Talu鈥檆h bil Treth Etifeddiant
O gyfrif banc, cynilon neu fuddsoddi鈥檙 ymadawedig
Gallwch ofyn i fanciau, cymdeithasau adeiladu neu ddarparwyr buddsoddi dalu rhywfaint neu鈥檙 cyfan o鈥檙 Dreth Etifeddiant sy鈥檔 ddyledus o gyfrifon y person ymadawedig. Gelwir hyn y 鈥楥ynllun Taliadau Uniongyrchol鈥�.
Gall darparwyr buddsoddi gynnwys:
- Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
- cwmn茂au buddsoddi broceriaid
- cyfrifon rheoli cyfoeth
Gallwch ddechrau鈥檙 broses hon cyn bod gennych brofiant (a elwir hefyd yn gadarnhad neu鈥檔 鈥榗onfirmation鈥� yn yr Alban).
-
Gofynnwch i鈥檙 banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr buddsoddi eich gwneud yn 鈥榞ynrychiolydd personol鈥� - bydd pob un yn gwneud hyn mewn ffordd wahanol ac mae鈥檔 bosibl na fydd rhai yn rhan o鈥檙 Cynllun Taliadau Uniongyrchol.
-
Dewch o hyd i鈥檆h cyfeirnod talu Treth Etifeddiant.
-
Llenwch ffurflen IHT423 a鈥檌 hanfon i鈥檙 banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr Buddsoddi. Anfonwch ffurflen ar wah芒n ar gyfer pob cyfrif yr ydych am ei ddefnyddio i dalu CThEF.
-
Anfonwch Cyfrif Treth Etifeddiant ffurflen IHT400 ac unrhyw dudalennau atodol neu ddogfennau ategol at CThEF. Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, dylech gynnwys Crynodeb Profiant ffurflen IHT421 (yn agor tudalen Saesneg). Os ydych yn yr Alban, dylech gynnwys ffurflen gadarnhad C1 (yn agor tudalen Saesneg).
Anfonwch y ffurflenni at y cyfeiriad canlynol:
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Treth Etifeddiant
HMRC
BX9 1ST
Ar 么l i chi anfon y ffurflenni
Bydd y banc, cymdeithas adeiladu neu鈥檙 darparwr buddsoddi yn talu rhywfaint o鈥檙 Dreth Etifeddiant sy鈥檔 ddyledus i CThEF, neu鈥檙 cyfan ohoni.
Mae鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd nesaf yn dibynnu ar ba wlad yn y DU rydych chi ynddi.
Yng Nghymru a Lloegr
Bydd CThEF yn anfon cod unigryw atoch fel y gallwch wneud cais am brofiant ar-lein.
Yng Ngogledd Iwerddon a鈥檙 Alban
Bydd CThEF yn stampio ac yn dychwelyd ffurflen Crynodeb Profiant IHT421 (Gogledd Iwerddon) neu ffurflen gadarnhad C1 (yr Alban) - dyma gadarnhad bod gennych brofiant.