Rhoi gwybod i CThEF am newid i鈥檆h manylion personol
Newid enw neu gyfeiriad
Mae angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych wedi newid eich enw neu鈥檆h cyfeiriad. Mae sut rydych yn mynd ati i gysylltu 芒 CThEF yn dibynnu ar eich sefyllfa.
Bydd hefyd angen i chi newid eich cofnodion busnes (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn rhedeg busnes.
Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd eich manylion yn cael eu diweddaru unwaith i chi roi gwybod am newid enw neu gyfeiriad.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi newid eich cyfeiriad.
. Bydd angen i chi fewngofnodi. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Gallwch hefyd roi gwybod i CThEF fod eich enw neu鈥檆h cyfeiriad wedi newid drwy ddefnyddio ap CThEF.
Bydd eich enw鈥檔 cael ei ddiweddaru鈥檔 awtomatig os byddwch yn newid rhywedd.
Os yw CThEF wedi cysylltu 芒 chi yn gofyn i chi gadarnhau eich manylion personol, dysgwch pa dystiolaeth y mae angen i chi ei hanfon a sut i鈥檞 hanfon.
Asiantau treth
Os ydych yn asiant treth (er enghraifft, cyfrifydd), rhowch wybod i CThEF am newid i enw neu gyfeiriad: