Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig

Sgipio cynnwys

Pa gofnodion i鈥檞 cadw

Bydd angen i chi gadw cofnodion o鈥檙 canlynol:

Pam ydych yn cadw cofnodion

Nid oes rhaid i chi anfon eich cofnodion pan rydych yn cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth, ond mae鈥檔 rhaid i chi eu cadw fel y gallwch wneud y canlynol:聽

  • cyfrifo eich elw neu golled ar gyfer eich Ffurflen Dreth
  • eu dangos i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os gofynnir amdanynt

Mae鈥檔 rhaid i chi wneud yn si诺r bod eich cofnodion yn gywir.

Cadw tystiolaeth

Mae mathau o dystiolaeth yn cynnwys:

  • pob derbynneb ar gyfer nwyddau a stoc
  • cyfriflenni banc, bonion llyfr siec
  • anfonebau gwerthiannau, rholiau til a slipiau banc

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol

Yn ogystal 芒鈥檙 cofnodion safonol, bydd rhaid i chi hefyd gadw rhagor o gofnodion fel bod eich Ffurflen Dreth yn cynnwys:

  • yr hyn sy鈥檔 ddyledus i chi ond nad ydych wedi鈥檌 gael eto
  • yr hyn rydych wedi ymrwymo i鈥檞 wario ond nad ydych wedi鈥檌 dalu eto, er enghraifft rydych wedi cael anfoneb ond heb ei thalu eto

  • gwerth y stoc a鈥檙 gwaith ar y gweill ar ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu
  • eich balans banc ar ddiwedd y flwyddyn
  • faint yr ydych wedi鈥檌 fuddsoddi yn y busnes yn ystod y flwyddyn
  • faint o arian yr ydych wedi鈥檌 dynnu at eich defnydd eich hun