Credyd Cynhwysol
Cymhwyster
Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu angen help gyda鈥檆h costau byw. Gallech fod:
- allan o waith
- yn gweithio (gan gynnwys hunangyflogaeth a rhan amser)
- yn methu gweithio, er enghraifft oherwydd cyflwr iechyd
I wneud cais rhaid i chi fod:
- yn byw yn y DU
- yn 18 oed neu drosodd (mae rhai eithriadau os ydych chi rhwng 16 a 17 oed)
- o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- 芒 拢16,000 neu lai mewn arian, cynilion a buddsoddiadau
Mae rheolau cymhwysedd gwahanol os ydych wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn dweud wrthych i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y gallech chi eu cael.
Os ydych chi鈥檔 ddinesydd o鈥檙 UE, yr AEE neu鈥檙 Swistir
Efallai y bydd angen statws sefydlog neu wedi鈥檌 setlo ymlaen llaw arnoch chi a鈥檆h teulu o dan Gynllun Setliad yr UE i gael Credyd Cynhwysol. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio鈥檔 Sefydlog yr UE.
Os ydych chi鈥檔 byw gyda鈥檆h partner
Bydd angen i鈥檙 ddau ohonoch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Rhaid i chi wneud cais ar y cyd am eich cartref, hyd yn oed os nad yw鈥檆h partner yn gymwys. Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm a chynilion eich partner, yn ogystal 芒鈥檆h incwm chi.
Os yw un ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch chi a鈥檆h partner hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl o hyd. Bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben pan fydd y ddau ohonoch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn bydd hwn yn dod i ben os ydych chi neu鈥檆h partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Fel arfer byddwch well eich byd yn aros ar Gredyd Pensiwn, gallwch wirio gan ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.
Os ydych chi鈥檔 astudio neu mewn hyfforddiant
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi mewn addysg amser llawn ac mae unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- rydych chi鈥檔 byw gyda鈥檆h partner ac maen nhw鈥檔 gymwys i gael Credyd Cynhwysol
- rydych chi鈥檔 gyfrifol am blentyn, naill ai fel person sengl neu fel cwpl
- rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw gyda phartner sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych wedi derbyn llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn dweud wrthych i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gallwch hefyd hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi鈥檔 21 neu鈥檔 iau, yn astudio unrhyw gymhwyster hyd at Lefel A neu gyfwerth ac nad oes gennych gefnogaeth rhieni.
Efallai y gallwch hawlio os ydych chi鈥檔 astudio鈥檔 rhan-amser neu鈥檔 gwneud cwrs nad oes benthyciad na chyllid myfyriwr ar gael ar ei gyfer.
Gwiriwch y canllawiau ynghylch hawlio Credyd Cynhwysol fel myfyriwr.
Myfyrwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd
Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol os ydych mewn addysg llawn-amser, ac wedi cael eich asesu fel bod 芒 gallu cyfyngedig i weithio gan Asesiad Gallu i Weithio cyn dechrau eich cwrs. Rhaid i chi hefyd fod 芒 hawl i unrhyw un o鈥檙 canlynol:
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Byw i鈥檙 Anabl (DLA)
- Taliad Plant Anabl (CDP) yn yr Alban
- Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Taliad Anabledd Oedolion (ADP) yn yr Alban
- Taliad Anabledd Oedran Pensiwn (PADP) yn yr Alban
Hawlio os ydych chi鈥檔 16 neu鈥檔 17 oed
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os yw unrhyw un o鈥檙 canlynol yn berthnasol:
- mae gennych gyflwr iechyd neu anabledd a bod gennych dystiolaeth feddygol ar ei gyfer, fel nodyn ffitrwydd
- rydych yn gofalu am rywun sy鈥檔 cael budd-dal yn seiliedig ar iechyd neu anabledd
- mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud eich bod yn agos脿u at ddiwedd oes
- yn gyfrifol am blentyn
- rydych chi鈥檔 byw gyda鈥檆h partner, mae gennych gyfrifoldeb am blentyn ac mae鈥檆h partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol
- rydych chi鈥檔 feichiog ac yn disgwyl eich babi yn yr 11 wythnos nesaf
- rydych chi wedi cael babi yn ystod y 15 wythnos ddiwethaf
- nid oes gennych gefnogaeth rhieni, er enghraifft nid ydych yn byw gyda鈥檆h rhieni ac nid ydych o dan ofal awdurdod lleol
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd
Os oes gennych gyflwr iechyd sy鈥檔 effeithio ar eich gallu i weithio efallai y cewch arian ychwanegol ar gyfer Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn y lluoedd arfog
Os ydych yn y lluoedd arfog ac wedi鈥檆h lleoli dramor, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd angen i chi ddefnyddio cyfeiriad penodol pan fyddwch yn gwneud cais