Trosolwg

Rhaid ichi benderfynu pa fath o gydberchnogaeth yr hoffech ei chael os ydych yn prynu, yn etifeddu neu鈥檔 dod yn ymddiriedolwr eiddo gyda rhywun arall. Rydych yn dweud wrth Gofrestrfa Tir EF am hyn pan fyddwch yn cofrestru鈥檙 eiddo.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch berchen ar eiddo naill ai fel 鈥榗yd-denantiaid鈥� neu 鈥榙enantiaid cydradd鈥�.

Mae鈥檙 math o berchnogaeth yn effeithio ar yr hyn y gallwch ei wneud gyda鈥檙 eiddo os yw鈥檆h perthynas 芒 chydberchennog yn chwalu, neu os yw un perchennog yn marw.

Gallwch gael cyngor cyfreithiol gan rywun sy鈥檔 arbenigo mewn eiddo.

Cyd-denantiaid

Fel cyd-denantiaid (a elwir weithiau yn 鈥榞yd-denantiaid llesiannol鈥�):

  • mae hawliau cyfartal gennych i鈥檙 eiddo cyfan
  • mae鈥檙 eiddo yn mynd yn awtomatig i鈥檙 perchnogion eraill os ydych yn marw
  • ni allwch drosglwyddo eich perchnogaeth o鈥檙 eiddo yn eich ewyllys

Tenantiaid cydradd

Fel tenantiaid cydradd:

  • gallwch berchen ar gyfrannau gwahanol o鈥檙 eiddo
  • nid yw鈥檙 eiddo yn mynd yn awtomatig i鈥檙 perchnogion eraill os ydych yn marw
  • gallwch drosglwyddo eich cyfran o鈥檙 eiddo yn eich ewyllys

Newid eich math o berchnogaeth

Gallwch newid o fod naill ai鈥檔:

Ni chodir ffi i wneud hyn.

Gallwch newid o fod yn unig berchennog i denantiaid cydradd neu gyd-denantiaid hefyd, ee os ydych am ychwanegu eich partner fel cydberchennog. Gelwir hyn yn drosglwyddo perchnogaeth.

Gwerthu鈥檙 eiddo os yw鈥檙 perchennog arall wedi colli gallu meddyliol

Bydd yn rhaid ichi wneud cais i鈥檙 Llys Gwarchod os ydych am werthu鈥檙 eiddo ond mae鈥檙 perchennog arall wedi colli 鈥榞allu meddyliol鈥�.