Cofnodion busnes os ydych yn hunangyflogedig
Printable version
1. Trosolwg
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw cofnodion o incwm a threuliau eich busnes ar gyfer eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn hunangyflogedig fel:
-
unig fasnachwr
-
partner mewn partneriaeth fusnes
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Bydd angen i chi hefyd gadw cofnodion o鈥檆h incwm personol.
Os mai chi yw鈥檙 partner enwebedig (yn agor tudalen Saesneg) mewn partneriaeth, mae鈥檔 rhaid i chi hefyd gadw cofnodion ar gyfer y bartneriaeth.
Mae rheolau gwahanol ar gadw cofnodion ar gyfer cwmn茂au cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).
Cofnodi eich incwm a鈥檆h treuliau
Os ydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer eich busnes, bydd angen i chi ddewis y dyddiad y bydd eich cyfnod o gadw鈥檙 cofnodion hyn yn dechrau, a鈥檙 dyddiad y bydd y cyfnod hwn yn dod i ben 鈥� fel arfer, bydd y dyddiadau hyn yn aros yr un peth pob blwyddyn.
Efallai y bydd yn haws i chi lenwi鈥檆h Ffurflen Dreth os yw鈥檙 dyddiad yn cyd-fynd 芒鈥檙 flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Mae hyn oherwydd bod Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo treth yn seiliedig ar y flwyddyn dreth. Os nad yw鈥檆h cyfrifon yn cyd-fynd 芒鈥檙 flwyddyn dreth, bydd angen i chi ddyrannu elw i 2 gyfnod cyfrifyddu gwahanol.
Os nad ydych yn paratoi cyfrifon, bydd angen i chi gofnodi eich incwm a鈥檆h treuliau ar gyfer pob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).
Dulliau cyfrifyddu
Bydd yn rhaid i chi ddewis dull cyfrifyddu.
O flwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen, cyfrifyddu ar sail arian parod yw鈥檙 dull diofyn o gyfrifo (yn agor tudalen Saesneg). Mae鈥檔 rhaid i chi optio allan os ydych am ddefnyddio cyfrifyddu traddodiadol neu os na allwch ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod.
Cyfrifyddu ar sail arian parod
Gall y rhan fwyaf o fusnesau ddefnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).
Gyda鈥檙 dull hwn, rydych ond yn cofnodi incwm neu dreuliau pan fyddwch yn cael arian neu鈥檔 talu bil. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dalu Treth Incwm ar arian nad ydych eto wedi鈥檌 gael.
Enghraifft
Rydych yn cofnodi eich incwm a鈥檆h treuliau yn unol 芒鈥檙 flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill). Gwnaethoch anfon anfoneb at rywun ar 15 Mawrth 2024, ond ni chawsoch yr arian tan 30 Ebrill 2024. Dylech gofnodi鈥檙 incwm hwn fel petai wedi dod i law ar 30 Ebrill 2024, hynny yw, ei gofnodi ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Cyfrifyddu traddodiadol
Mae llawer o fusnesau鈥檔 defnyddio cyfrifyddu traddodiadol lle rydych yn cofnodi incwm a threuliau yn 么l y dyddiad y gwnaethoch anfon anfoneb neu a gawsoch eich bilio.
Enghraifft
Rydych yn paratoi cyfrifon hyd at 31 Mawrth pob blwyddyn. Gwnaethoch anfon anfoneb at gwsmer ar 28 Mawrth 2024. Rydych yn cofnodi鈥檙 anfoneb honno ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 鈥� hyd yn oed os na chawsoch yr arian tan y flwyddyn dreth nesaf.
