Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol

Mae cyfradd fesul awr yr isafswm cyflog yn dibynnu ar eich oed ac a ydych chi鈥檔 brentis.

Mae鈥檙 tudalen hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhaid i chi fod o leiaf yn:

  • oed gadael ysgol er mwyn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • 21 oed i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol - bydd yr isafswm cyflog yn berthnasol o hyd i weithwyr 20 oed ac iau

Cyfraddau presennol

Dyma鈥檙 cyfraddau ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (i鈥檙 rhai 21 oed a throsodd) a鈥檙 Isafswm Cyflog Cenedlaethol (i鈥檙 rhai o oed gadael ysgol o leiaf). Mae鈥檙 cyfraddau hyn yn newid bob 1 Ebrill.

21 a throsodd 18 i 20 O dan 18 Prentis
Ebrill 2025 拢12.21 拢10.00 拢7.55 拢7.55

Prentisiaid

Mae gan Brentisiaid hawl i gael y gyfradd prentis os ydynt naill ai:

  • o dan 19 oed
  • yn 19 oed neu drosodd ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth

Enghraifft

Mae gan brentis 21 oed ym mlwyddyn gyntaf ei brentisiaeth hawl i gael y gyfradd isafswm fesul awr o 拢7.55.

Mae gan brentisiaid hawl i gael yr isafswm cyflog ar gyfer eu hoed os ydynt:

  • yn 19 oed neu drosodd
  • wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth

Enghraifft

Mae gan brentis 21 oed sydd wedi cwblhau blwyddyn gyntaf ei brentisiaeth hawl i gael cyfradd isafswm fesul awr o 拢12.21.

Cyfraddau blaenorol

Roedd y cyfraddau canlynol ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol a鈥檙 Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fis Ebrill 2018 ymlaen.

Y cyfraddau o 1 Ebrill 2024 ymlaen

O 1 Ebrill 2024 ymlaen mae鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol wedi bod ar gyfer y rhai 21 oed a throsodd.

21 a throsodd 18 i 20 O dan 18 Prentis
Ebrill 2024 (cyfradd presennol) 拢11.44 拢8.60 拢6.40 拢6.40

Y cyfraddau rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2024

Rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2024 roedd y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer y rhai 23 oed a throsodd.

23 a throsodd 21 i 22 18 i 20 O dan 18 Prentis
Ebrill 2023 i Mawrth 2024 拢10.42 拢10.18 拢7.49 拢5.28 拢5.28
Ebrill 2022 i Mawrth 2023 拢9.50 拢9.18 拢6.83 拢4.81 拢4.81
Ebrill 2021 i Mawrth 2022 拢8.91 拢8.36 拢6.56 拢4.62 拢4.30

Y cyfraddau cyn 1 Ebrill 2021

Cyn 1 Ebrill 2021 roedd y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer y rhai 25 oed a throsodd.

25 a throsodd 21 i 24 18 i 20 O dan 18 Prentis
Ebrill 2020 i Mawrth 2021 拢8.72 拢8.20 拢6.45 拢4.55 拢4.15
Ebrill 2019 i Mawrth 2020 拢8.21 拢7.70 拢6.15 拢4.35 拢3.90
Ebrill 2018 i Mawrth 2019 拢7.83 拢7.38 拢5.90 拢4.20 拢3.70

Pwy sy鈥檔 cael yr isafswm cyflog

Darllenwch yr wybodaeth am pwy sydd 芒 hawl i gael yr isafswm cyflog.

Gallwch ddefnyddio鈥檙 gyfrifiannell isafswm cyflog i weld a yw鈥檙 Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu鈥檙 Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael ei dalu.

Os nad ydych chi鈥檔 cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a鈥檆h bod chi鈥檔 meddwl y dylech chi, cysylltwch ag Acas.