Amcangyfrif eich bil treth Hunanasesiad
Defnyddiwch y cyfrifiannell treth hunanasesiad i amcangyfrif eich bil treth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Mae鈥檙 gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
I gael syniad faint o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 (os ydych yn hunangyflogedig) y byddwch yn eu talu, nodwch swm amcangyfrifedig eich incwm misol neu wythnosol.
Bydd yr amcangyfrif a gewch yn cael ei gyfrifo fel petaech yn cael y Lwfans Personol safonol.
I gael amcangyfrif, bydd angen i chi roi manylion o鈥檙 canlynol:
- elw o hunangyflogaeth
- incwm rhent o eiddo听
- incwm o bensiwn y wladwriaeth neu bensiwn galwedigaethol
- incwm o gyflogaeth 芒 th芒l
Ni fydd y cyfrifiannell yn ystyried:
- y T芒l Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel听
- unrhyw incwm o gynilion a buddsoddiadau听
- unrhyw daliadau eraill rydych wedi鈥檜 gwneud, fel taliadau tuag at eich bil treth nesaf neu unrhyw dreth ac Yswiriant Gwladol o gyflogaeth 芒 th芒l