2. Pa gofnodion i鈥檞 cadw
Bydd angen i chi gadw cofnodion o鈥檙 canlynol:
-
yr holl werthiannau ac incwm
-
yr holl dreuliau busnes
-
cofnodion TAW os ydych wedi鈥檆h cofrestru ar gyfer TAW
-
cofnodion TWE os ydych yn cyflogi pobl
-
cofnodion am eich incwm personol (yn agor tudalen Saesneg)
-
eich grantiau, os ydych wedi gwneud hawliad drwy鈥檙 Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth - gwiriwch faint a dalwyd i chi os gwnaethoch hawliad
Pam fod angen i chi gadw cofnodion
Nid oes angen i chi anfon eich cofnodion pan rydych yn cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth, ond bydd angen i chi eu cadw fel y gallwch wneud y canlynol:聽
-
cyfrifo eich elw neu golled ar gyfer eich Ffurflen Dreth
-
eu dangos i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os gofynnir amdanynt
Mae鈥檔 rhaid i chi sicrhau鈥檙 canlynol:
-
bod eich cofnodion yn gywir聽
-
eich bod yn gallu adnabod trafodion busnes
Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu defnyddio cyfrif banc personol neu gyfrif banc busnes ar gyfer eich busnes. Gwiriwch gyda鈥檆h banc pa fath o gyfrif y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer trafodion busnes.
Cadw tystiolaeth
Mae mathau o dystiolaeth yn cynnwys:
-
pob derbynneb ar gyfer nwyddau a stoc
-
cyfriflenni banc, bonion llyfr siec
-
anfonebau gwerthiannau, rholiau til a slipiau banc
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol
Yn ogystal 芒鈥檙 cofnodion safonol, bydd angen i chi hefyd gadw rhagor o gofnodion fel bod eich Ffurflen Dreth yn cynnwys:
-
yr hyn sy鈥檔 ddyledus i chi ond nad ydych wedi鈥檌 gael eto
-
yr hyn rydych wedi ymrwymo i鈥檞 wario ond nad ydych wedi鈥檌 dalu eto, er enghraifft rydych wedi cael anfoneb ond heb ei thalu eto
-
gwerth y stoc a鈥檙 gwaith ar y gweill ar ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu
-
eich balans banc ar ddiwedd y flwyddyn
-
faint yr ydych wedi鈥檌 fuddsoddi yn y busnes yn ystod y flwyddyn
-
faint o arian yr ydych wedi鈥檌 dynnu at eich defnydd eich hun
3. Pa mor hir y dylech gadw eich cofnodion
Mae鈥檔 rhaid i chi gadw eich cofnodion am o leiaf 5 mlynedd ar 么l y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, sef 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth berthnasol. Efallai y bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gwirio鈥檆h cofnodion i wneud yn si诺r eich bod yn talu鈥檙 swm cywir o dreth.
贰苍驳丑谤补颈蹿蹿迟听
Os gwnaethoch gyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth 2022 i 2023 ar-lein erbyn 31 Ionawr 2024, mae鈥檔 rhaid i chi gadw鈥檆h cofnodion tan o leiaf diwedd mis Ionawr 2029.
Ffurflenni Treth hwyr iawn
Os byddwch yn anfon eich Ffurflen Dreth fwy na 4 blynedd ar 么l y dyddiad cau, bydd angen i chi gadw鈥檆h cofnodion am 15 mis ar 么l i chi anfon y Ffurflen Dreth honno.
Os caiff eich cofnodion eu colli, eu dwyn neu eu dinistrio
Os na allwch roi cofnodion newydd yn eu lle, mae鈥檔 rhaid i chi wneud eich gorau i roi ffigurau i ni. Rhowch wybod i CThEF pan fyddwch yn cyflwyno鈥檆h Ffurflen Dreth os ydych yn defnyddio鈥檙 canlynol:
-
ffigurau amcangyfrifedig - eich amcangyfrif gorau pan na allwch roi鈥檙 ffigurau gwirioneddol
-
ffigurau amodol - eich ffigurau amcangyfrifedig dros dro wrth i chi aros am ffigurau gwirioneddol (bydd angen i chi hefyd gyflwyno ffigurau gwirioneddol pan fyddant ar gael)