Datganiad i'r wasg

Byddwch yn barod am swydd haf gydag ap CThEF

Lawrlwythwch ap CThEF i gael llwyddiant mewn swydd haf

  • Gall pobl ifanc sy鈥檔 gwneud cais am swydd yr haf hwn lawrlwytho ap CThEF i gael mynediad ar unwaith at y manylion treth a chyflog sydd eu hangen arnynt
  • Mae mwy na 1.2 miliwn o bobl ifanc 25 oed ac iau wedi lawrlwytho ap CThEF hyd yn hyn
  • Gellir defnyddio ap CThEF i gael mynediad at rif Yswiriant Gwladol unigolyn, hanes cyflogwr, cod treth a manylion cyflog

Gall pobl ifanc sy鈥檔 gorffen ysgol, coleg neu brifysgol ac yn gobeithio ennill arian ychwanegol ar 么l eu harholiadau lawrlwytho ap CThEF i gael y manylion sydd eu hangen arnynt i fod yn barod am swydd haf, meddai Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae gan bobl sy鈥檔 chwilio am waith sy鈥檔 defnyddio ap CThEF eu hanes cyflogaeth wrth law i gyflwyno eu cais am swydd yn brydlon. Unwaith y byddant yn dechrau gweithio, mae ap CThEF yn golygu y bydd ganddynt eu cod treth a鈥檜 rhif Yswiriant Gwladol (YG) i鈥檞 rhoi i鈥檞 cyflogwr i sicrhau eu bod yn cael eu talu鈥檔 gywir ac yn talu鈥檙 swm cywir o dreth, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl sy鈥檔 gweithio.

Rhwng mis Mai a mis Awst y llynedd, ar gyfartaledd roedd 40,000 o bobl ifanc ychwanegol yn cael eu cyflogi bob mis o鈥檌 gymharu 芒 mis Medi i fis Rhagfyr. P鈥檜n a yw pobl ifanc yn chwilio am waith yn y diwydiant lletygarwch, hamdden, manwerthu neu gasglu ffrwythau, mae lawrlwytho ap CThEF yn gwneud cais am swydd yn syml, gan roi mynediad ar unwaith iddynt at y manylion treth a chyflog sydd eu hangen arnynt heb fawr o drafferth.

Mae pobl ifanc yn ffurfio un rhan o bump o holl ddefnyddwyr ap CThEF gyda mwy na 1.2 miliwn o bobl 25 oed ac iau yn ei lawrlwytho erbyn mis Ebrill 2025.

Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:

Mae ennill arian ychwanegol yn bwysig pan fydd gan bobl ifanc amser segur o astudio. Mae lawrlwytho ap CThEF yn ffordd syml o sicrhau y gallant wneud cais am eu swydd yn gyflym a mynd ati i ennill arian ychwanegol.

Un o鈥檙 darnau pwysicaf o wybodaeth sydd ei angen ar bobl sy鈥檔 gwneud cais am swydd wrth ddechrau swydd newydd yw eu rhif YG. Ffoniodd mwy na 146,000 o bobl linell gymorth Yswiriant Gwladol yn y 12 mis hyd at ddechrau mis Ebrill gan nodi eu bod wedi colli neu wedi anghofio eu rhif Yswiriant Gwladol.

Mae鈥檔 gyflymach ac yn haws i unigolion gael mynediad at eu rhif Yswiriant Gwladol drwy ap CThEF. Gallant ei lawrlwytho i鈥檞 gadw鈥檔 ddiogel yn waled ddigidol eu ff么n i鈥檞 ddefnyddio pryd bynnag y bo angen. Yn y 12 mis hyd at fis Ebrill 2025, roedd bron i 90,000 o lawrlwythiadau rhif Yswiriant Gwladol gan ddefnyddwyr apiau 25 oed ac iau.

Dylai pobl ifanc gadw eu rhif Yswiriant Gwladol yn ddiogel yn eu waledi digidol a鈥檌 rannu 芒 phobl fel cyflogwr yn unig, er mwyn helpu i atal twyll hunaniaeth posibl.

Mae CThEF hefyd yn atgoffa pobl ifanc sy鈥檔 dechrau swydd newydd i wirio eu slipiau cyflog yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cael eu talu鈥檙 hyn y mae ganddynt hawl i鈥檞 gael o dan ofynion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os oes ganddynt unrhyw bryderon nad ydynt cael y cyflog cywir, gallant gysylltu 芒 CThEF neu ACAS i wneud cwyn.

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am ap CThEF.听

Gall pobl lawrlwytho ap CThEF o鈥檙 App Store neu o Google Play. Mae adolygiadau ar-lein ar gyfer ap CThEF ar hyn o bryd yn [4.8] seren ar yr App Store, a [4.6] seren ar Google Play.听

Ar 么l i gwsmer fewngofnodi i鈥檙 ap am y tro cyntaf, gall ddefnyddio dull adnabod yr wyneb, 么l ei fys neu bin 6 digid i gael mynediad cyflym a diogel.听

Cwsmeriaid nad oes ganddynt Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth ac a allai fod angen tystiolaeth arnynt i brofi pwy ydynt, er enghraifft ID 芒 llun fel pasbort y DU neu drwydded yrru鈥檙 DU.听

Rydym yn annog cwsmeriaid i beidio 芒 rhannu eu ID na chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth ar unrhyw adeg. Gallai rhywun sy鈥檔 defnyddio鈥檙 manylion hyn ddwyn oddi wrthynt neu wneud hawliad twyllodrus yn eu henw.

Y cyfraddau fesul awr cyfredol ar gyfer yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, a gynyddodd ar 1 Ebrill 2025, yw:

  • 21 oed neu鈥檔 h欧n (Cyflog Byw Cenedlaethol): 拢12.21
  • 18 i 20 oed: 拢10.00
  • O dan 18 oed: 拢7.55

Mae rhagor o fanylion a chyfraddau blaenorol i鈥檞 gweld ar 188体育

Mai 2025

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Mehefin 2025