Beth i'w wneud ar 么l i rywun farw
Rhoi gwybod am farwolaeth heb gyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith
Cysylltwch 芒鈥檙 sefydliadau canlynol os na allwch ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyllid a Thollau EF (HMRC)
Cysylltwch 芒 Chyllid a Thollau EF, a fydd yn gweithio allan a yw鈥檙 swm cywir o dreth wedi鈥檌 dalu gan yr unigolyn a fu farw. Byddant yn rhoi gwybod i chi:
- pa dreth sydd angen iddynt ei chasglu neu ei had-dalu
- a oes angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad ar ran yr unigolyn, er enghraifft pan fydd yr ystad yn parhau i gael incwm
Gallwch hefyd ddefnyddio HMRC i weithio allan pa ffurflenni i鈥檞 llenwi a ble i鈥檞 hanfon.
Efallai y bydd Treth Etifeddiant yn ddyledus ar ystad yr unigolyn ar 么l iddynt farw.
Efallai y gallwch gael cyngor treth am ddim os ydych ar incwm isel.
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI)
Cysylltwch 芒 Swyddfa Cyfraniadau i ganslo taliadau Yswiriant Gwladol yr unigolyn os oedd yn hunangyflogedig neu鈥檔 talu Yswiriant Gwladol gwirfoddol.
Swyddfa Budd-dal Plant
Cysylltwch 芒鈥檙 Swyddfa Budd-dal Plant os bydd plentyn neu鈥檙 rhiant yn marw. Mae angen i chi wneud hyn o fewn 8 wythnos ar 么l y farwolaeth.
Swyddfa Credydau Treth
Cysylltwch 芒鈥檙 Swyddfa Credydau Treth os yw鈥檆h partner neu blentyn rydych yn gyfrifol amdano yn marw. Mae angen i chi wneud hyn o fewn 1 mis ar 么l y farwolaeth.
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Cysylltwch 芒鈥檙 gwasanaeth profedigaeth i ganslo budd-daliadau a hawliadau鈥檙 unigolyn, gan gynnwys eu Pensiwn y Wladwriaeth. Byddant hefyd yn gwirio a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau angladd neu fudd-daliadau eraill.
Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ff么n: 0800 731 0453
Ff么n testun: 0800 731 0456
(os na allwch glywed neu siarad ar y ff么n): 18001 yna 0800 151 2012
ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych yn defnyddio cyfrifiadur - darganfyddwch sut
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Llinell Saesneg: 0800 151 2012
Ff么n Testun Saesneg: 0800 731 0464
Gwybodaeth am gostau galwadau
Os oeddent yn byw dramor pan fu farw, cysylltwch 芒鈥檙 Canolfan Bensiwn Rhyngwladol yn lle
Pensiynau personol, gweithle a鈥檙 lluoedd arfog
Bydd yr hyn sydd angen i chi ei wneud i atal taliadau pensiwn yn dibynnu ar y math o bensiwn.
Defnyddiwch y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn i ddod o hyd i fanylion pensiwn personol neu bensiwn gweithle鈥檙 unigolyn.
Cysylltwch 芒 Veterans UK os oedd gan yr unigolyn bensiwn lluoedd arfog.
Cerbydau a thrwyddedau gyrru
Cysylltwch 芒 Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau (DVLA) os oedd gan yr unigolyn drwydded yrru neu os oedd yn berchen ar gerbyd.
HM Swyddfa Basport (HMPO)
Llenwch y ffurflen 鈥楤eth i鈥檞 wneud pan fydd deiliad pasbort yn marw鈥� a鈥檌 hanfon i鈥檙 cyfeiriad ar y ffurflen.
Nawdd Cymdeithasol yr Alban
Cysylltwch 芒 Nawdd Cymdeithasol yr Alban i ganslo budd-daliadau a hawliasau鈥檙 unigolyn gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliad Plant yr Alban. Gallant hefyd wirio a ydych yn gymwys i gael help gyda chostau angladd.
Rhadff么n: 0800 182 2222
Ff么n (os ydych y tu allan i鈥檙 DU): +44 (0)1382 931 000 - mae taliadau鈥檔 berthnasol ond gallwch ofyn iddynt eich ffonio鈥檔 么l
ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm\
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)
Cysylltwch 芒鈥檙 Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os oedd yr unigolyn yn ad-dalu benthyciadau myfyriwr iddynt.