Sut i brisio ystad at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth
Printable version
1. Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
I ganfod a oes Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu, mae angen i chi brisio arian, eiddo a meddiannau (鈥榶stad鈥�) yr unigolyn a fu farw.
Rhaid i chi wneud hyn cyn gwneud cais am brofiant (os oes ei angen arnoch).
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Bydd angen i chi gwblhau 3 prif dasg pan fyddwch yn prisio鈥檙 ystad.
-
Nodi asedion a dyledion yr ymadawedig megis cynilion, buddsoddiadau, morgeisi a benthyciadau.
-
Amcangyfrif gwerth yr ystad. Bydd hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn rhoi gwybod am y gwerth, a鈥檙 dyddiadau cau ar gyfer rhoi gwybod am, a thalu, unrhyw Dreth Etifeddiant. Nid yw鈥檙 rhan fwyaf o ystadau鈥檔 cael eu trethu.
-
Rhoi gwybod am werth yr ystad 鈥� mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad 补鈥檌 gwerth.
Faint o amser y mae鈥檔 ei gymryd
Mae prisio ystad yn gallu cymryd sawl mis, ond mae鈥檔 gallu cymryd mwy o amser os yw鈥檔 ystad fawr neu gymhleth (er enghraifft, os yw鈥檔 ymwneud ag ymddiriedolaethau neu os oes treth i鈥檞 thalu).
Dyddiadau cau
Dim ond os oes ar yr ystad Dreth Etifeddiant y mae yna ddyddiadau cau.
Os oes ar yr ystad Dreth Etifeddiant, bydd angen i chi:
- ddechrau talu treth erbyn diwedd y chweched mis ar 么l i鈥檙 person farw a cyn i chi wneud cais am brofiant 鈥� gallwch wneud taliad cyn i chi orffen prisio鈥檙 ystad
- anfon ffurflenni Treth Etifeddiant cyn pen blwyddyn
Cael help
Gallwch gyflogi gweithiwr proffesiynol (er enghraifft cyfreithiwr) i helpu gyda rhai neu bob un o鈥檙 tasgau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phrisio ystad.
Mae gwefan HelpwrArian yn rhoi arweiniad ynghylch . Mae gwefan Law Donut yn rhoi cyngor ynghylch .
2. Nodi asedion a dyledion
Cyn y gallwch brisio arian, eiddo a meddiannau鈥檙 ymadawedig (ei ystad), bydd angen i chi nodi鈥檙 pethau yr oedd yn berchen arnynt (ei asedion) 补鈥檌 ddyledion.
Mae asedion yn cynnwys pethau fel cyfrifon banc, cynilion a phensiynau, yn ogystal ag eiddo, nwyddau i鈥檙 t欧 ac eitemau personol.
Mae dyledion yn cynnwys pethau fel biliau cyfleustodau, morgeisi ac arian sy鈥檔 ddyledus ar gardiau credyd. Maent hefyd yn cynnwys costau angladd, megis cost trefnydd angladdau, carreg fedd neu blac, a lluniaeth.
Yna, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
- cael gwybod pa sefydliadau y dylid cysylltu 芒 nhw (gallwch wneud hyn drwy chwilio drwy bapurau鈥檙 ymadawedig neu drwy ofyn i ffrindiau, teulu ac unrhyw gyfreithiwr neu gyfrifydd a oedd gan yr unigolyn)
- ysgrifennu at y sefydliadau hyn i ofyn am werth yr ased neu鈥檙 ddyled pan fu鈥檙 unigolyn farw (bydd angen i chi gynnwys copi o鈥檙 dystysgrif marwolaeth)
Pa sefydliadau y dylid cysylltu 芒 nhw
Mae sefydliadau sy鈥檔 dal asedion yn aml yn cynnwys:
- banc yr unigolyn
- darparwr pensiwn yr unigolyn 鈥� gofynnwch a ddylech gynnwys pensiwn preifat pan fyddwch yn prisio鈥檙 ystad
- cyflogwr yr unigolyn 鈥� mae鈥檔 bosibl bod cyflog yn ddyledus i鈥檙 unigolyn
- unrhyw gwmn茂au yr oedd gan yr unigolyn gyfranddaliadau ynddynt 鈥� dylech gynnwys nifer y cyfranddaliadau, manylion y cwmni a rhif tystysgrif y cyfranddaliadau (os oes gennych hwn)
- Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) ar gyfer Bondiau Premiwm 鈥� defnyddiwch y os na allwch ddod o hyd i dystysgrifau
- sefydliadau eraill sy鈥檔 dal asedion fel cyfrifon ISA, cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu asedion mewn ymddiriedolaeth (yn Saesneg)
- y landlord, os oedd gan yr unigolyn 鈥� efallai ei fod wedi talu rhent ymlaen llaw
Yn eich llythyr i鈥檙 banc, dylech hefyd holi ynghylch:
- unrhyw archebion sefydlog a debydau uniongyrchol sydd i鈥檞 stopio (neu sydd i鈥檞 trosglwyddo os oeddent mewn enw ar y cyd)
- rhestr o unrhyw dystysgrifau cyfranddaliadau neu weithredoedd yr oedd y banc yn eu dal ar ran yr unigolyn a fu farw
Os oedd gan yr unigolyn forgais
Gofynnwch i鈥檙 benthyciwr morgeisi a fydd angen i daliadau barhau tra rydych yn gwneud cais am brofiant. Os felly, bydd yn rhaid i chi wneud y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- talu鈥檙 biliau hyn eich hun 鈥� a鈥檜 hawlio鈥檔 么l o鈥檙 ystad unwaith y bydd gennych brofiant
- gwirio a oedd gan yr unigolyn yswiriant bywyd neu bolisi diogelu morgais sy鈥檔 cwmpasu鈥檙 taliadau hyn
3. Amcangyfrif gwerth yr ystad
Bydd angen amcangyfrif arnoch o werth yr ystad (arian, eiddo a meddiannau鈥檙 ymadawedig) er mwyn canfod a oes Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu.
Fel arfer, does dim Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall yn berthnasol:
- mae gwerth yr ystad o dan y trothwy, sef 拢325,000
- rydych yn gadael popeth sydd uwchben y trothwy o 拢325,000 i鈥檆h priod, partner sifil, elusen, neu glwb chwaraeon amatur cymunedol
Os mai gweddw oedd yr unigolyn a fu farw, neu os yw鈥檔 rhoi ei gartref i ffwrdd i鈥檞 blant, gall y trothwy treth fod yn uwch.
Cyfrifo鈥檆h amcangyfrif
Bydd angen i chi amcangyfrif cyfanswm gwerth yr ystad. Mae hyn yn cynnwys:
- gwerth y pethau yr oedd yr unigolyn yn berchen arnynt (ei asedion) ar y diwrnod y bu farw
- unrhyw roddion a wnaeth, megis arian parod neu eitemau gwerthfawr, yn ystod y 7 mlynedd cyn marw
- gwerth unrhyw ymddiriedolaethau yr oedd gan yr unigolyn fuddiant llesiannol ynddynt
Ar yr adeg hon, bydd dim ond angen i鈥檆h amcangyfrif fod yn ddigon cywir i chi wybod a oes treth yn daladwy ar yr ystad. Bydd angen prisiadau cywir arnoch os oes treth yn daladwy.
Gallwch gyfrifo鈥檙 amcangyfrif eich hun, neu gallwch ddefnyddio鈥檙 gwiriwr Treth Etifeddiant.
Defnyddio鈥檙 gwiriwr Treth Etifeddiant ar-lein
Bydd y gwiriwr yn:
- rhoi i chi amcangyfrif o werth yr ystad
- eich helpu i benderfynu a oes unrhyw Dreth Etifeddiant yn debygol o fod yn ddyledus ai peidio
Nid yw鈥檙 gwiriwr yn:
- cyfrifo swm y Dreth Etifeddiant sy鈥檔 ddyledus
- rhoi gwybod i HMRC am werth terfynol yr ystad
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch i amcangyfrif gwerth yr ystad:
- manylion asedion yr unigolyn, gan gynnwys asedion ar y cyd
- manylion unrhyw roddion a wnaeth
Prisio鈥檙 asedion
Dechreuwch drwy restru asedion yr unigolyn 鈥� y pethau yr oedd yr unigolyn yn berchen arnynt a oedd 芒 gwerth ariannol.
