Tâl ac absenoldeb tadolaeth
Trosolwg
Pan fyddwch yn cymryd amser i ffwrdd am fod eich partner yn cael baban, am eich bod yn mabwysiadu plentyn neu am eich bod yn cael baban drwy drefniant mam fenthyg, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael y canlynol:
- 1 neu 2 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth â thâl
- Tâl Tadolaeth
- Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Efallai na chewch absenoldeb a thâl gyda’i gilydd, ac mae rheolau o ran sut i hawlio a phryd y cewch ddechrau’ch absenoldeb.
Hawliau cyflogaeth tra ydych ar absenoldeb
²Ñ²¹±ð’c³ó hawliau cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) wedi’u diogelu tra yr ydych ar absenoldeb tadolaeth. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i’r canlynol:
- cael codiadau cyflog
- cronni gwyliau
- dychwelyd i’r gwaith
Cewch amser i ffwrdd i fynd gyda’ch partner (neu’r fam fenthyg) i 2 apwyntiad cynenedigol.
Os ydych yn mabwysiadu plentyn, cewch amser i ffwrdd i fynychu dau apwyntiad mabwysiadu ar ôl i chi gael eich paru gyda phlentyn.