Canllawiau

Prosesu neu storio nwyddau tebyg i gymryd lle nwyddau o dan weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn y DU

Dysgwch sut y gallwch brosesu neu storio nwyddau cylchrediad rhydd tebyg yn lle nwyddau rydych wedi鈥檜 datgan i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yn y DU.

Wrth gyfeirio at 鈥楤orthladd Rhydd鈥� ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys 鈥楶orthladdoedd Rhydd Gwyrdd鈥� (Green Freeports) yn yr Alban, oni nodir yn wahanol.

Gallwch brosesu neu storio nwyddau cylchrediad rhydd tebyg yn lle nwyddau a fewnforir o dan weithdrefn arbennig tollau porthladd rhydd (caniat芒d unigol ynghyd 芒 gofynion datgan haws). Yr enw ar hyn yw cyfwerthedd. Mae nwyddau cylchrediad rhydd yn nwyddau y gellir eu symud heb gyfyngiad ac mae unrhyw dollau wedi cael eu talu arnynt.

Mae rheolau gwahanol yn dibynnu ar a ydych yn storio neu鈥檔 prosesu eich nwyddau.

Ni allwch ddefnyddio cyfwerthedd os:

  • mai鈥檙 bwriad yw gwrthbwyso allforion nwyddau cylchrediad rhydd fel eich bod yn gallu lleihau biliau mewnforio ar fewnforion o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU i鈥檞 defnyddio ym marchnad y DU
  • gall eich cwsmeriaid wahaniaethu rhwng nwyddau rydych yn eu prosesu a nwyddau cylchrediad rhydd

Mae angen i chi rhoi gwybod i ni y byddwch yn defnyddio cyfwerthedd pan fyddwch yn gwneud cais i ddefnyddio鈥檙 weithdrefn arbennig tollau porthladd rhydd.

Os bydd angen i chi ddefnyddio cyfwerthedd ar 么l i ni roi caniat芒d i chi, bydd yn rhaid i chi wneud cais i ddiwygio eich caniat芒d.

Cyn i chi brosesu neu storio nwyddau cylchrediad rhydd tebyg

Mae angen i鈥檙 nwyddau cylchrediad rhydd cyfatebol rydych chi鈥檔 eu prosesu neu鈥檔 eu storio gael yr un:

  • cod nwyddau tariff 8-digid
  • ansawdd masnachol
  • nodweddion technegol

Hefyd, rhaid i chi benderfynu:

  • a allech gyfnewid y nwyddau am ei gilydd
  • a yw鈥檙 nwyddau ddim yn amlwg yn wahanol
  • a fyddai eich cwsmeriaid yn derbyn y gwahaniaeth yn y nwyddau

Nwyddau gyda gwahanol reolau

Os ydych yn prosesu neu鈥檔 storio nwyddau cyfatebol, ni allwch ddisodli:

  • nwyddau organig gyda nwyddau a gynhyrchir yn gonfensiynol
  • nwyddau a gynhyrchir yn gonfensiynol gyda nwyddau organig

Mae rheolau gwahanol hefyd ar gyfer rhai nwyddau eraill.

Reis

Awdurdodir reis o dan bennawd tariff 10.06. Dim ond os yw cymhareb hyd a lled y reis o fewn paramedrau penodol y gellir ei gymeradwyo.

Gwenith

Gellir awdurdodi gwenith rhwng gwenith a gynaeafwyd y tu allan i鈥檙 DU a ryddheir i gylchrediad rhydd a gwenith nad yw鈥檔 dod o鈥檙 DU.

Siwgr

Caniateir cyfwerthedd ar gyfer cynhyrchu siwgr gwyn sy鈥檔 dod o fewn cod CN 1701 99 10 rhwng:

  • siwgr cansen amrwd sy鈥檔 dod o fewn cod CN 1701 11 90
  • siwgr betys amrwd sy鈥檔 dod o dan y cod CN 1701 12 90

Mae鈥檙 terfyn amser ar gyfer mewnforio鈥檙 nwyddau yn eu lle wedi鈥檌 gyfyngu i gyfnod dilysrwydd y drwydded mewnforio.

Anifeiliaid byw a chynnyrch cig

Ni chaniateir defnyddio cyfwerthedd ar gyfer anifeiliaid byw a chig. Gellir codi鈥檙 gwaharddiad mewn amgylchiadau eithriadol. Cysylltwch 芒 CThEF os credwch fod amgylchiadau o鈥檙 fath yn berthnasol.

