Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Eich cais JSA
Pan fyddwch yn gwneud cais am JSA, bydd eich anogwr gwaith yn gwneud cytundeb gyda chi i chwilio am waith. Gelwir y cytundeb hwn yn 鈥榊mrwymiad Hawlydd鈥�.
Gallai eich Ymrwymiad Hawlydd gynnwys:
- beth sydd angen i chi ei wneud i chwilio am waith - er enghraifft cofrestru gydag asiantaethau recriwtio neu ysgrifennu CV
- sawl awr yr wythnos mae angen i chi dreulio yn chwilio am waith bob wythnos
Dylech barhau i wneud popeth rydych wedi鈥檌 gytuno i鈥檞 gwneud os allwch eu gwneud yn ddiogel.
Gallwch chwilio am a gwneud cais am waith trwy ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth 鈥楧od o hyd i swydd鈥�.
Mae鈥檔 rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os yw eich amgylchiadau yn newid, er enghraifft rydych yn dechrau gweithio neu mae eich incwm yn newid.
Mynychu apwyntiadau rheolaidd
Bydd eich anogwr gwaith yn trefnu apwyntiadau gyda chi bob 1 i 2 wythnos.
Yn yr apwyntiadau hyn, rhaid i chi ddangos i鈥檆h anogwr gwaith beth rydych wedi bod yn ei wneud i chwilio am waith, er enghraifft prawf o geisiadau am swyddi a chyfweliadau.
Os ydych wedi dioddef cam-drin domestig efallai y gallwch gael seibiant o hyd at 13 wythnos o chwilio am swydd - siaradwch 芒鈥檆h anogwr gwaith os ydych angen y gefnogaeth hon.
Pryd gall eich taliad gael ei leihau neu stopio
Gall eich taliadau JSA gael eu lleihau neu eu stopio am gyfnod os nad ydych yn gwneud rhywbeth mae eich anogwr gwaith yn gofyn i chi ei wneud. Gelwir hyn yn cael 鈥榮ancsiwn鈥�. Er enghraifft, os:
- nad ydych yn cymryd rhan mewn apwyntiad gyda鈥檆h anogwr gwaith
- nad ydych yn derbyn neu鈥檔 cadw i鈥檆h cytundeb i chwilio am waith
- rydych yn gwrthod swydd neu gwrs hyfforddiant
- nad ydych yn gwneud cais am swyddi y dywedir wrthych amdanynt
- nad ydych yn cymryd rhan mewn unrhyw gyfweliadau y cewch wahoddiad iddynt
- nad ydych yn mynd i unrhyw hyfforddiant sydd wedi鈥檌 drefnu i chi neu gymryd rhan mewn cynlluniau cyflogaeth
Efallai y cewch sancsiwn hefyd os:
- nad ydych ar gael i ddechrau gweithio ar unwaith
- rydych yn dewis cymryd toriad cyflog yn eich swydd bresennol heb reswm da
- rydych yn cael eich cyflog wedi鈥檌 dorri yn eich swydd bresennol oherwydd rhywbeth a wnaethoch, fel eich ymddygiad
- rydych yn gadael eich swydd ddiwethaf neu hyfforddiant heb reswm da neu oherwydd eich ymddygiad
Cysylltwch 芒鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted 芒 phosibl os oes unrhyw un o鈥檙 rhain yn berthnasol i chi. Efallai y gallwch gadw eich taliad os oes gennych reswm da.
Dywedir wrthych am ba hyd y bydd eich taliad yn cael ei leihau neu ei stopio. Gallai fod am hyd at 26 wythnos (tua 6 mis).
Os ydych eisiau gwybod am faint o amser gall eich taliad JSA gael ei leihau neu ei stopio, darllenwch rhan 3 neu ran 4 o鈥檙 canllaw ar sancsiynau JSA.
Os yw eich taliad JSA yn cael ei leihau neu ei stopio
Os bydd eich taliad yn cael ei leihau neu ei stopio, dylech chwilio am waith o hyd. Gellid atal eich taliad budd-dal yn hirach os na wnewch hynny.
Os ydych yn anghytuno 芒鈥檙 penderfyniad i stopio talu, gallwch ofyn i鈥檙 penderfyniad gael ei edrych arno eto 鈥� gelwir hyn yn 鈥榓ilystyriaeth orfodol鈥�.
Os ydych yn anghytuno gyda chanlyniad yr ailystyriaeth orfodol, gallwch apelio i鈥檙 Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynhaliaeth Plant.
Dylech barhau gyda unrhyw gais JSA nes bydd yr anghydfod wedi鈥檌 ddatrys.
Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor
Dylech gysylltu 芒鈥檆h cyngor lleol ar unwaith. Byddant yn dweud wrthych beth i鈥檞 wneud i barhau i gael cymorth.
Os yw eich cais yn cael ei gau
Os ydych yn cael JSA yn seiliedig ar incwm, efallai y bydd eich cais yn dod i ben os nad ydych ar gael am waith neu鈥檔 weithredol yn chwilio am waith.
Ni allwch wneud cais am JSA ar sail incwm eto. Yn lle, gwiriwch a ydych chi yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol ac yn gymwys ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd. Fe allech gael y ddau ar yr un pryd.
Taliadau caledi
Os oeddech yn hawlio JSA yn seiliedig ar incwm, efallai y gallwch gael taliad caledi os yw鈥檆h taliadau JSA wedi鈥檜 stopio. Nid oes rhaid i chi ei dalu鈥檔 么l.
Mae taliad caledi yn swm llai (fel arfer 60%) o鈥檆h JSA.
Os oeddech yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd, ni allwch gael taliad caledi.
Cymhwyster
Gallwch gael taliad caledi os na allwch dalu am rent, gwres, bwyd neu anghenion hanfodol eraill i chi neu eich plentyn.
Mae鈥檔 rhaid i chi fod yn 18 neu drosodd.
Bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi ceisio dod o hyd i鈥檙 arian o rywle arall, fel benthyca gan ffrind neu weithio oriau ychwanegol.
Sut i wneud cais
Siaradwch 芒鈥檆h ymgyngorydd neu anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith i ddarganfod sut i wneud cais am daliad caledi.
Canolfan Byd Gwaith
Ff么n: 0800 169 0310
Ff么n testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau