Talu鈥檆h bil Treth Etifeddiant
Rhandaliad blynyddol
Gallwch dalu eich Treth Etifeddiant ar bethau a all gymryd amser i鈥檞 gwerthu mewn rhandaliadau blynyddol cyfartal dros 10 mlynedd.
Rhaid i chi roi gwybod ar y ffurflen Cyfrif Treth Etifeddiant IHT400 os ydych am dalu fesul rhandaliad.
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu llog ar eich rhandaliadau. Defnyddiwch y cyfrifiannell y bydd angen i chi ei dalu.
Rhaid i chi dalu鈥檙 dreth yn llawn pan fyddwch wedi gwerthu asedion yr ymadawedig, megis ei d欧 neu ei gyfranddaliadau.
Pryd fydd yn rhaid i chi dalu
Mae鈥檙 rhandaliad cyntaf yn ddyledus ar ddiwedd y chweched mis ar 么l y farwolaeth (er enghraifft, os bu farw ar 12 Ionawr, byddai鈥檔 rhaid i chi dalu erbyn 31 Gorffennaf). Gelwir hyn y 鈥榙yddiad dyledus鈥�. Wedyn, mae taliadau鈥檔 ddyledus bob blwyddyn ar y dyddiad hwnnw.
Talu鈥檔 gynnar
Gallwch dalu swm llawn y dreth a鈥檙 llog ar unrhyw adeg. Ysgrifennwch at D卯m Treth Etifeddiant, Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ofyn am asesiad terfynol (nid oes rhaid i chi gynnwys y taliad).
Yr hyn rydych yn talu llog arno
Ni fyddwch yn talu unrhyw log ar y rhandaliad cyntaf oni bai eich bod yn ei dalu鈥檔 hwyr. Ar bob rhandaliad ar 么l hynny, rhaid i chi dalu llog ar y ddau beth canlynol:
- balans llawn y dreth sy鈥檔 ddyledus
- y rhandaliad ei hun, o鈥檙 dyddiad y mae鈥檔 ddyledus hyd at ddyddiad y taliad (os caiff ei dalu鈥檔 hwyr)
Yr hyn y gallwch ei dalu fesul rhandaliad
Tai
Gallwch dalu 10% a鈥檙 llog bob blwyddyn os ydych yn penderfynu cadw鈥檙 t欧 i fyw ynddo.
Cyfranddaliadau a gwarantau
Gallwch dalu fesul rhandaliad os oedd y cyfranddaliadau neu鈥檙 gwarantau yn galluogi鈥檙 ymadawedig i reoli mwy na 50% o gwmni.
Cyfranddaliadau a gwarantau nas rhestrwyd
Gallwch dalu fesul rhandaliad am gyfranddaliadau neu warantau 鈥榥as rhestrwyd鈥� (rhai nad ydynt yn cael eu masnachu ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig) os ydynt yn werth mwy na 拢20,000 a bod y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- maent yn cynrychioli 10% o gyfanswm gwerth y cyfranddaliadau yn y cwmni, am y pris y cawsant eu gwerthu am y tro cyntaf (a elwir yn werth 鈥榥ominal鈥� neu 鈥榞werth enwol鈥�)
- maent yn cynrychioli 10% o gyfanswm gwerth y cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn y cwmni, am y pris y cawsant eu gwerthu am y tro cyntaf
Gallwch ddod o hyd i werth enwol cyfranddaliad, a ph鈥檜n a yw鈥檔 gyfranddaliad cyffredin, ar dystysgrif y cyfranddaliad.
Gallwch hefyd dalu fesul rhandaliad os yw鈥檙 naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- mae o leiaf 20% o gyfanswm y Dreth Etifeddiant sydd ar yr yst芒d ar asedion sy鈥檔 gymwys i gael eu talu fesul rhandaliad
- bydd talu Treth Etifeddiant arnynt mewn un cyfandaliad yn achosi anawsterau ariannol
Busnes sy鈥檔 cael ei weithredu er mwyn elw
Gallwch dalu fesul rhandaliad ar werth net busnes, ond nid ei asedion.
Tir ac eiddo amaethyddol
Mae hyn yn anghyffredin, oherwydd bod y rhan fwyaf o dir ac eiddo amaethyddol wedi鈥檜 heithrio rhag Treth Etifeddiant.
Rhoddion
Gallwch dalu fesul rhandaliad os oes Treth Etifeddiant i鈥檞 thalu o hyd, a rhoddwyd y canlynol i chi:
- adeiladau
- cyfranddaliadau neu warantau
- busnes cyfan neu ran ohono
Os oedd y rhodd yn gyfranddaliad neu warant nas rhestrwyd, mae鈥檔 rhaid ei bod yn dal heb ei rhestru ar adeg y farwolaeth.