Sut i bleidleisio

Printable version

1. Trosolwg

Mae angen i chi fod wedi鈥檆h cofrestru i bleidleisio cyn y gallwch bleidleisio mewn etholiadau neu refferenda yn y DU.听

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau a refferenda yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban.听聽

Cadarnhewch ym mha etholiadau y mae angen ID ffotograffig arnoch a pha fathau o ID y gallwch eu defnyddio cyn i chi fynd i bleidleisio.

Mae rheolau gwahanol .

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cofrestrwch erbyn 11:59pm ar 11 Ebrill 2025 i bleidleisio yn yr etholiadau ar 1 Mai 2025 yn Lloegr.

Eich cymhwystra i bleidleisio

Bydd p鈥檜n a ydych yn gymwys i bleidleisio yn dibynnu ar y canlynol:聽

  • eich oedran聽
  • eich cenedligrwydd
  • ble rydych yn byw
  • p鈥檜n a ydych wedi鈥檆h cofrestru i bleidleisio聽

Mae gan etholiadau a refferenda gwahanol yn y DU reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio. Mae hyn yn golygu na all pawb bleidleisio ym mhob sefyllfa.

Dysgwch fwy am etholiadau gwahanol a chadarnhewch a ydych yn gymwys i bleidleisio.

Ffyrdd o bleidleisio

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch wneud y canlynol:聽

Ni allwch bleidleisio ar-lein mewn unrhyw etholiadau.

2. Pleidleisio yn bersonol

Rydych yn pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio (mewn adeilad cyhoeddus fel arfer, megis ysgol neu neuadd leol).听

Eich cerdyn pleidleisio

Caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch cyn etholiad neu refferendwm yn dweud wrthych pryd i bleidleisio ac ym mha orsaf bleidleisio.听

Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn y gallwch bleidleisio.

Os nad ydych wedi cael cerdyn pleidleisio ond rydych yn meddwl y dylech, cysylltwch 芒鈥檆h Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Gallwch dal bleidleisio os byddwch wedi colli eich cerdyn pleidleisio. Nid oes rhaid i chi fynd 芒鈥檆h cerdyn gyda chi i bleidleisio.

Os nad yw eich cerdyn gennych a bod angen i chi gadarnhau pa orsaf bleidleisio y dylech fynd iddi, cysylltwch 芒鈥檆h Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Pryd y gallwch bleidleisio聽

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod etholiad (鈥榶 diwrnod pleidleisio鈥�).

Pan fyddwch yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio

Rhowch eich enw a鈥檆h cyfeiriad i鈥檙 staff yn yr orsaf bleidleisio pan fyddwch yn cyrraedd.

Bydd angen i chi ddangos eich ID ffotograffig er mwyn cadarnhau pwy ydych chi mewn rhai etholiadau a refferenda.

Byddwch yn cael papur pleidleisio 芒 rhestr o鈥檙 bobl, y pleidiau neu鈥檙 opsiynau y gallwch bleidleisio drostynt.

Llenwi eich papur pleidleisio

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiadau yn y bwth bleidleisio ac ar frig y papur pleidleisio er mwyn bwrw eich pleidlais.

Pleidleisio os oes gennych anabledd

Os oes gennych anabledd, gall eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol roi gwybodaeth am y canlynol i chi:

  • mynediad ffisegol, er enghraifft rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn a lleoedd parcio i bobl anabl
  • bythau pleidleisio lefel isel
  • unrhyw gyfarpar penodol sydd ei angen arnoch

Mae鈥檔 rhaid i bob gorsaf bleidleisio ddarparu o leiaf un fersiwn print bras o鈥檙 papur pleidleisio.

3. Pleidleisio drwy'r post

Mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais am bleidlais bost os ydych chi am bleidleisio drwy鈥檙 post, er enghraifft:

  • os ydych oddi cartref
  • os ydych dramor ac am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban

Nid oes angen i chi roi rheswm oni bai eich bod yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.听

Bydd angen i chi wneud cais erbyn 5pm ar 14 Ebrill 2025 er mwyn cael pleidlais bost ar gyfer yr etholiadau ar 1 Mai 2025 yn Lloegr.

Gwneud cais am bleidlais bost

Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer un o鈥檙 canlynol:

  • etholiad unigol ar ddyddiad penodol
  • cyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban
  • hyd at dair blynedd

Gallwch wneud y canlynol:

Mae ffurflen wahanol os ydych yn gwneud cais am bleidlais bost yng .

Ar 么l i chi wneud cais, caiff pecyn pleidleisio drwy鈥檙 post ei anfon atoch yn cynnwys papur pleidleisio a datganiad pleidleisio drwy鈥檙 post.听

Newid i ble caiff eich pecyn pleidleisio drwy鈥檙 post ei anfon

Dylech wneud cais newydd am bleidlais bost os byddwch yn symud t欧 neu os byddwch oddi cartref pan gaiff y pecyn pleidleisio drwy鈥檙 post ei anfon.听

Mae ffurflen wahanol os ydych yn gwneud cais am bleidlais bost yng .

Cwblhau a dychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy鈥檙 post

Pan fyddwch yn pleidleisio drwy鈥檙 post, dylech wneud y canlynol:

  • marcio eich pleidlais ar eich papur pleidleisio yn gyfrinachol聽
  • llenwi鈥檙 datganiad pleidleisio drwy鈥檙 post
  • rhoi鈥檙 papur pleidleisio a鈥檙 datganiad pleidleisio drwy鈥檙 post yn yr amlen a ddarperir
  • selio鈥檙 amlen eich hun

Dylech ddychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy鈥檙 post cyn gynted 芒 phosibl er mwyn gwneud yn si诺r bod eich pleidlais bost yn cael ei chyfrif.

Os ydych yn rhy hwyr i bostio eich pecyn pleidleisio drwy鈥檙 post聽

Yng Nghymru a Lloegr

Ewch 芒鈥檆h papur pleidleisio a鈥檆h datganiad pleidleisio drwy鈥檙 post i鈥檆h gorsaf bleidleisio erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad neu i鈥檆h聽Swyddfa Cofrestru Etholiadol cyn iddi gau.

Caiff eich pleidlais ei gwrthod os na fyddwch yn rhoi eich papur pleidleisio i aelod o鈥檙 staff yn yr orsaf bleidleisio neu鈥檙 Swyddfa Cofrestru Etholiadol ac yn cwblhau ffurflen.听

Peidiwch 芒 phostio eich papur pleidleisio drwy flwch llythyrau鈥檙 Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Gallwch gyflwyno:聽

  • eich pecyn pleidleisio drwy鈥檙 post eich hun wedi鈥檌 gwblhau
  • pecynnau pleidleisio drwy鈥檙 post wedi鈥檜 cwblhau ar gyfer hyd at bum pleidleisiwr arall

Os ydych yn ymgyrchydd gwleidyddol, rhaid i鈥檙 pum pleidleisiwr arall fod yn aelodau o鈥檆h teulu neu鈥檔 bobl rydych yn darparu gofal rheolaidd iddynt.

Yn yr Alban

Dylech ddychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy鈥檙 post wedi鈥檌 gwblhau i鈥檙 swyddog canlyniadau yn eich cyngor cyn iddo gau. Dod o hyd i鈥檆h cyngor.

Yng Ngogledd Iwerddon

Os byddwch yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, dim ond mewn Swyddfa Cofrestru Etholiadol y gallwch gyflwyno eich pecyn pleidleisio drwy鈥檙 post wedi鈥檌 gwblhau.听

Cael papur pleidleisio newydd yn lle un sydd wedi鈥檌 ddifrodi neu ar goll

Mae angen i鈥檆h papur pleidleisio ddangos eich manylion a鈥檆h pleidlais yn glir. Os bydd wedi鈥檌 ddifrodi, bydd angen i chi gael un arall.

Gallwch naill ai:

Ni chewch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio os byddwch wedi cofrestru i bleidleisio drwy鈥檙 post ond bod eich papur pleidleisio yn mynd ar goll neu鈥檔 cael ei ddifrodi wedi hynny.

