Canllawiau

Lawrlwytho ap CThEF

Sut i lawrlwytho a chael mynediad at ap CThEF ar ddyfais symudol er mwyn dod o hyd i wybodaeth am eich treth, eich Yswiriant Gwladol, eich credydau treth a鈥檆h buddiannau.

Gwyliwch ein fideo YouTube i weld y gwasanaethau sydd ar gael ar ap CThEF:

Cael yr ap

Gallwch lawrlwytho鈥檙 ap trwy ddilyn y cysylltiadau isod:

Yr hyn mae鈥檙 ap yn ei wneud

Mae defnyddio ap CThEF yn ffordd hawdd a chyflym i gael gwybodaeth am eich treth, Yswiriant Gwladol, credydau treth a鈥檆h budd-daliadau.

Gallwch ei ddefnyddio i wirio鈥檙 canlynol:

  • eich cod treth
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich incwm a鈥檆h budd-daliadau
  • hanes eich cyflogaeth a hanes eich incwm o鈥檙 5 mlynedd flaenorol
  • eich credydau treth, faint y byddwch yn ei gael a phryd y byddant yn cael eu talu
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
  • faint o dreth Hunanasesiad sydd arnoch
  • eich Budd-dal Plant
  • rhagolwg o鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth
  • bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Gallwch hefyd ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • cael amcangyfrif o鈥檙 dreth y bydd yn rhaid i chi ei thalu
  • gwneud taliad Hunanasesiad
  • gwneud taliadau Asesiad Syml
  • gosod nodyn atgoffa i wneud taliad Hunanasesiad
  • rhoi gwybod am newidiadau o ran credydau treth a llenwi鈥檆h adnewyddiad
  • cael mynediad at eich cyfrif Cymorth i Gynilo
  • defnyddio ein cyfrifiannell treth er mwyn cyfrifo鈥檆h cyflog clir ar 么l didyniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol
  • dilyn trywydd y ffurflenni a llythyrau rydych wedi鈥檜 hanfon atom
  • gwneud cais am ad-daliad os ydych wedi talu gormod o dreth
  • gofyn i gynorthwyydd digidol CThEF am help a gwybodaeth
  • diweddaru鈥檆h enw
  • diweddaru鈥檆h cyfeiriad post
  • ychwanegu鈥檆h rhif Yswiriant Gwladol at eich waled ddigidol
  • dewis i CThEF gysylltu 芒 chi yn electronig, yn hytrach na drwy lythyr
  • gwirio a oes unrhyw fylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, a鈥檙 buddion a ddaw o鈥檜 talu
  • gwirio a allwch dalu i lenwi bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Sut i gael mynediad at yr ap

Agorwch yr ap a nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a鈥檆h cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth er mwyn mewngofnodi am y tro cyntaf. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un yn yr ap.

Wedyn, byddwch yn gallu cael mynediad at yr ap yn hawdd ac yn gyflym gan fewngofnodi gan ddefnyddio鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:

  • PIN 6 digid
  • 么l eich bys
  • dull adnabod wynebau

Os nad oes gennych gyfeiriad yn y DU, ac nad ydych yn gwybod beth yw鈥檆h rhif Yswiriant Gwladol, dilynwch yr arweiniad ynghylch sut i ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol sydd ar goll.

Pa mor hygyrch yw鈥檙 ap

Rydym am i gymaint o bobl 芒 phosibl allu defnyddio ap CThEF. Mae ein datganiadau hygyrchedd yn esbonio sut mae鈥檙 ap yn gweithio gyda thechnolegau cynorthwyol:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 Ionawr 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. The 'Make life easier with the HMRC app' YouTube video has been updated.

  3. You can now use the HRMC app to make a Simple Assessment payment, check for gaps in National Insurance contributions and also check if you can make online payments for gaps in your National Insurance contributions.

  4. If you do not have a UK address and you do not know your National Insurance number, follow the guidance to find a lost National Insurance number before trying to create a Government Gateway user ID.

  5. You can now use the HMRC app to update your name, save your National Insurance number to your digital wallet and to get help from HMRC's digital assistant.

  6. This page has been updated to show you can use the HMRC app to check your Child Benefit and State Pension, set a reminder to make a Self Assessment payment and choosing to be contacted by HMRC electronically instead of by paper.

  7. Added translation.

  8. Links to the accessibility statements for the HMRC app have been added.

  9. First published.

Argraffu'r dudalen hon