Canllawiau

Credyd Cynhwysol ac enillion

Gall y swm a enillwch, a pha mor aml y telir eich cyflog, effeithio ar eich Credyd Cynhwysol.

Sut mae eich enillion yn effeithio ar eich taliadau

Os ydych chi neu鈥檆h partner yn gweithio, bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill bob mis. Gelwir y rhain yn 鈥�cyfnodau asesu鈥�.

Gallwch wirio faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael bob mis yn y datganiad yn eich cyfrif ar-lein.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau wrth i鈥檆h cyflog fynd i fyny, ac yn cynyddu eto os byddwch yn rhoi鈥檙 gorau i weithio neu os bydd eich cyflog yn mynd i lawr.

Am bob 拢1 rydych chi neu鈥檆h partner yn ei ennill, bydd eich taliad yn gostwng 55c. Bydd y swm hwn yn cael ei dynnu鈥檔 awtomatig o鈥檆h taliad Credyd Cynhwysol.

Gweler sut mae eich enillion yn effeithio ar eich taliadau.

Mae yna reolau gwahanol os ydych yn hunangyflogedig.

Gall faint o Gredyd Cynhwysol a gewch gael ei effeithio os ydych:

  • yn gyfrifol am blentyn neu mae gennych gyflwr iechyd

  • ddim yn cael eich talu mewn cyfnod asesu

  • yn cael eich talu fwy nag unwaith mewn cyfnod asesu

  • yn ennill swm gwahanol bob cyfnod asesu

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu os oes gennych gyflwr iechyd

Gallwch ennill swm penodol cyn i鈥檆h Credyd Cynhwysol gael ei leihau os ydych chi neu鈥檆h partner naill ai:

Gelwir y swm hwn yn 鈥榣wfans gwaith鈥�.

Os nad ydych yn cael eich talu neu鈥檔 cael eich talu fwy nag unwaith mewn cyfnod asesu

Gall eich Credyd Cynhwysol gael ei effeithio os nad ydych yn cael eich talu neu鈥檔 cael eich talu fwy nag unwaith mewn cyfnod asesu. Gallai hyn ddigwydd os:

  • rydych yn cael eich talu鈥檔 fisol ac mae eich diwrnod cyflog misol yn newid

  • rydych yn cael eich talu鈥檔 wythnosol, bob 2 wythnos neu bob 4 wythnos

Os ydych yn cael eich talu鈥檔 fisol ac mae eich diwrnod cyflog yn newid

Os ydych yn cael eich talu鈥檔 fisol a bod eich diwrnod cyflog yn newid, er enghraifft er mwyn osgoi penwythnos, bydd eich Credyd Cynhwysol fel arfer yn cael ei addasu鈥檔 awtomatig fel eich bod yn cael eich swm arferol.

Os yw鈥檔 edrych fel y byddwch yn cael gormod neu ddim digon o Gredyd Cynhwysol, dywedwch wrthym yn eich cyfrif ar-lein. Mewn rhai amgylchiadau, gellir addasu Credyd Cynhwysol fel eich bod yn cael eich swm arferol.

Os ydych yn cael eich talu鈥檔 wythnosol, bob 2 wythnos neu bob 4 wythnos

Efallai y bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei effeithio os oes gennych fwy o ddiwrnodau cyflog na鈥檙 arfer yn ystod cyfnod asesu.

Pa mor aml yw eich diwrnod cyflog 听Yr effaith
Pob 4 wythnos Unwaith y flwyddyn, byddwch yn cael cyfnod asesu gyda 2 ddiwrnod cyflog
Pob 2 wythnos Dwywaith y flwyddyn, byddwch yn cael cyfnod asesu gyda 3 diwrnod cyflog
Bob wythnos Pedair gwaith y flwyddyn, byddwch yn cael cyfnod asesu gyda 5 diwrnod cyflog

Pan fyddwch yn cael mwy o gyflog nag arfer mewn cyfnod asesu, efallai y byddwch yn cael:

  • llai o Gredyd Cynhwysol am y mis hwnnw

  • dim Credyd Cynhwysol, oherwydd eich bod yn ennill digon i beidio 芒鈥檌 hawlio mwyach

Os ydych yn ennill swm gwahanol bob cyfnod asesu

Ar gyfer pob cyfnod asesu, caiff eich Credyd Cynhwysol ei addasu i ystyried eich cyflog.

Os ydych yn ennill llai mewn cyfnod asesu, bydd eich Credyd Cynhwysol fel arfer yn cynyddu.

Os ydych yn ennill mwy, bydd eich Credyd Cynhwysol fel arfer yn lleihau.

Os bydd y swm a enillwch mewn cyfnod asesu yn codi uwchben swm penodol, bydd eich Credyd Cynhwysol yn stopio. Mae hyn oherwydd eich bod wedi cyrraedd y terfyn y gallwch ei ennill a dal i fod 芒 hawl i Gredyd Cynhwysol. Mae鈥檙 swm yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol.

Os ydych yn ennill 拢2,500 neu fwy dros eich terfyn enillion听听听听听

Os ydych yn ennill 拢2,500 neu fwy dros eich terfyn yna:

  • ni fyddwch yn cael Credyd Cynhwysol

  • bydd y swm dros 拢2,500 yn cael ei gyfrif fel enillion yn y cyfnod asesu nesaf

  • dywedir bod gennych 鈥榚nillion dros ben鈥�

Gallai hyn ddigwydd os ydych yn hunangyflogedig neu鈥檔 cael bonws, er enghraifft.

Ni fyddwch yn cael unrhyw Gredyd Cynhwysol hyd nes y bydd eich enillion, gan gynnwys y swm sy鈥檔 cael ei gario drosodd, yn mynd o dan y terfyn ac rydych yn dod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol eto.

Os yw eich cyflog yn lleihau digon i chi fod yn gymwys am Gredyd Cynhwysol o fewn 5 mis, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ailgychwyn yn awtomatig. Os yw ar 么l 5 mis bydd angen i chi wneud cais eto.

Os oeddech mewn cwpl a wahanodd wedyn, bydd unrhyw enillion dros ben yn cael eu rhannu鈥檔 gyfartal rhwng y ddau ohonoch. Bydd eich hanner yn cael ei ystyried os gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol newydd fel person sengl neu ar y cyd.

Os ydych yn talu i mewn i gynllun pensiwn preifat

Gall eich pensiwn preifat ostwng faint o incwm a ystyrir wrth asesu eich dyfarniad Credyd Cynhwysol. Gallai hyn olygu eich bod yn cael taliad Credyd Cynhwysol uwch.

Dylid cymryd pensiwn gweithle sy鈥檔 cael ei redeg gan eich cyflogwr eisoes i ystyriaeth, gan fod Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich cyflog mynd adref net.

Cynlluniau pensiwn personol nad ydynt yn cael eu rhedeg gan eich cyflogwr

Os ydych yn talu i mewn i gynllun pensiwn personol cofrestredig nad yw鈥檔 cael ei redeg gan eich cyflogwr, bydd angen i chi wneud y canlynol ym mhob cyfnod asesu:

  • dywedwch wrthym faint wnaethoch chi ei dalu i mewn i鈥檙 cynllun yn ystod y cyfnod adrodd misol. Dyma鈥檙 union swm a daloch i mewn i鈥檙 cynllun, heb gynnwys y rhyddhad treth a gawsoch

  • darparu tystiolaeth o鈥檆h taliad pensiwn

Mae sut y byddwch yn dweud wrthym am gyfraniadau pensiwn personol yn dibynnu a ydych yn hunangyflogedig:

  • os ydych yn hunangyflogedig, dywedwch wrthym pan fyddwch yn rhoi gwybod am eich incwm a鈥檆h treuliau hunangyflogedig gan ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein

  • os nad ydych yn hunangyflogedig, dywedwch wrthym gan ddefnyddio eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein

Mewngofnodwch i鈥檆h cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein

Os na allwch ddweud wrthym am eich cyfraniadau pensiwn personol ar-lein, bydd angen i chi gysylltu 芒 Chredyd Cynhwysol

Enillion a鈥檆h cyfrifoldebau

Pan fyddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol rydych yn cytuno ar beth mae angen i chi ei wneud i:

  • baratoi ar gyfer a chwilio am waith

  • cynyddu eich enillion, os ydych eisoes yn gweithio

Mae manylion am beth mae鈥檔 rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am Gredyd Cynhwysol yn eich 鈥�ymrwymiad hawlydd鈥�.