4. Pleidleisio drwy ddirprwy

Os na allwch bleidleisio yn bersonol, gallwch ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Dim ond o dan rai amgylchiadau y cewch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys:

  • bod i ffwrdd ar y diwrnod pleidleisio
  • wedi鈥檆h cofrestru fel pleidleisiwr tramor
  • problem feddygol neu anabledd
  • methu pleidleisio yn bersonol oherwydd gwaith neu wasanaeth milwrol

Dylai eich dirprwy fod yn rhywun rydych chi鈥檔 ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan. Bydd angen i chi ddweud wrtho dros ba ymgeisydd (neu ganlyniad refferendwm) rydych am bleidleisio.

Bydd angen i chi wneud cais erbyn 5pm ar 23 Ebrill 2025 er mwyn pleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiadau ar 1 Mai 2025 yn Lloegr.

Sut i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy

Gallwch wneud y canlynol:

Rhaid i chi wneud cais erbyn:

  • 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban聽
  • 5pm, 14 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon

Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng聽

Os bydd y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy wedi mynd heibio, mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng os byddwch yn bodloni unrhyw un o鈥檙 canlynol:

  • ni allwch bleidleisio yn bersonol oherwydd argyfwng meddygol neu anabledd
  • ni allwch bleidleisio yn bersonol oherwydd eich gwaith聽
  • mae鈥檙 ID ffotograffig roeddech yn bwriadu ei ddefnyddio i bleidleisio ar goll, wedi鈥檌 ddwyn, wedi鈥檌 ddifrodi neu wedi鈥檌 ddinistrio
  • nid ydych wedi cael ID ffotograffig newydd neu un yn lle hen un rydych wedi鈥檌 archebu eto

Nid oes angen i chi ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn bersonol ym mhob etholiad neu refferendwm yn y DU. Cadarnhewch a oes angen i chi ddod ag ID ffotograffig i bleidleisio.

Yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban, gallwch wneud cais hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.

Llenwch ffurflen bapur er mwyn:

Os ydych yn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng oherwydd argyfwng meddygol, anabledd neu oherwydd eich gwaith, rhaid i鈥檆h ffurflen gais gael ei llofnodi gan 鈥榖erson priodol鈥�. Gallai hyn gynnwys cyflogwr neu feddyg, er enghraifft.听

Anfonwch eich ffurflen wedi鈥檌 chwblhau i鈥檆h Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Mae ffordd wahanol o wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch wneud cais hyd at 6 diwrnod cyn yr etholiad. .

Am ba hyd y bydd eich pleidlais drwy ddirprwy yn para

Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy:

  • ar gyfer etholiad neu refferendwm unigol ar ddyddiad penodol
  • am gyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban
  • yn barhaol聽

Pwy all fod yn ddirprwy

Gallwch ofyn i unrhyw un weithredu fel eich dirprwy, ar yr amod bod yr unigolyn:

  • wedi鈥檌 gofrestru i bleidleisio
  • yn cael pleidleisio yn y math o etholiad a gynhelir
  • yn gallu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn pleidleisio聽

Bydd angen i鈥檙 unigolyn fynd 芒鈥檌 ID ffotograffig ei hun gydag ef er mwyn pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Os na all gyrraedd eich gorsaf bleidleisio, bydd angen iddo gysylltu 芒鈥檆h Swyddfa Cofrestru Etholiadol i drefnu i fwrw ei bleidlais drwy ddirprwy drwy鈥檙 post.

Newid neu ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy

I newid pwy sy鈥檔 gweithredu fel eich dirprwy neu i ddechrau pleidleisio yn bersonol, cysylltwch 芒鈥檆h Swyddfa Cofrestru Etholiadol.听

Os byddai鈥檔 well gennych bleidleisio drwy鈥檙 post, cwblhewch ffurflen gais am bleidlais bost.

5. Pleidleisio o dramor

Mae鈥檙 ffordd y byddwch yn pleidleisio pan fyddwch dramor yn dibynnu ar y canlynol:

  • p鈥檜n a fyddwch dramor dros dro neu a ydych yn byw dramor
  • ble yr hoffech bleidleisio

Os byddwch dramor dros dro

Gallwch bleidleisio drwy鈥檙 post neu drwy ddirprwy os byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad, er enghraifft ar wyliau neu ar daith gyda鈥檆h gwaith.听

Pleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu鈥檙 Alban

Gallwch drefnu:

Os byddwch dramor ar ddiwrnod yr etholiad, bydd angen i chi wneud trefniadau ymlaen llaw. Gwnewch gais i bleidleisio drwy ddirprwy os yw鈥檙 etholiad neu鈥檙 refferendwm lai na phythefnos i ffwrdd ac nad ydych wedi gwneud trefniadau eto.

Caiff eich papur pleidleisio drwy鈥檙 post ei anfon i鈥檙 cyfeiriad a ddewiswyd gennych 16 diwrnod cyn yr etholiad ar y cynharaf. Bydd angen i chi ddychwelyd eich papur pleidleisio cyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio.

Pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon

Mae proses wahanol ar gyfer ac y byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad.

Os na fydd amser gennych i dderbyn a dychwelyd eich papur pleidleisio drwy鈥檙 post yng Ngogledd Iwerddon cyn mynd dramor, bydd angen i chi bleidleisio drwy ddirprwy. Ni allwch wneud cais i鈥檆h pleidlais bost gael ei hanfon y tu allan i鈥檙 DU.听

Os ydych yn symud dramor neu鈥檔 byw dramor

Gallwch bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU. Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu pleidleisio mewn refferenda. Mae gan bob refferendwm reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio ynddo.听

Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio fel etholwr tramor.听

Gallwch bleidleisio drwy鈥檙 post neu bleidleisio drwy ddirprwy.听

Dysgwch sut i bleidleisio os ydych wedi鈥檆h cofrestru fel pleidleisiwr tramor.

Os ydych wedi cofrestru yng Ngogledd Iwerddon, ni allwch bleidleisio drwy鈥檙 post o dramor.

Cael cymorth i bleidleisio

Gallwch gysylltu 芒鈥檆h Swyddfa Cofrestru Etholiadol i gael gwybod pryd y gallai pleidleisiau post gael eu hanfon. Gallai hyn eich helpu i benderfynu p鈥檜n a ydych am bleidleisio drwy ddirprwy neu drwy鈥檙 post.

6. ID ffotograffig y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau neu refferenda yn y DU.听

Bydd ei angen arnoch i bleidleisio yn y canlynol:

  • etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol ac is-etholiadau聽
  • deisebau adalw ar gyfer Aelodau Seneddol yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban
  • etholiadau lleol yn Lloegr (gan gynnwys cynghorau, meiri, Awdurdod Llundain Fwyaf a phlwyfi)
  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
  • refferenda cynllunio cymdogaethau yn Lloegr
  • refferenda mewn awdurdodau lleol yn Lloegr (gan gynnwys refferenda am gynyddu鈥檙 Dreth Gyngor)

Mae rheolau gwahanol .

Cadarnhau bod gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Mae鈥檔 rhaid i chi ddangos y fersiwn wreiddiol o鈥檆h ID ffotograffig. Ni allwch ddefnyddio ffotograff, delwedd ar ff么n na llungopi o鈥檆h ID.听

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 llun ar eich ID edrych fel chi. Gallwch ddefnyddio eich ID hyd yn oed os na fydd y dyddiad yn ddilys bellach.

Bydd angen un o鈥檙 mathau canlynol o ID ffotograffig arnoch i bleidleisio:

  • trwydded yrru cerdyn-llun ar gyfer y DU neu Ogledd Iwerddon (llawn neu dros dro)
  • trwydded yrru a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr I芒, Liechtenstein, Ynys Manaw neu unrhyw un o Ynysoedd y Sianel
  • pasbort y DU
  • pasbort a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr I芒, Liechtenstein neu un o wledydd y Gymanwlad
  • cerdyn PASS (Cynllun Safonau Prawf Oedran Cenedlaethol)
  • Bathodyn Glas
  • trwydded preswylio fiometrig
  • Cerdyn Adnabod Amddiffyn (Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn)
  • cerdyn adnabod cenedlaethol a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol Gogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen Etholwr Dienw

Gallwch hefyd ddefnyddio un o鈥檙 cardiau teithio canlynol fel ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio:

  • p脿s bws person h欧n
  • p脿s bws person anabl
  • cerdyn Oyster 60+
  • P脿s Freedom
  • Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban (NEC)
  • Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl 60 Oed a Throsodd yng Nghymru
  • Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl Anabl yng Nghymru

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig sy鈥檔 caniat谩u i chi bleidleisio, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim. Dogfen bapur yw Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr sy鈥檔 dangos eich llun a gellir ei defnyddio i brofi pwy ydych chi pan fyddwch yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.听

Gallwch naill ai:

Os byddwch yn pleidleisio fel dirprwy rhywun

Bydd angen i chi fynd 芒鈥檆h ID eich hun pan fyddwch yn mynd i bleidleisio ar ran rhywun arall. Nid oes angen i chi fynd ag ID yr unigolyn.

