Eich cyfweliad JSA

Os ydych yn cael eich gwahodd i gyfweliad, rhaid i chi fynychu. Bydd yn cael ei gynnal yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol.

Gofynnir rhai cwestiynau i chi i gadarnhau eich hunaniaeth ac yna byddwch yn dod i gytundeb ynghylch pa gamau y byddwch yn eu cymryd i chwilio am waith.

Dogfennau sydd angen arnoch yn y cyfweliad

Bydd angen i chi ddod 芒鈥檙 canlynol i gyd:

  • un darn o dystiolaeth hunaniaeth ffotograffig
  • un darn o dystiolaeth o鈥檆h cyfeiriad
  • un darn o dystiolaeth bellach o鈥檆h hunaniaeth

Os oes gennych P45 o鈥檆h cyflogwr, dewch 芒 hwn gyda chi i鈥檙 cyfweliad. Pan fyddwch yn ei gyflwyno, dywedwch wrth eich anogwr gwaith os ydych eisoes wedi derbyn neu hawlio ad-daliad treth gan CThEF ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol.

Gallwch hefyd ddefnyddio eich P45 fel eich prawf pellach o hunaniaeth.

Tystiolaeth hunaniaeth ffotograffig

Mae enghreifftiau鈥檔 cynnwys:

  • pasbort dilys
  • trwydded gyrru
  • eVisa - neu drwydded breswyl biometrig (BRP) sydd wedi dod i ben os nad oes gennych eVisa
  • tystysgrif brodori fel dinesydd Prydeinig
  • trwydded preswylio parhaol

Tystiolaeth o鈥檆h cyfeiriad

Mae enghreifftiau鈥檔 cynnwys:

  • slip cyflog neu ddatganiad pensiwn wedi鈥檌 dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil cyfleustodau wedi鈥檌 dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • bil Treth Cyngor wedi鈥檌 dyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • dogfennau benthyciad myfyriwr

Tystiolaeth pellach o鈥檆h hunaniaeth

Mae enghreifftiau鈥檔 cynnwys eich:

  • P60
  • llyfr cyfrif cynilo
  • llyfr siec personol
  • cerdyn debyd, credyd neu siop gyda datganiad yn cadarnhau manylion y cerdyn

Gall biliau cyfleustodau cael eu defnyddio am dystiolaeth o鈥檆h cyfeiriad a thystiolaeth bellach o鈥檆h hunaniaeth os ydyn nhw o ddarparwyr gwahanol.

Darllenwch restr lawn y dogfennau gallwch ddod i鈥檙 cyfweliad

Cymorth yn eich cyfweliad

Gallwch gymryd rhywun gyda chi i鈥檆h cyfweliad JSA.

cyn y cyfweliad os oes angen:

  • cymorth arnoch oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd (er enghraifft, rydych yn fyddar ac angen dehonglwyr iaith arwyddion).

  • cyfieithydd ar y pryd iaith tramor ac nad oes gennych rywun a all eich helpu gyda chyfieithu.

Llofnodi cytundeb i chwilio am waith (鈥榊mrwymiad Hawlydd鈥�)

Yn eich cyfweliad JSA, mae鈥檔 rhaid i chi lofnodi cytundeb am ba gamau byddwch yn cymryd i chwilio am waith. Gelwir hwn yn 鈥榊mrwymiad Hawlydd鈥�.

Byddwch chi a鈥檆h anogwr gwaith yn cytuno ar beth sydd yn mynd yn eich Ymrwymiad Hawlydd. Gall hwn cynnwys:

  • beth mae鈥檔 rhaid i chi ei wneud i chwilio am waith 鈥� er enghraifft cofrestru gydag asiantaethau recriwtio, ysgrifennu CV
  • faint o oriau mae鈥檔 rhaid i chi wario yn chwilio am swydd bob wythnos

Mae beth fyddwch yn cytuno i wneud yn dibynnu ar bethau fel:

  • eich iechyd
  • eich cyfrifoldebau cartref
  • faint o help sydd angen arnoch i weithio neu gynyddu鈥檆h incwm

Efallai y caiff eich JSA ei leihau neu ei stopio os nad ydych yn gwneud beth rydych wedi cytuno i鈥檞 wneud yn eich Ymrwymiad Hawlydd a methu rhoi rheswm da

Ar 么l eich cyfweliad JSA

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ysgrifennu atoch i un ai:

  • rhoi gwybod i chi eich bod yn gymwys am JSA a faint byddwch yn ei gael
  • esbonio pam nad ydych yn gymwys am JSA

Ni fydd rhaid i chi wneud yr hyn y cytunwyd arno yn eich Ymrwymiad Hawlydd os nad ydych yn gymwys am JSA.