Gallai鈥檙 rhain gynnwys:
- eu cartref
- unrhyw eiddo arall, adeiladau eraill neu dir arall
- arian mewn banciau, cymdeithasau adeiladu neu gyfrifon ISA, neu arian parod yn eu cartref
- stociau a chyfranddaliadau
- eitemau i鈥檙 t欧 ac eitemau personol, gan gynnwys dodrefn, paentiadau a gemwaith
- ceir, carafannau neu gychod
- asedion tramor, megis eiddo tramor
- arian sy鈥檔 ddyledus iddynt 鈥� er enghraifft, cyflog neu ad-daliadau o filiau鈥檙 cartref
- taliadau pan fu鈥檙 unigolyn farw 鈥� er enghraifft, yswiriant bywyd neu gyfandaliad 鈥榖uddiant marwolaeth鈥� o bensiwn
Yna, amcangyfrifwch werth pob un ar y dyddiad y bu鈥檙 unigolyn farw.
Dylech gynnwys pob ased yn eich amcangyfrif. Mae hyn yn cynnwys unrhyw asedion a adawyd i briod neu bartner sifil yr unigolyn, neu i elusen 鈥� ni fyddwch yn talu treth ar yr asedion hyn.
Ar gyfer eitemau megis gemwaith, paentiadau neu nwyddau eraill i鈥檙 t欧, cyfrifwch faint y byddech wedi鈥檌 gael pe baech wedi鈥檜 gwerthu ar y farchnad agored. Gallwch ddefnyddio marchnadfeydd ar-lein i helpu i gyfrifo eu gwerth.
Prisio asedion ar y cyd
Mae angen i chi ganfod pa asedion yr oedd yr unigolyn yn berchen arnynt ar y cyd 芒 rhywun arall, a sut y perchenogwyd yr asedion hynny.
Mae鈥檙 rheolau ar gyfer prisio asedion ar y cyd, megis eiddo, gemwaith neu baentiadau, yn amrywio yn dibynnu a oedd y bobl dan sylw yn berchen arnynt fel:
- 鈥榗yd-denantiaid鈥� (鈥榗ydberchnogion鈥� yn yr Alban)
- 鈥榯enantiaid cydradd鈥� (鈥榩erchnogion cydradd鈥� yn yr Alban)
Cyd-denantiaid
Mae cyd-denantiaid yn trosglwyddo unrhyw asedion, megis tir neu eiddo, yn awtomatig i鈥檙 perchnogion eraill os bydd un ohonynt yn marw.
Os perchenogwyd yr ased, megis tir neu eiddo, fel cyd-denant gyda phriod neu bartner sifil yr unigolyn, rhannwch werth yr ased 芒 2.
Os perchenogwyd y tir neu鈥檙 eiddo gyda chyd-denantiaid eraill, er enghraifft ffrindiau, brodyr neu chwiorydd, gwnewch y naill a鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- rhannu鈥檙 gwerth 芒 nifer y perchnogion
- didynnu 10% oddi wrth gyfran yr unigolyn a fu farw
Enghraifft
Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo fel cyd-denant gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw 拢200,000 ar y dyddiad y buodd farw, sy鈥檔 rhoi cyfran o 拢50,000 iddo (拢200,000 wedi鈥檜 rhannu 芒 4).
Ar 么l didynnu 10% (拢5,000) oddi wrth gyfran 拢50,000 yr ymadawedig, y gwerth terfynol yw 拢45,000 (拢50,000 - 拢5,000 = 拢45,000).
Yn yr Alban, os perchenogwyd tir neu eiddo ar y cyd 芒 phobl eraill (ac eithrio priod neu bartner sifil), didynnwch 拢4,000 oddi wrth werth yr ased cyfan cyn cyfrifo cyfran yr ymadawedig.
Enghraifft
Roedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo yn yr Alban fel cydberchennog gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw 拢200,000 ar y dyddiad y buodd farw.
Ar 么l i 拢4,000 gael ei ddidynnu oddi wrth gyfanswm gwerth yr eiddo, mae 拢196,000 yn weddill (拢200,000 - 拢4,000).
Ar 么l rhannu hyn 芒 nifer y perchnogion, cyfran yr ymadawedig o鈥檙 eiddo yw 拢49,000 (拢196,000 wedi鈥檜 rhannu 芒 4).
Er mwyn prisio cyfrif banc ar y cyd, rhannwch y swm 芒 nifer y deiliaid cyfrif, oni bai bod y cyfrif yn un ar y cyd er cyfleustra yn unig. Er enghraifft, efallai y bydd person h欧n yn ychwanegu ei blentyn er mwyn ei helpu gyda鈥檙 cyfrif. Os felly, defnyddiwch y swm yr oedd yr ymadawedig yn berchen arno mewn gwirionedd yn lle hynny.
Tenantiaid cydradd
Mae鈥檙 rheolau鈥檔 wahanol ar gyfer tenantiaid cydradd, gan nad yw tenantiaid cydradd yn trosglwyddo鈥檔 awtomatig unrhyw asedion y maent yn berchen arnynt ar y cyd.
Os oedd yr ymadawedig yn berchen ar eiddo neu dir ar y cyd fel tenant cydradd, cyfrifwch y gwerth yn seiliedig ar ei gyfran.
Cyfrifo gwerth unrhyw roddion
Mae angen i chi gyfrifo gwerth unrhyw roddion a wnaed gan yr unigolyn a fu farw.
Dim ond os gwnaed y rhoddion yn ystod y 7 mlynedd cyn i鈥檙 unigolyn farw a dim ond os oedd cyfanswm gwerth y rhoddion dros yr eithriad blynyddol o 拢3,000 y mae rhoddion yn cyfrif tuag at werth ystad.
Os bydd unigolyn yn byw am 7 mlynedd ar 么l gwneud rhodd, ni fydd Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu.
Mae unrhyw rodd yr oedd unigolyn yn parhau i gael budd ohoni cyn iddynt farw hefyd yn cyfrif tuag at werth ystad 鈥� er enghraifft, os gwnaeth yr unigolyn roi t欧 i ffwrdd ond ei fod yn byw ynddo鈥檔 ddi-rent (yr enw ar hyn yw 鈥榬hodd 芒 budd amodol鈥�).
Does dim Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu ar roddion i elusennau neu bleidiau gwleidyddol.
Yr hyn sy鈥檔 cyfrif fel rhodd
Gall rhodd gynnwys:
- arian
- nwyddau鈥檙 t欧 a nwyddau personol, er enghraifft dodrefn, gemwaith neu hynafolion
- t欧, tir neu adeiladau
- stociau a chyfranddaliadau sydd wedi鈥檜 rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain
- cyfranddaliadau heb eu rhestru, a ddaliwyd am lai na 2 flynedd cyn i鈥檙 unigolyn farw
Gwirio am roddion
Gallwch wirio am roddion drwy wneud y canlynol:
- darllen drwy gyfriflenni banc
- siarad ag aelodau o鈥檙 teulu
- edrych drwy ddogfennau ariannol
Cofnodwch werth unrhyw rodd a鈥檙 dyddiad rhoi.
Amcangyfrif gwerth y rhodd
I amcangyfrif gwerth pob rhodd, defnyddiwch y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol:
- amcangyfrif o werth y rhodd ar yr adeg y cafodd ei rhoi (pris gwerthu realistig)
- pris realistig ar gyfer gwerthu鈥檙 rhodd, os oedd yr ymadawedig yn parhau i gael budd o鈥檙 rhodd ar 么l ei rhoi i ffwrdd (sef 鈥榬hodd 芒 budd amodol鈥�)
Dyledion
Peidiwch 芒 chynnwys dyledion yr ystad wrth amcangyfrif y gwerth gros. Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (HMRC) am unrhyw ddyledion wrth roi gwybod am werth yr ystad.
Gwiriwch am gofnodion o ddyledion pan fu farw鈥檙 unigolyn, er enghraifft:
- ei forgais, benthyciadau, cardiau credyd neu orddrafftiau
- 鈥榬hwymedigaethau鈥� megis biliau鈥檙 cartref neu filiau am nwyddau neu wasanaethau yr oedd yr unigolyn wedi鈥檜 cael ond heb dalu amdanynt eto (megis gwaith adeiladu, peintwyr a phapurwyr, cyfrifwyr)
Yr hyn i鈥檞 wneud nesaf
Gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am werth yr ystad.
4. Gwirio a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad
Cyn i chi roi gwybod am werth yr ystad (arian, eiddo a meddiannau鈥檙 ymadawedig), gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad, fel eich bod yn llenwi鈥檙 ffurflenni cywir.
Mae鈥檙 wybodaeth y mae angen i chi ei darparu, a sut y gwnewch hyn, yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys a yw Treth Etifeddiant yn ddyledus ai peidio.
Mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir.
Os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus
Bydd angen i chi roi manylion llawn am yr ystad os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Gallwch ddefnyddio鈥檙 gwiriwr ar-lein i gael gwybod a yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Dysgwch beth mae angen i chi ei wneud os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Pryd i anfon manylion llawn am werth yr ystad, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus
Bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystad, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus, os yw un o鈥檙 canlynol yn wir am yr unigolyn a fu farw:
- rhoddodd dros 拢250,000 i ffwrdd yn ystod y 7 mlynedd cyn iddynt farw
- gwnaeth roddion ac yna parhau i gael budd ohonynt yn ystod y 7 mlynedd cyn iddynt farw
- gadawodd ystad werth mwy na 拢3 miliwn
- 鈥榶styriwyd ei fod yn breswylydd domisil鈥� yn y DU (yn Saesneg)
- roedd ganddynt asedion tramor a oedd werth mwy na 拢100,000
- roedd yn byw鈥檔 barhaol y tu allan i鈥檙 DU pan fu farw, ond roedd wedi byw yn y DU yn flaenorol
- roedd ganddynt bolisi yswiriant bywyd a dalodd arian i rywun heblaw ei briod neu ei bartner sifil, ac roedd ganddo flwydd-dal hefyd
- roedd wedi cynyddu gwerth cyfandaliad o bensiwn personol i鈥檞 dalu ar 么l ei farwolaeth, tra oedd salwch angheuol arnynt neu fod ei iechyd yn wael
- roedd wedi cytuno y byddai eiddo a roddwyd i ffwrdd ganddynt yn ystod ei fywyd yn ffurfio rhan o鈥檌 ystad, yn hytrach na thalu ffi am asedion yr oedd yn berchen arnynt yn flaenorol (yn Saesneg)
Mae rheolau gwahanol os bu farw鈥檙 un igolyn ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn Saesneg).
Os yw鈥檙 ystad yn cynnwys ymddiriedolaethau
Bydd angen i chi gwblhau cyfrif llawn os yw un o鈥檙 canlynol yn wir am yr ymadawedig:
- gwnaeth roddion a dalwyd i mewn i ymddiriedolaethau
- roedd yn dal asedion a oedd yn werth mwy na 拢250,000 mewn ymddiriedolaeth
- roedd yn dal mwy nag un ymddiriedolaeth
Bydd angen i chi hefyd gwblhau cyfrif llawn os cafodd asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth eu pasio i briod neu bartner sifil sy鈥檔 fyw neu i elusen, ac os mai gwerth yr ymddiriedolaeth oedd:
- 拢1 filiwn neu fwy
- 拢250,000 neu fwy, ar 么l didynnu鈥檙 swm sy鈥檔 cael ei basio i鈥檙 priod neu鈥檙 partner sifil sy鈥檔 fyw neu i elusen
Pryd nad oes angen manylion llawn 鈥� 鈥榶stadau eithriedig鈥�
Nid oes angen i chi roi manylion llawn am werth ystad os yw pob un o鈥檙 canlynol yn wir:
- mae鈥檙 ystad yn cyfrif fel 鈥榶stad eithriedig鈥�
- nid oes Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu
- rydych wedi gwirio nad yw鈥檙 un o鈥檙 rhesymau o dan 鈥楶ryd i anfon manylion llawn am werth yr ystad, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus鈥� yn berthnasol
Mae鈥檙 rhan fwyaf o ystadau鈥檔 rhai eithriedig.
Beth sy鈥檔 cyfrif fel ystad eithriedig
Mae ystad fel arfer yn ystad eithriedig os yw unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- mae gwerth yr ystad o dan y trothwy Treth Etifeddiant cyfredol
- gwerth yr ystad yw 拢650,000 neu lai, ac mae unrhyw drothwy sydd heb ei ddefnyddio (yn Saesneg) yn cael ei drosglwyddo oddi wrth briod neu bartner sifil a fu farw gyntaf
- gadawodd yr ymadawedig bopeth i briod neu bartner sifil sy鈥檔 byw yn y DU neu i elusen gymwys, ac mae鈥檙 ystad yn werth llai na 拢3 miliwn (chwiliwch yn y gofrestr elusennau (yn Saesneg) am elusennau sydd wedi鈥檜 cofrestru yn y DU)
- roedd yr ymadawedig yn byw鈥檔 barhaol y tu allan i鈥檙 DU (鈥榩erson sy鈥檔 preswylio dramor鈥�) pan fu farw, ac mae gwerth ei asedion yn y DU o dan 拢150,000
Mae rheolau gwahanol ar gyfer ystadau eithriedig os bu farw鈥檙 unigolyn ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn Saesneg).
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf
Mae鈥檙 broses y mae angen i chi ei dilyn yn dibynnu a ydych yn delio ag:
- ystad lle mae angen cyfrif llawn
- ystad eithriedig
Delio ag ystad eithriedig
Gallwch roi gwybod am werth ystad eithriedig os ydych yn gwneud cais am brofiant. Gwiriwch a oes angen profiant arnoch, a gwnewch gais amdano, os felly.
Does dim angen i chi roi gwybod am werth ystad eithriedig os nad oes angen profiant arnoch.
Mae ffordd wahanol o roi gwybod am ystad eithriedig os bu farw鈥檙 unigolyn ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn Saesneg).
Gwneud cais am brofiant yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon
Mae ffordd wahanol o wneud cais am brofiant os oedd yr ymadawedig yn 苍别耻鈥档 .
Os oes angen help arnoch gyda phrofiant neu werth ystad
Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF os nad ydych yn sicr a fydd angen profiant arnoch neu os bydd gwerth yr ystad yn newid.
Canolfan Gwasanaethau鈥檙 Llysoedd a鈥檙 Tribiwnlysoedd
Rhif ff么n: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 09:00 - 17:00, dydd Gwener, 09:00 鈥� 16:30
Ar gau ar wyliau鈥檙 banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: [email protected]
Os oes angen help arnoch gyda Threth Etifeddiant
Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg HMRC os oes gennych gwestiynau ynghylch Treth Etifeddiant.
5. Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus neu os oes angen manylion llawn
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod am werth yr ystad i Gyllid a Thollau EF (HMRC) drwy lenwi ffurflen IHT400.
Mae鈥檔 rhaid i chi gyflwyno鈥檙 ffurflen cyn pen 12 mis i farwolaeth yr unigolyn.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os byddwch yn methu鈥檙 dyddiad cau.
Cael prisiadau cywir
Bydd angen i chi roi prisiadau cywir wrth i chi lenwi鈥檙 ffurflen.
Gallwch gael prisiad o unrhyw eiddo neu dir gan asiant tai neu syrf毛wr siartredig.