Llaeth a chynnyrch llaeth

Caniateir cyfwerthedd dim ond ar yr amod nad yw鈥檙 sylwedd llaeth sych, y sylwedd braster llaeth a鈥檙 protein llaeth o鈥檙 nwyddau cyfatebol yn is na鈥檙 rhai yn y nwyddau sy鈥檔 cael eu mewnforio.

Bwydydd a addaswyd yn enetig

Ni ddylai鈥檙 sawl sy鈥檔 rhoi鈥檙 caniat芒d na鈥檙 cwsmeriaid wahaniaethu rhwng bwydydd sydd wedi鈥檜 haddasu a bwydydd sydd heb eu haddasu. Dylai鈥檙 cynnyrch fod yr un mor dderbyniol i gwsmer sydd y tu allan i鈥檙 DU ag i gwsmer yn y DU sy鈥檔 gwerthu bwydydd tebyg heb eu haddasu.

Ni allwch ddefnyddio nwyddau cyfatebol os ydych yn prosesu nwyddau sensitif (yn Saesneg).

Sut i storio nwyddau cyfatebol

Storio nwyddau cyfatebol gyda鈥檌 gilydd

Gallwch storio鈥檙 nwyddau cyfatebol gyda鈥檙 rhai rydych wedi鈥檜 datgan ar gyfer cylchrediad rhydd. Gelwir hyn naill ai鈥檔 storfa gyffredin neu鈥檔 stocio cyffredin.

Nid oes angen i chi allu gwahaniaethu rhyngddynt a gallwch ddefnyddio unrhyw rai o鈥檙 nwyddau hyn i gyflawni archeb. Dylai eich cofnodion ddangos pa nwyddau:

  • a gafodd eu datgan i weithdrefn arbennig y tollau ar gyfer porthladdoedd rhydd
  • sy鈥檔 nwyddau cylchrediad rhydd

Os ydych yn mewnforio nwyddau i鈥檞 prosesu neu eu hatgyweirio, gallwch allforio darn newydd rydych wedi鈥檌 atgyweirio鈥檔 barod os yw鈥檔 bodloni鈥檙 meini prawf ar gyfer cyfwerthedd.

Storio nwyddau cyfatebol mewn Porthladd Rhydd

Gallwch storio nwyddau cyfatebol gydag unrhyw nwyddau eraill o鈥檙 DU neu鈥檙 tu allan i鈥檙 DU. Efallai y bydd CThEF yn gofyn i chi nodi鈥檙 nwyddau cyfatebol hyn ar adegau penodol.

Os na allwch wneud hyn, byddwn yn cyfrifo swm y nwyddau cyfatebol drwy edrych ar nifer, math, statws a tharddiad pob math o nwyddau.

Bydd eich nwyddau cyfatebol yn newid i nwyddau nad ydynt o鈥檙 DU pan fyddwch yn eu rhyddhau neu pan fyddant wedi gadael y DU.

Bydd y nwyddau cyfatebol a鈥檙 cynnyrch a broseswyd yn dod yn nwyddau nad ydynt o鈥檙 DU. Mae鈥檙 nwyddau maen nhw鈥檔 cymryd eu lle yn dod yn nwyddau鈥檙 DU pan fyddan nhw鈥檔 cael eu rhyddhau neu pan fyddan nhw wedi gadael y DU.

Os ydych yn rhoi ar werth nwyddau sydd wedi cael eu prosesu o dan weithdrefn arbennig tollau porthladd rhydd cyn i chi eu rhyddhau, bydd eu statws yn newid o nwyddau o鈥檙 tu allan i鈥檙 DU i nwyddau o鈥檙 DU. Os nad yw鈥檙 nwyddau cyfatebol ar gael pan fyddwch yn rhoi eich nwyddau ar werth, gallwch ofyn bod y nwyddau cyfatebol ar gael yn ddiweddarach. Rhaid i chi gysylltu 芒鈥檆h swyddfa oruchwylio i ofyn am yr amser ychwanegol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Rhagfyr 2021 show all updates
  1. Welsh translation has been added.

  2. Updated to clarify this guidance is about processing or storing similar free circulation goods in place of goods that you have declared to the Freeport customs special procedure.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon