Rhoi gwybod i CThEF pan fyddwch yn newid eich cyfeiriad
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddiweddaru eich cyfeiriad ar gyfer:
- Budd-dal Plant
- Treth Incwm
- Yswiriant Gwladol
- Pensiwn y Wladwriaeth
- credydau treth
Mae ffordd wahanol o ddiweddaru鈥檆h manylion ar gyfer treth busnes.
Mae angen i chi aros hyd nes eich bod wedi symud cyn rhoi gwybod i CThEF am eich cyfeiriad newydd.
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyn i chi ddechrau
I ddiweddaru鈥檆h cyfeiriad, mae angen i chi fewngofnodi i鈥檆h cyfrif treth personol.
Os nad oes gennych gyfrif treth personol
Gallwch greu cyfrif treth personol pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.
Cewch wybod pan rydych yn mewngofnodi a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw鈥檆h manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.
Gallwch hefyd ddefnyddio鈥檆h cyfrif treth personol i wirio鈥檆h cofnodion gyda CThEF a rheoli鈥檆h manylion eraill.