Canllawiau

Ymddiriedolwyr elusen: ymddiswyddo a diswyddo

Pa weithdrefnau y mae angen i chi eu dilyn i ymddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen neu ddiswyddo ymddiriedolwr o'r bwrdd.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Cyfnod gwasanaeth i ymddiriedolwyr

Efallai fod dogfen lywodraethol eich elusen yn nodi nifer penodol o flynyddoedd y gall ymddiriedolwyr wasanaethu ar eu cyfer. Gall ymddiriedolwr sydd wedi cyrraedd diwedd ei dymor penodedig gael ei ailbenodi am dymor arall, oni bai bod eich dogfen lywodraethol yn dweud fel arall.

Os nad yw鈥檆h dogfen lywodraethol yn pennu cyfnod gwasanaeth, bydd ymddiriedolwyr yn parhau yn eu r么l nes eu bod yn marw, yn ymddiswyddo neu鈥檔 cael eu diswyddo.

Ymddiswyddo fel ymddiriedolwr

Yn gyffredinol, gall ymddiriedolwyr ymddiswyddo cyn diwedd eu cyfnod penodedig. Bydd rhaid i ymddiriedolwr gyflwyno cais ysgrifenedig i ymddiswyddo.

Efallai fod dogfen lywodraethol eich elusen hefyd yn cynnwys rhai rheolau y bydd rhaid i chi eu dilyn os yw ymddiriedolwr am ymddiswyddo.

Gwnewch yn si诺r bod digon o ymddiriedolwyr gennych chi i redeg eich elusen. Os yw鈥檆h dogfen lywodraethol yn datgan y nifer lleiaf ar gyfer eich bwrdd ymddiriedolwyr, gwnewch yn si诺r nad ydych yn mynd yn is na鈥檙 nifer hwnnw. Ceisiwch ganfod a phenodi ymddiriedolwr newydd cyn i鈥檙 ymddiriedolwyr sy鈥檔 ymddeol adael.

Sut i ddiswyddo ymddiriedolwr o鈥檙 bwrdd

Fel arfer bydd angen rheswm da arnoch i ddiswyddo ymddiriedolwr, er enghraifft os yw wedi gwneud rhywbeth sy鈥檔 niweidio enw da eich elusen.

Edrychwch ar ddogfen lywodraethol eich elusen i weld a oes gweithdrefn ar gyfer diswyddo ymddiriedolwyr.

Os yw鈥檆h elusen yn gwmni, mae hawl gennych ddiswyddo cyfarwyddwr, ar yr amod eich bod yn dilyn y gweithdrefnau cywir. Mae鈥檙 hawl honno gennych o dan , beth bynnag arall sydd wedi鈥檌 ysgrifennu yn eich erthyglau cymdeithasu.

Pleidlais o ddiffyg hyder

Gallwch gynnal pleidlais o ddiffyg hyder i annog rhywun i ymddiswyddo fel ymddiriedolwr. Gallai hyn fod yn rhan o reolau eich elusen ar gyfer diswyddo ymddiriedolwr, neu wedi鈥檌 ysgrifennu yn ei dogfen lywodraethol. Os nad yw鈥檔 rhan o reolau eich elusen, nid oes unrhyw b诺er cyfreithiol gan y bleidlais ac ni fydd rhaid i鈥檙 ymddiriedolwr ymddiswyddo.

Ystyriwch gyfryngu. Mae gan y rwydwaith o gyfryngwyr.

Gweithdrefnau cyfreithiol i ddiswyddo neu ddisodli ymddiriedolwyr

Fel arfer mae鈥檔 fater syml i ymddiriedolwr adael os yw鈥檆h elusen yn gwmni neu os oes gweithdrefnau wedi鈥檜 hysgrifennu yn eich dogfen lywodraethol.

Os nad dyma鈥檙 achos, gall y ganiat谩u i chi ddisodli ymddiriedolwr - er enghraifft os yw鈥檙 ymddiriedolwr am ymddeol neu鈥檔 gwrthod gweithredu fel ymddiriedolwr.

Sut i ddiweddaru manylion eich elusen

Pan fydd ymddiriedolwr yn gadael, diweddarwch y cofnodion sydd gan y Comisiwn Elusennau am eich elusen - naill ai yn eich ffurflen flynyddol neu ar-lein.

Os oedd rhai cyfrifoldebau arbennig gan yr ymddiriedolwr sy鈥檔 ymddeol, mae鈥檔 syniad da i drefnu trosglwyddiad. Gallai hyn olygu bod yr ymddiriedolwr sy鈥檔 gadael.

  • yn trosglwyddo cyfrinair yr elusen ar gyfer gwefan y Comisiwn
  • hyfforddi eraill ar sut i gwblhau鈥檙 ffurflen flynyddol
  • yn dweud wrth y Comisiwn bod eich cyswllt a enwir wedi newid

Os yw鈥檙 ymddiriedolwr sy鈥檔 gadael yn cael ei enwi ar weithredoedd teitl eich elusen i dir neu eiddo, bydd rhaid i chi ddiweddaru鈥檙 gweithredoedd teitl. Mae trefn gyfreithiol benodol ar gyfer hyn a gallwch geisio cyngor proffesiynol. Dylai fod gennych ddau ymddiriedolwr o leiaf bob amser os yw鈥檆h elusen yn dal tir.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Mai 2013

Argraffu'r dudalen hon