Cyfrif treth personol: mewngofnodi neu sefydlu
Defnyddiwch eich cyfrif treth personol i wirio鈥檆h cofnodion a rheoli鈥檆h manylion gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch wneud y canlynol:
- gwirio鈥檆h amcangyfrif o Dreth Incwm a鈥檆h cod treth
- cyflwyno, bwrw golwg dros neu reoli Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- hawlio ad-daliad treth
- gwirio鈥檆h Budd-dal Plant
- gwirio鈥檆h incwm o waith yn ystod y 5 mlynedd flaenorol
- gwirio faint o Dreth Incwm a dalwyd gennych yn ystod y 5 mlynedd flaenorol
- gwirio a rheoli鈥檆h credydau treth
- gwirio鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth
- gwirio a fyddech yn cael elw o dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ac a allwch dalu ar-lein
- olrhain ffurflenni treth rydych wedi鈥檜 cyflwyno ar-lein
- gwirio neu ddiweddaru鈥檆h Lwfans Priodasol
- rhoi gwybod i CThEF am newid enw neu gyfeiriad
- gwirio neu ddiweddaru buddiannau a gewch o鈥檙 gwaith, er enghraifft, manylion car cwmni ac yswiriant meddygol
- dod o hyd i鈥檆h rhif Yswiriant Gwladol
- dod o hyd i鈥檆h Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os oes un gennych
- gwirio鈥檆h bil treth Asesiad Syml
Mae gwasanaeth gwahanol ar gyfer cofrestru ar gyfer Hunanasesiad a chael eich UTR neu ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy鈥檔 ddyledus ar eiddo yn y DU, a鈥檌 thalu.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio鈥檙 gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi greu rhai.
Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw鈥檆h manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.