Gallwch hefyd gael prisiad proffesiynol ar gyfer unrhyw beth sy鈥檔 werth dros 拢1,500.
Gallwch amcangyfrif gwerth asedion rhatach, megis nwyddau arferol y t欧 ac eitemau personol fel dodrefn, eitemau trydanol, paentiadau neu emwaith.
Rhoi gwybod am werth yr ystad drwy lenwi ffurflen IHT400
Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen IHT400. Anfonwch hi i鈥檙 cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Gallwch ddarllen arweiniad ar sut i lenwi ffurflen IHT400.
Gallwch ofyn i HMRC gyfrifo faint o Dreth Etifeddiant sy鈥檔 ddyledus, os ydych yn llenwi鈥檙 ffurflen heb help gan weithiwr profiant proffesiynol megis cyfreithiwr. Gallwch wneud hyn wrth lenwi鈥檙 ffurflen.
Os oes angen help arnoch i lenwi鈥檙 ffurflen
Cysylltwch 芒 Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg HMRC i gael help gyda llenwi鈥檙 ffurflen IHT400.
Sut i ddiwygio ffurflen ar 么l ei chyflwyno
Bydd angen i chi lenwi ffurflen cyfrif cywirol (yn Saesneg) 补鈥檌 hanfon i HMRC os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i wybodaeth rydych eisoes wedi鈥檌 chyflwyno.
Talu Treth Etifeddiant
Mae鈥檔 rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar 么l i鈥檙 unigolyn farw. Er enghraifft, os bu farw鈥檙 unigolyn ym mis Ionawr, bydd yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn 31 Gorffennaf.
Gallwch dalu fesul rhandaliad blynyddol ar gyfer rhai pethau a allai gymryd amser i鈥檞 gwerthu, megis t欧.
Bydd angen i chi gael cyfeirnod Treth Etifeddiant gan Gyllid a Thollau EF (HMRC) o leiaf 3 wythnos cyn talu unrhyw dreth.
Pryd y gallwch wneud cais am brofiant
Ar 么l i chi anfon eich ffurflen IHT400 wedi鈥檌 llenwi i HMRC, bydd angen ichi aros i HMRC anfon llythyr gyda chod atoch cyn y gallwch wneud cais am brofiant.
6. Cofnodion
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnodion penodol ar 么l prisio ystad.
Gall Cyllid a Thollau EF (HMRC) ofyn am gael gweld eich cofnodion hyd at 20 mlynedd ar 么l i鈥檙 Dreth Etifeddiant gael ei thalu.
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cop茂au o unrhyw:
- ewyllys
- cop茂au o ffurflenni a dogfennau atodol ynghylch Treth Etifeddiant sydd wedi鈥檜 llofnodi
- cofnodion sy鈥檔 dangos sut y gwnaethoch gyfrifo gwerth asedion yr ystad, er enghraifft prisiad asiant tai
- dogfennau sy鈥檔 dangos unrhyw drothwy Treth Etifeddiant sydd heb ei ddefnyddio a all gael ei drosglwyddo i briod neu bartner sifil sy鈥檔 fyw
- cyfrifon terfynol
Cyfrifon terfynol
Dylech gynnwys unrhyw ddogfennau sy鈥檔 dangos sut y gwnaethoch ddosbarthu arian, eiddo neu feddiannau personol o鈥檙 ystad, er enghraifft:
- llythyrau gan HMRC sy鈥檔 cadarnhau eich bod wedi talu Treth Etifeddiant
- derbynebau sy鈥檔 dangos dyledion wedi鈥檜 talu, er enghraifft biliau cyfleustodau
- derbynebau ar gyfer eich treuliau yn sgil delio 芒鈥檙 ystad
- cadarnhad ar bapur fod y 鈥榖uddiolwyr鈥� (unrhyw un sydd wedi etifeddu) wedi cael eu cyfran o鈥檙 ystad
Anfonwch gop茂au o鈥檙 cyfrifon terfynol at bob buddiolwr.