Beth i ddod i'ch cyfweliad Canolfan Byd Gwaith

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad wyneb yn wyneb mewn Canolfan Byd Gwaith, bydd angen i chi ddod 芒 ID a dogfennau gyda chi.

Bydd angen i chi ddod 芒鈥檙 gwreiddiol o bob un o鈥檙 canlynol:

  • un ID gyda llun
  • un prawf o gyfeiriad
  • un prawf arall o hunaniaeth

Efallai y gofynnir cwestiynau i chi i gadarnhau pwy ydych os na dderbynnir eich ID neu ddogfennau.

Mae鈥檙 dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)

ID Gyda Llun

Gall hyn gynnwys unrhyw un o鈥檙 canlynol:

  • pasbort o unrhyw wlad

  • trwydded yrru cerdyn-llun (llawn neu dros dro)

  • cerdyn adnabod y GIG gyda sglodyn biometrig

  • cerdyn adnabod y lluoedd arfog neu鈥檙 heddlu

  • cerdyn PASS (Cynllun Safonau Prawf Oedran Cenedlaethol)

  • eVisa neu drwydded breswyl biometrig (BRP) sydd wedi dod i ben os nad oes gennych eVisa, sy鈥檔 dangos bod gennych hawl i aros yn y DU am 6 mis neu fwy

  • cerdyn adnabod gwladolyn tramor (ond nid cardiau adnabod a gyhoeddwyd o dan Gynllun Hunaniaeth Cenedlaethol y DU)

  • dogfen statws mewnfudo neu ddogfen deithio arall yn dangos bod gennych hawl i aros yn y DU am gyfnod amhenodol

  • tystysgrif brodori fel dinesydd Prydeinig, sy鈥檔 dangos bod gennych hawl i weithio yn y DU

  • trwydded yrru cerdyn-llun tramor gyda thrwydded yrru ryngwladol, yn ddilys am hyd at 12 mis o鈥檙 dyddiad y daethoch i鈥檙 DU

  • trwydded breswylio, tystysgrif gofrestru neu ddogfen arall yn dangos eich hawl i fyw yn barhaol yn y DU, os ydych yn ddinesydd yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein

  • cerdyn preswylio parhaol a roddwyd i aelod o deulu gwladolyn o鈥檙 UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr I芒 neu Liechtenstein

Prawf o gyfeiriad

Gall hyn gynnwys unrhyw un o鈥檙 canlynol:

  • bil ff么n symudol, ff么n llinell daearol, nwy, d诺r neu drydan sydd wedi鈥檌 ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • cyfriflen banc, cymdeithas adeiladu, cerdyn credyd neu undeb credyd, sydd wedi鈥檌 ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • datganiad Treth Gyngor cyfredol
  • trwydded yrru cerdyn-llun lawn neu dros dro y DU (os nad yw eisoes wedi鈥檌 defnyddio fel ID gyda llun)
  • trwydded yrru bapur lawn y DU
  • dogfennau cofrestru cerbyd
  • eich hysbysiad treth diweddaraf gan CThEF (er enghraifft, asesiad treth, datganiad o gyfrif, hysbysiad codio)
  • unrhyw ohebiaeth arall gan CThEF (ond nid P45 neu P60)
  • datganiad morgais
  • llythyr gan eich cyflogwr
  • llythyr gan ysgol, coleg neu brifysgol
  • polis茂au yswiriant adeiladau, cynnwys neu gerbydau
  • polis茂au yswiriant bywyd neu yswiriant
  • cerdyn rhent y cyngor neu gytundeb tenantiaeth
  • prawf o鈥檙 gofrestr etholiadol eich bod yn byw yn y cyfeiriad
  • datganiad cyfrif benthyciad personol
  • dogfennau benthyciad myfyrwyr
  • llythyr gan gyfrifydd neu gyfreithiwr
  • tystysgrif gan gyflenwr cyfleustodau yn dangos eich bod yn defnyddio trefniant rhagdalu yn eich cyfeiriad, wedi鈥檌 ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf

Prawf pellach o hunaniaeth

Gall hyn gynnwys unrhyw un o鈥檙 canlynol:

  • cerdyn debyd, credyd neu siop cyfredol gyda datganiad yn cadarnhau鈥檙 manylion ar y cerdyn
  • P45 neu P60
  • llyfr cyfrif cynilo
  • llyfr siec personol

Neu unrhyw un o鈥檙 canlynol os nad yw wedi cael ei ddefnyddio eisoes i brofi eich cyfeiriad:

  • bil ff么n symudol, ff么n llinell daearol, nwy, d诺r neu drydan wedi鈥檌 ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • cyfriflen banc, cymdeithas adeiladu, cerdyn credyd neu undeb credyd, wedi鈥檌 ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • datganiad Treth Gyngor cyfredol
  • slip cyflog neu ddatganiad pensiwn cyfredol neu ddiweddar, wedi鈥檌 ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf
  • eich hysbysiad treth diweddaraf gan CThEF (er enghraifft, asesiad treth, datganiad cyfrif, hysbysiad codio)
  • dogfennau benthyciad myfyrwyr
  • datganiad morgais
  • cerdyn rhent y cyngor neu gytundeb tenantiaeth
  • datganiad cyfrif benthyciad personol
  • polis茂au yswiriant adeiladau, cynnwys neu gerbydau
  • polis茂au yswiriant bywyd neu yswiriant
  • tystysgrif gan gyflenwr cyfleustodau yn dangos eich bod yn defnyddio trefniant rhagdalu yn eich cyfeiriad, wedi鈥檌 ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf

Gellir defnyddio biliau cyfleustodau fel prawf o gyfeiriad ac fel prawf adnabod pellach os ydynt gan gyflenwyr gwahanol.