Gwirio a ellir symud eich nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU
Dysgwch pryd y gallwch ac na allwch symud neu storio nwyddau mewn safle tollau Porthladd Rhydd yn y DU.
Wrth gyfeirio at 鈥楤orthladd Rhydd鈥� ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys 鈥楶orthladdoedd Rhydd Gwyrdd鈥� (Green Freeports) yn yr Alban, oni nodir yn wahanol.
Pryd y gellir symud eich nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd
Gallwch symud nwyddau i safle tollau Porthladd Rhydd, neu storio nwyddau yno, os nad ydyn nhw鈥檔 nwyddau sydd wedi鈥檜 gwahardd.
Mae nwyddau wedi鈥檜 gwahardd yn cynnwys y canlynol:
- blew a gwl芒n anifeiliaid penodol
- unrhyw anifail neu blanhigyn, boed yn fyw neu wedi marw, neu ei rannau neu ei ddeiliadau, o鈥檙 rhywogaethau sydd ar y rhestr CITES (gweler )
- eitemau sy鈥檔 cynnwys dyfeisiau sy鈥檔 awgrymu neu鈥檔 tueddu i awgrymu bod cosb neu warant gan y llywodraeth
- asbestos
- ffwr cathod a ch诺n, a chynhyrchion wedi鈥檜 gwneud o ffwr o鈥檙 fath
- nwyddau ffug, anghyfreithlon neu rai sy鈥檔 mynd yn groes i batent
- arian papur cyfred ffug
- stampiau post ffug
- nwyddau sy鈥檔 cynnwys disgrifiad masnach ffug
- nwyddau sydd (mewn perthynas 芒 nod masnach cofrestredig) yn nwyddau, deunyddiau neu eitemau sy鈥檔 mynd yn groes i berchennog y nod masnach, neu drwyddedai
- nwyddau y gellid eu defnyddio at ddibenion y gosb eithaf neu arteithio a thriniaeth neu gosb greulon, ddiraddiol neu annynol arall, neu mewn cymorth technegol cysylltiedig
- deunydd anweddus a fyddai鈥檔 cael ei wahardd rhag cael ei fewnforio i鈥檙 DU
- nwyddau wedi鈥檜 gwneud mewn carchar
- diemyntau bras
- tocynnau, hysbysebion a deunyddiau eraill sy鈥檔 ymwneud 芒 loter茂au tramor
Rhagor o wybodaeth am nwyddau sydd wedi鈥檜 gwahardd neu sydd wedi鈥檜 cyfyngu (yn Saesneg).