Hunangyflogaeth a Chredyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol i helpu gyda鈥檆h costau byw. Efallai y byddwch yn gallu ei gael os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu鈥檔 methu gweithio.听
Darganfyddwch a ydych chi yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.听
Os ydych chi鈥檔 byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i .听
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Rhoi gwybod am eich incwm a鈥檆h treuliau聽
Ar ddiwedd pob cyfnod asesu misol, bydd angen i chi roi gwybod am:聽
-
faint rydych wedi ei ennill o hunangyflogaeth, hyd yn oed os nad yw鈥檔 ddim byd聽
- unrhyw arian rydych wedi ei dalu i mewn i bensiwn聽 https://publisher.publishing.service.gov.uk/editions/6565d2d9ef6261000d358a6c#request_review_form
- taliadau i mewn ac allan o鈥檆h busnes聽
Mae hyn hefyd yn berthnasol i gyfarwyddwyr cwmni, hyd yn oed y rhai sy鈥檔 talu eu hunain drwy TWE.听聽
Gwnewch hyn drwy gwblhau鈥檙 adran 鈥楻hoi gwybod am eich incwm a threuliau鈥� yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.听
Taliadau i mewn ac allan o鈥檆h busnes聽
Bydd angen i chi roi gwybod am daliadau i mewn ac allan o鈥檆h busnes ym mhob cyfnod asesu misol. Mae hyn yn cynnwys:聽
-
cyfanswm a dderbyniwyd yn eich busnes聽
-
faint y gwariodd eich busnes ar wahanol fathau o dreuliau, fel costau teithio, stoc, offer, dillad amddiffynnol a chostau swyddfa聽
-
faint o dreth ac Yswiriant Gwladol y talodd eich busnes聽
Mae mwy o ganllawiau ynghylch rhoi gwybod am eich incwm a鈥檆h treuliau o hunangyflogaeth, sy鈥檔 cynnwys sut i gyfrifo鈥檆h incwm a鈥檙 treuliau y gallwch eu cynnwys.听
Eiddo eich busnes聽
Nid oes angen i chi roi gwybod am bethau y mae eich cwmni eisoes yn berchen arnynt (鈥榓sedau busnes鈥�), fel peiriannau, adeiladau neu arian parod yng nghyfrif聽 eich cwmni.听
Dangos mai hunangyflogaeth yw eich prif waith聽
I wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig, mae angen i chi ddangos mai hunangyflogaeth yw eich prif waith.听
Mae hyn yn cynnwys dangos:聽
-
hunangyflogaeth yw eich prif swydd neu eich prif ffynhonnell incwm聽
-
rydych yn cael gwaith rheolaidd o hunangyflogaeth聽
-
mae eich gwaith wedi鈥檌 drefnu - mae hyn yn golygu bod gennych anfonebau a derbynebau, neu gyfrifon聽
-
rydych yn disgwyl gwneud elw聽
Gwnewch hyn drwy roi tystiolaeth i鈥檆h anogwr gwaith o鈥檆h:聽
-
ffurflenni treth, cyfrifon ac unrhyw gynllun busnes聽
-
Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR), os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad聽
-
rhestrau cwsmeriaid a chyflenwyr, derbynebau ac anfonebau聽
-
deunyddiau marchnata聽
Os gallwch ddangos yr holl bethau hyn, byddwch yn cael eich ystyried yn 鈥榟unangyflogedig 芒 th芒l鈥�. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi chwilio am waith arall a gallwch ganolbwyntio ar dyfu eich busnes.听
Os na allwch ddangos yr holl bethau hyn, efallai y bydd yn rhaid i chi chwilio am waith arall os ydych am barhau i gael Credyd Cynhwysol.听聽
Mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau - byddwch yn cytuno ar hyn pan fyddwch yn cwrdd 芒鈥檆h anogwr gwaith.听
Sut mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei weithio allan聽
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar yr enillion rydych yn rhoi gwybod amdanynt ar ddiwedd pob cyfnod asesu misol.听
Os ydych yn hunangyflogedig 芒 th芒l, gellir cyfrifo鈥檆h taliad Credyd Cynhwysol gan ddefnyddio lefel dybiedig o enillion, a elwir yn llawr isafswm incwm.听
Mae鈥檔 seiliedig ar yr hyn y byddai person cyflogedig ar isafswm cyflog yn disgwyl ei ennill mewn amgylchiadau tebyg.听
Os ydych yn ennill mwy na hyn, yna mae eich swm Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar eich enillion gwirioneddol.听
Os ydych yn ennill llai, defnyddir y llawr isafswm incwm i gyfrifo faint y gallwch ei gael. Efallai y bydd angen i chi chwilio am waith ychwanegol i ychwanegu at eich incwm.听
Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gyflogedig聽
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar eich enillion cyfunol o hunangyflogaeth a chyflogaeth.听
Os byddwch yn gwneud colled o hunangyflogaeth, dim ond eich enillion o gyflogaeth fydd yn cael eu defnyddio i gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.听
Cael cyfnod cychwyn busnes聽
Efallai y byddwch yn gymwys am gyfnod cychwyn busnes o 12 mis os ydych yn hunangyflogedig. Gall eich anogwr gwaith ddweud wrthych a allwch gael cyfnod cychwyn busnes ar gyfer eich busnes.听聽
Yn ystod eich cyfnod cychwyn busnes defnyddir eich enillion misol i gyfrifo鈥檆h Credyd Cynhwysol ac nid yw鈥檙 llawr isafswm incwm yn berthnasol. Byddwch hefyd yn derbyn cefnogaeth gan anogwr gwaith sydd wedi鈥檌 hyfforddi i weithio gyda鈥檙 hunangyflogedig.听
Bydd angen i chi fynychu apwyntiadau chwarterol gyda鈥檆h anogwr gwaith, gan ddarparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn dal i fod yn hunangyflogedig 芒 th芒l ac yn mynd ati i gymryd camau i adeiladu eich busnes.听
Dim ond un cyfnod cychwyn busnes y mae gennych hawl iddo, oni bai ei fod wedi bod yn fwy na 5 mlynedd ers eich un blaenorol, a鈥檆h bod wedi dechrau math hollol wahanol o hunangyflogaeth.听
Rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau聽
Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau, er enghraifft os ydych:聽聽
-
yn cau eich busnes聽
-
yn cychwyn busnes gwahanol聽
-
yn cymryd swydd barhaol聽
-
ddim yn gallu gweithio mwyach