Sut rydych yn cael eich talu

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu unwaith y mis, fel arfer i mewn i鈥檆h cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Gall eich taliad gynnwys swm am eich rhent neu gostau tai eraill. Byddwch fel arfer angen talu hwn i鈥檆h landlord.

Os nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol i drefnu ffordd wahanol o gael eich talu.

Darganfyddwch sut y byddwch yn cael eich talu os .

Eich taliad cyntaf

Fel arfer mae鈥檔 cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf. Os oes angen arian arnoch tra byddwch yn aros am eich taliad cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw.

Eich cyfnodau asesu misol

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar eich amgylchiadau bob mis. Gelwir y rhain yn 鈥榗yfnodau asesu鈥�. Fel arfer byddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol 7 diwrnod ar 么l i bob cyfnod asesu ddod i ben.

Gall newidiadau i鈥檆h amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am eich cyfnod asesu. Dylech roi wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau er mwyn cael y swm cywir.

Mae eich cyfnod asesu cyntaf yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn gwneud eich cais.

Enghraifft

Mae Sam yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar 10 Medi.

Mae cyfnod asesu cyntaf Sam yn rhedeg am fis hyd at 9 Hydref, gyda chyfnod asesu newydd yn dechrau ar 10 Hydref.

Byddent yn cael eu talu ar 17 Hydref ac yna鈥檙 17eg o bob mis ar 么l hynny.

Dyddiadau talu

Ar 么l y taliad cyntaf byddwch yn cael eich talu ar yr un dyddiad bob mis.

Os yw鈥檆h dyddiad talu ar benwythnos neu wyliau banc, cewch eich talu ar y diwrnod gwaith blaenorol.

Gallwch weld eich datganiad misol yn eich cyfrif ar-lein. Mae hwn yn dweud wrthych faint o Gredyd Cynhwysol byddwch yn ei gael.

Os ydych yn byw yn yr Alban

Gallwch gael eich talu unwaith neu dwywaith y mis.

Os ydych yn gwneud cais newydd, byddwch yn derbyn hysbysiad am ba mor aml rydych eisiau cael eich talu. Rydych yn cael hwn ar 么l eich taliad cyntaf.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol yn barod a heb gael hysbysiad, gallwch ofyn i鈥檆h anogwr gwaith os gallwch gael eich talu ddwywaith y mis.

Pan fyddwch yn cael eich talu ddwywaith y mis, bydd eich taliad cyntaf am fis llawn. Fe gewch hanner cyntaf taliad eich ail fis mis ar 么l hyn. Bydd yr ail hanner yn cael ei dalu 15 diwrnod yn hwyrach. Mae hyn yn golygu y bydd tua mis a hanner rhwng eich taliad cyntaf a鈥檙 swm llawn ar gyfer eich ail fis.

Ar 么l hyn, cewch eich talu ddwywaith y mis.

Enghraifft

Rydych yn cael eich taliad cyntaf ar 14 Rhagfyr. Mae鈥檙 taliad hwn am fis llawn.

Os cewch eich talu ddwywaith y mis, cewch hanner eich ail daliad ar 14 Ionawr a鈥檙 hanner arall ar 29 Ionawr.

Byddwch yn cael eich talu ar y 14eg a 29ain o bob mis ar 么l hynny.

Os ydych yn byw gyda phartner

Os yw鈥檙 ddau ohonoch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn cael un taliad bob mis ar gyfer eich cartref.

Os ydych yn byw yn yr Alban ac rydych wedi dewis i gael eich talu ddwywaith y mis, byddwch yn cael 2 daliad bob mis i鈥檆h cartref.

Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol os ydych yn poeni am gael mynediad at yr arian hwn.

Gofynnwch am newid sut rydych yn cael eich talu

Gallwch ofyn i gael eich Credyd Cynhwysol wedi鈥檌 dalu鈥檔 wahanol os oes angen help arnoch i reoli un taliad misol. Gelwir hwn yn drefniant talu amgen (APA). Gall gael APA feddwl:

  • bod eich rhent yn cael ei dalu鈥檔 uniongyrchol i鈥檆h landlord
  • eich bod yn cael taliadau ddwywaith y mis yn lle unwaith
  • eich bod wedi trefnu i gael taliad ar wah芒n i鈥檆h partner

Dylech gysylltu 芒 Chredyd Cynhwysol ar 么l i chi wwneud cais i ofyn am APA. Byddant yn penderfynu a ddylech gael APA yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Rydych chi鈥檔 fwy tebygol o gael APA os oes gennych chi bethau fel:

  • rhent heb ei dalu (a elwir hefyd yn 鈥樏磍-ddyledion rhent鈥�)
  • problemau dibyniaeth
  • problemau iechyd meddwl
  • anawsterau dysgu
  • profiad o ddigartrefedd
  • profiad o gam-drin domestig