Cofrestru i bleidleisio
Gallwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- ychwanegu eich enw at y gofrestr etholiadol er mwyn i chi allu pleidleisio mewn etholiadau neu refferenda
- ychwanegu eich enw at y gofrestr agored neu dynnu eich enw oddi arni
- diweddaru eich enw, eich cyfeiriad neu鈥檆h cenedligrwydd drwy ailgofrestru gan ddefnyddio eich manylion newydd (os ydych yn byw yn y DU)
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau ar 1 Mai 2025 yn Lloegr
Cofrestrwch erbyn 11:59pm ar 11 Ebrill 2025 i bleidleisio yn yr etholiadau canlynol ar 1 Mai 2025:
- etholiadau llywodraeth leol
- etholiadau cynghorau plwyf
- etholiadau maerol awdurdodau lleol
- etholiadau maerol awdurdodau cyfun
- etholiadau maerol awdurdodau sirol cyfun
Pwy sy鈥檔 cael cofrestru
Os ydych yn byw yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon
Mae鈥檔 rhaid i chi fod yn 16 oed neu drosodd.
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu鈥檔 ddinesydd Gwyddelig.聽
Gallwch hefyd gofrestru os oes gennych ganiat芒d i ddod i mewn i鈥檙 DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno 鈥� neu os nad oes angen caniat芒d o鈥檙 fath arnoch 鈥� a鈥檆h bod:
- yn ddinesydd o鈥檙 Gymanwlad
- yn ddinesydd o Ddenmarc, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Sbaen聽
- yn ddinesydd o wlad arall yn yr UE, os bu gennych ganiat芒d i ddod i mewn neu i aros 鈥� neu os na fu angen caniat芒d o鈥檙 fath arnoch 鈥� ers 31 Rhagfyr 2020, a bod hyn wedi parhau heb doriad
Os ydych yn byw yn yr Alban
Mae鈥檔 rhaid i chi fod yn 14 oed neu drosodd.
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn ddinesydd Prydeinig neu鈥檔 ddinesydd Gwyddelig.
Gallwch hefyd gofrestru os oes gennych ganiat芒d i ddod i mewn i鈥檙 DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno, neu os nad oes angen caniat芒d o鈥檙 fath arnoch.
Os ydych yn byw yng Nghymru
Mae鈥檔 rhaid i chi fod yn 14 oed neu drosodd.
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gwyddelig neu鈥檔 ddinesydd o wlad yn yr UE.
Gallwch hefyd gofrestru os oes gennych ganiat芒d i ddod i mewn i鈥檙 DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros yno, neu os nad oes angen caniat芒d o鈥檙 fath arnoch.
Gallwch bleidleisio pan fyddwch chi鈥檔 18 oed neu鈥檔 h欧n. Os ydych chi鈥檔 byw yng Nghymru neu yn yr Alban, gallwch bleidleisio mewn rhai etholiadau pan fyddwch chi鈥檔 16 oed neu鈥檔 h欧n.
Fel arfer, dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru - nid ar gyfer pob etholiad. Bydd angen i chi gofrestru eto os ydych chi wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu eich cenedligrwydd.
Cofrestru ar-lein
Bydd yn cymryd tua 5 munud fel arfer.
Beth mae angen i chi wybod
Gofynnir i chi am eich rhif Yswiriant Gwladol (ond gallwch gofrestru os nad oes gennych un).
Dod o hyd i鈥檆h rhif Yswiriant Gwladol.
Ar 么l i chi gofrestru, bydd eich enw a鈥檆h cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol.
Mae proses wahanol i gofrestru鈥檔 ddienw, er enghraifft os ydych chi鈥檔 poeni am eich diogelwch chi neu ddiogelwch rhywun yn eich cartref.
Gwiriwch a ydych chi eisoes wedi cofrestru
Cysylltwch 芒鈥檆h Swyddfa Cofrestru Etholiadol i weld a ydych chi eisoes wedi cofrestru i bleidleisio.
Diweddaru eich cofrestriad
Os ydych yn byw yn y DU, gallwch hefyd ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- newid eich enw, eich cyfeiriad neu鈥檆h cenedligrwydd
- ychwanegu eich enw at y gofrestr agored neu dynnu eich enw oddi arni
Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi ailgofrestru gan ddefnyddio eich manylion newydd (hyd yn oed os ydych eisoes wedi鈥檆h cofrestru i bleidleisio).
Cofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur
Gallwch gofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur yng Nghymru, Lloegr a鈥檙 Alban.
Bydd angen i chi argraffu, llenwi ac anfon y ffurflen at eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, gallwch a鈥檌 dychwelyd i .
Os ydych yn byw dramor
Gallwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn i gofrestru i bleidleisio os ydych yn ddinesydd Prydeinig.
Efallai y bydd angen manylion eich pasbort arnoch.
Er mwyn adnewyddu eich cofrestriad neu ddiweddaru eich enw, eich cyfeiriad neu鈥檆h cenedligrwydd, cysylltwch 芒鈥檙 Swyddfa Cofrestru Etholiadol a gadarnhaodd eich bod wedi鈥檆h cofrestru fel pleidleisiwr tramor.
Os oeddech chi鈥檔 byw yng Ngogledd Iwerddon o鈥檙 blaen ac yn dymuno pleidleisio yno, defnyddiwch .
Os ydych chi鈥檔 was cyhoeddus sydd wedi cael ei anfon dramor
Mae gwasanaeth gwahanol ar gyfer gweision cyhoeddus (a鈥檜 priod a鈥檜 partneriaid sifil) sy鈥檔 cael eu hanfon dramor fel:
Cael help i gofrestru
Gallwch gael help i gofrestru yn eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.