Sut i bleidleisio
Pleidleisio o dramor
Mae鈥檙 ffordd y byddwch yn pleidleisio pan fyddwch dramor yn dibynnu ar y canlynol:
- p鈥檜n a fyddwch dramor dros dro neu a ydych yn byw dramor
- ble yr hoffech bleidleisio
Os byddwch dramor dros dro
Gallwch bleidleisio drwy鈥檙 post neu drwy ddirprwy os byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad, er enghraifft ar wyliau neu ar daith gyda鈥檆h gwaith.听
Pleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban
Gallwch drefnu:
- i bleidleisio drwy鈥檙 post
- i rywun arall bleidleisio ar eich rhan (pleidleisio drwy ddirprwy)
Os byddwch dramor ar ddiwrnod yr etholiad, bydd angen i chi wneud trefniadau ymlaen llaw. Gwnewch gais i bleidleisio drwy ddirprwy os yw鈥檙 etholiad neu鈥檙 refferendwm lai na phythefnos i ffwrdd ac nad ydych wedi gwneud trefniadau eto.
Caiff eich papur pleidleisio drwy鈥檙 post ei anfon i鈥檙 cyfeiriad a ddewiswyd gennych 16 diwrnod cyn yr etholiad ar y cynharaf. Bydd angen i chi ddychwelyd eich papur pleidleisio cyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio.
Pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon
Mae proses wahanol ar gyfer ac y byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad.
Os na fydd amser gennych i dderbyn a dychwelyd eich papur pleidleisio drwy鈥檙 post yng Ngogledd Iwerddon cyn mynd dramor, bydd angen i chi bleidleisio drwy ddirprwy. Ni allwch wneud cais i鈥檆h pleidlais bost gael ei hanfon y tu allan i鈥檙 DU.听
Os ydych yn symud dramor neu鈥檔 byw dramor
Gallwch bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU. Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu pleidleisio mewn refferenda. Mae gan bob refferendwm reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio ynddo.听
Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio fel etholwr tramor.听
Gallwch bleidleisio drwy鈥檙 post neu bleidleisio drwy ddirprwy.听
Dysgwch sut i bleidleisio os ydych wedi鈥檆h cofrestru fel pleidleisiwr tramor.
Os ydych wedi cofrestru yng Ngogledd Iwerddon, ni allwch bleidleisio drwy鈥檙 post o dramor.
Cael cymorth i bleidleisio
Gallwch gysylltu 芒鈥檆h Swyddfa Cofrestru Etholiadol i gael gwybod pryd y gallai pleidleisiau post gael eu hanfon. Gallai hyn eich helpu i benderfynu p鈥檜n a ydych am bleidleisio drwy ddirprwy neu drwy鈥檙 post.