Os ydych wedi newid eich enw

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 enw ar eich ID gyfateb i鈥檆h enw ar y gofrestr etholiadol. Os nad yw鈥檔 cyfateb, bydd angen i chi wneud un o鈥檙 pethau canlynol:

  • cofrestru i bleidleisio eto gyda鈥檆h manylion newydd
  • mynd 芒 dogfen gyda chi i bleidleisio sy鈥檔 profi eich bod wedi newid eich enw (er enghraifft, tystysgrif priodas)

Nid yw gwahaniaethau bach yn bwysig. Er enghraifft, os yw eich ID yn dweud 鈥楯im Smith鈥� yn hytrach na 鈥楯ames Smith鈥�.

7. Pleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall

Mae鈥檔 bosibl y gofynnir i chi bleidleisio ar ran rhywun arall os na fydd yr unigolyn hwnnw yn gallu pleidleisio yn bersonol. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Er mwyn bod yn ddirprwy, rhaid i chi fodloni鈥檙 canlynol:

  • bod wedi鈥檆h cofrestru i bleidleisio
  • bod yn gallu pleidleisio yn y math o etholiad sy鈥檔 cael ei gynna
  • bod yn gallu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar ei gerdyn pleidleisio

Ar ran pwy y gallwch weithredu fel dirprwy

Gallwch fod yn ddirprwy ar gyfer naill ai:

  • hyd at ddau berson聽
  • hyd at bedwar person os bydd o leiaf ddau ohonynt wedi鈥檜 cofrestru i bleidleisio o dramor

Pleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun sydd wedi cofrestru i bleidleisio i bleidleisio o dramor聽

Bydd y person rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei ran wedi cofrestru i bleidleisio o dramor os yw naill ai:聽

  • yn ddinesydd Prydeinig sy鈥檔 byw dramor (a elwir yn 鈥榖leidleisiwr tramor鈥�)听
  • yn byw dramor oherwydd gwaith i鈥檙 lluoedd arfog neu鈥檙 Llywodraeth (a elwir yn 鈥榖leidleisiwr yn y lluoedd arfog鈥�)

Pleidleiswyr yn y lluoedd arfog

Bydd pleidleiswyr yn y lluoedd arfog yn gwneud 鈥榙atganiad gwasanaeth鈥� pan fyddant yn cofrestru i bleidleisio. Mae鈥檔 rhaid iddynt fod naill ai:聽

Pleidleisio drwy ddirprwy yn bersonol

Cyn i chi bleidleisio, dylech gael gwybod pa ymgeisydd (neu ganlyniad refferendwm) y mae鈥檙 unigolyn am bleidleisio ar ei gyfer.

Bydd angen i chi bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio y mae鈥檙 unigolyn rydych yn ddirprwy ar ei ran yn pleidleisio ynddi fel arfer. Efallai y bydd yr orsaf bleidleisio hon yn wahanol i鈥檙 orsaf bleidleisio rydych chi鈥檔 pleidleisio ynddi.

Os nad ydych yn gwybod pa orsaf bleidleisio y dylech fynd iddi, cysylltwch 芒 Swyddfa Cofrestru Etholiadol y person rydych yn ddirprwy ar ei gyfer.听

Efallai y bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn rhai etholiadau. Cadarnhewch pa ID ffotograffig y bydd ei angen arnoch. Nid oes angen i chi ddangos ID yr unigolyn rydych yn ddirprwy ar ei ran.

Os na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei gyfer

Gallwch wneud cais i bleidleisio fel dirprwy drwy鈥檙 post.

Bydd angen i chi gysylltu 芒 Swyddfa Cofrestru Etholiadol yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei gyfer i gael ffurflen gais er mwyn pleidleisio fel dirprwy drwy鈥檙 post. Ni allwch gael gafael ar y ffurflen hon ar-lein.