Y 鈥楾rothwy Enillion Gweinyddol鈥� (AET)

Mae鈥檙 AET yn swm y gallwch ei ennill sy鈥檔 effeithio ar beth y gofynnir i chi gytuno iddo.

Ar gyfer hawlwyr unigol, yr AET yw 拢892 fesul cyfnod asesu.

Yn ogystal, os ydych mewn cwpl, AET y cwpl wedi鈥檌 gyfuno yw 拢1,437 fesul cyfnod asesu.

Os ydych yn ennill o dan yr AET

Os ydych chi fel unigolyn yn ennill o dan yr AET mewn cyfnod asesu, rhaid i chi:

  • ddangos eich bod wrthi yn chwilio am fwy o waith neu waith sy鈥檔 talu鈥檔 well

  • bod ar gael i weithio

oni bai eich bod yn rhan o gwpl y mae eu henillion wedi鈥檌 gyfuno yn, neu鈥檔 uwch, na AET y cwpl.

Os ydych yn rhan o gwpl y mae eu henillion unigol yn is na鈥檙 AET unigolyn, ac y mae eu henillion wedi鈥檌 gyfuno yn is na AET y cwpl, rhaid i鈥檙 ddau ohonoch:

  • ddangos eich bod wrthi yn chwilio am fwy o waith neu waith sy鈥檔 talu鈥檔 well

  • bod ar gael i weithio

Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth bersonol reolaidd gan 鈥榓nogwr gwaith鈥�. Gall eich anogwr gwaith eich helpu gyda strategaethau chwilio am waith, sgiliau cyfweld a chysylltu 芒 chyflogwyr.

Os ydych yn ennill dros yr AET

Os ydych yn ennill yr AET unigolyn neu fwy, nid oes angen i chi gael cyfarfodydd rheolaidd gydag anogwr gwaith. Lle bo鈥檔 bosibl, dylech barhau i geisio chwilio am fwy o waith neu waith 芒 chyflog gwell gan y byddwch yn well eich byd yn gyffredinol os ydych yn ennill mwy.

Mae hyn hefyd yn wir os ydych mewn cwpl, a bod eich enillion wedi鈥檌 gyfuno yn hafal i neu鈥檔 uwch nag AET y cwpl.

Y Trothwy Amodoldeb Enillion (CET)

Mae鈥檙 CET yn swm sy鈥檔 seiliedig ar nifer yr oriau y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol i chi weithio neu wneud gweithgareddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwaith. Mae鈥檔 dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn ennill rhwng yr AET a鈥檆h CET, nid oes angen i chi gael cyfarfodydd rheolaidd gyda鈥檆h anogwr gwaith. Ond gallwch ofyn i gwrdd ag un os ydych yn credu y byddai鈥檔 eich helpu i chwilio am waith.

Os ydych yn ennill dros y CET, ni fyddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gydag anogwr gwaith.

Enillion hunangyflogedig

Os oes gennych enillion hunangyflogedig, ni fydd y rhain yn cyfrif tuag at yr AET.

Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Chwefror 2025 show all updates
  1. Clarified what you should do, and the support you'll get, if you earn above the Administrative Earnings Threshold (AET).

  2. Added new section 'If you pay into a private pension scheme'.

  3. From 13 May 2024 the Administrative Earnings Threshold (AET) went up for individuals and couples. For individual claimants, the AET is 拢892 per assessment period. Additionally, if you're in a couple, the combined couple's AET is 拢1,437 per assessment period.

  4. From 1 April 2024 the Administrative Earnings Threshold (AET) went up for individuals and couples. For individual claimants, the AET is 拢743 per assessment period. Additionally, if you're in a couple, the combined couple's AET is 拢1,189 per assessment period.

  5. Added that if you earn 拢2,500 or more over your earnings limit you are said to have 'surplus earnings'. Added: If you were in a couple who then separated, any surplus earnings will be divided equally between the 2 of you. Your half will be taken into account if you make a new single or joint Universal Credit claim.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon