ID ffotograffig y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau neu refferenda yn y DU.聽

Bydd ei angen arnoch i bleidleisio yn y canlynol:

  • etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol ac is-etholiadau聽
  • deisebau adalw ar gyfer Aelodau Seneddol yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban
  • etholiadau lleol yn Lloegr (gan gynnwys cynghorau, meiri, Awdurdod Llundain Fwyaf a phlwyfi)
  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
  • refferenda cynllunio cymdogaethau yn Lloegr
  • refferenda mewn awdurdodau lleol yn Lloegr (gan gynnwys refferenda am gynyddu鈥檙 Dreth Gyngor)

Mae rheolau gwahanol .

Cadarnhau bod gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Mae鈥檔 rhaid i chi ddangos y fersiwn wreiddiol o鈥檆h ID ffotograffig. Ni allwch ddefnyddio ffotograff, delwedd ar ff么n na llungopi o鈥檆h ID.聽

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 llun ar eich ID edrych fel chi. Gallwch ddefnyddio eich ID hyd yn oed os na fydd y dyddiad yn ddilys bellach.

Bydd angen un o鈥檙 mathau canlynol o ID ffotograffig arnoch i bleidleisio:

  • trwydded yrru cerdyn-llun ar gyfer y DU neu Ogledd Iwerddon (llawn neu dros dro)
  • trwydded yrru a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr I芒, Liechtenstein, Ynys Manaw neu unrhyw un o Ynysoedd y Sianel
  • pasbort y DU
  • pasbort a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr I芒, Liechtenstein neu un o wledydd y Gymanwlad
  • cerdyn PASS (Cynllun Safonau Prawf Oedran Cenedlaethol)
  • Bathodyn Glas
  • trwydded preswylio fiometrig
  • Cerdyn Adnabod Amddiffyn (Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn)
  • cerdyn adnabod cenedlaethol a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol Gogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen Etholwr Dienw

Gallwch hefyd ddefnyddio un o鈥檙 cardiau teithio canlynol fel ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio:

  • p脿s bws person h欧n
  • p脿s bws person anabl
  • cerdyn Oyster 60+
  • P脿s Freedom
  • Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban (NEC)
  • Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl 60 Oed a Throsodd yng Nghymru
  • Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl Anabl yng Nghymru

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig sy鈥檔 caniat谩u i chi bleidleisio, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim. Dogfen bapur yw Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr sy鈥檔 dangos eich llun a gellir ei defnyddio i brofi pwy ydych chi pan fyddwch yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.聽

Gallwch naill ai:

Os byddwch yn pleidleisio fel dirprwy rhywun

Bydd angen i chi fynd 芒鈥檆h ID eich hun pan fyddwch yn mynd i bleidleisio ar ran rhywun arall. Nid oes angen i chi fynd ag ID yr unigolyn.

Os ydych wedi newid eich enw

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 enw ar eich ID gyfateb i鈥檆h enw ar y gofrestr etholiadol. Os nad yw鈥檔 cyfateb, bydd angen i chi wneud un o鈥檙 pethau canlynol:

  • cofrestru i bleidleisio eto gyda鈥檆h manylion newydd
  • mynd 芒 dogfen gyda chi i bleidleisio sy鈥檔 profi eich bod wedi newid eich enw (er enghraifft, tystysgrif priodas)

Nid yw gwahaniaethau bach yn bwysig. Er enghraifft, os yw eich ID yn dweud 鈥楯im Smith鈥� yn hytrach na 鈥楯ames Smith鈥�.