Cydberchnogaeth
Newid o denantiaid cydradd i gyd-denantiaid
Rhaid ichi gael cytundeb yr holl gydberchnogion eraill i newid o fod yn denantiaid cydradd i gyd-denantiaid.
Gall , neu wneud y cais ichi hefyd.
Sut i wneud cais
-
Cwblhewch weithred ymddiried newydd neu wedi鈥檌 diweddaru 鈥� gall trawsgludwr eich helpu i wneud hyn.
-
Llwythwch i lawr a llenwch y ffurflen i ddileu cyfyngiad, os yw un wedi cael ei gofrestru.
-
Paratowch unrhyw ddogfennau cefnogol y mae angen ichi eu cynnwys.
-
Anfonwch y ffurflen a鈥檙 dogfennau i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.
Dogfennau cefnogol
Rhaid ichi gynnwys un o鈥檙 canlynol:
- copi gwreiddiol neu ardystiedig o鈥檙 weithred ymddiried newydd neu wedi鈥檌 diweddaru wedi鈥檌 lofnodi gan yr holl berchnogion
- copi ardystiedig o drosglwyddiad yn dangos bod yr holl berchnogion sydd 芒 chyfrannau unigol o鈥檙 eiddo wedi trosglwyddo鈥檙 rhain i鈥檙 holl gyd-denantiaid llesiannol
- tystysgrif gan eich trawsgludwr yn cadarnhau bod yr holl berchnogion sydd 芒 chyfrannau o鈥檙 eiddo wedi llofnodi gweithred ymddiried newydd
- datganiad statudol wedi鈥檌 baratoi gan eich trawsgludwr
- 鈥榙atganiad o wirionedd鈥� 鈥� naill ai un rydych wedi鈥檌 baratoi eich hun neu gan ddefnyddio ffurflen ST5
Os ydych yn anfon datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, rhaid cynnwys copi ardystiedig o鈥檙 weithred ymddiried newydd neu鈥檙 trosglwyddiad.
Rhaid i ddatganiad o wirionedd fod:
- yn ysgrifenedig a chynnwys y geiriau 鈥淐redaf fod y ffeithiau a鈥檙 materion sydd wedi鈥檜 cynnwys yn y datganiad hwn yn gywir鈥�
- wedi鈥檌 lofnodi gan y sawl sy鈥檔 ei wneud
Rhaid i鈥檙 dogfennau cefnogol brofi pob un o鈥檙 canlynol:
- nid oes gan unrhyw un arall heblaw鈥檙 cydberchnogion a enwir gyfrannau鈥檙 eiddo
- nid oes un o鈥檙 cydberchnogion yn mynd yn fethdalwr, nid oes unrhyw un 芒 gorchymyn t芒l gan gredydwyr neu鈥檔 morgeisio ei gyfran o鈥檙 eiddo
- mae鈥檙 holl gydberchnogion yn berchen ar yr eiddo gyda鈥檌 gilydd erbyn hyn fel cyd-denantiaid llesiannol
Ble i anfon eich cais
HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB