyd at 6 awr a hanner ar gyfer pob apwyntiad. Gall eich cyflogwr ddewis rhoi mwy o amser i chi.

Gallwch wneud cais am absenoldeb ar unwaith os ydych yn gyflogai parhaol. Os ydych yn weithiwr asiantaeth, bydd angen i chi fod wedi bod yn gwneud swydd am 12 wythnos cyn i chi fod yn gymwys.

Absenoldeb ar gyfer apwyntiadau mabwysiadu

Gallwch gymryd absenoldeb di-d芒l i fynychu 2 apwyntiad mabwysiadu ar 么l i chi gael eich paru gyda phlentyn.