Beth i'w wneud ar 么l i rywun farw
Beth i'w wneud os bydd plentyn neu fabi yn marw
Beth i鈥檞 wneud os bydd plentyn neu fabi yn marw
Rhaid i chi gofrestru鈥檙 farwolaeth yn y ffordd arferol, ond efallai y bydd angen i chi roi gwybod am farwolaeth plentyn i sefydliadau eraill yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Mae gwahanol reolau ar gyfer cofrestru farw enedig.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Budd-dal Plant
Dylech ddweud wrth y swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted 芒 phosibl os ydych chi鈥檔 hawlio Budd-dal Plant.
Bydd taliadau Budd-dal Plant fel arfer yn parhau am 8 wythnos ar 么l marwolaeth plentyn.
Efallai y byddwch yn dal i allu hawlio Budd-dal Plant os bu farw鈥檆h plentyn cyn i chi wneud cais.
Os bydd baban newydd-anedig yn marw
Mae gennych hawl i hyd at 8 wythnos o Fudd-dal Plant os ydych yn gwneud cais o fewn 3 mis ar 么l y farwolaeth.
Os bu farw鈥檙 plentyn cyn diwedd yr wythnos y cafodd ei eni ynddo, mae鈥檙 8 wythnos yn dechrau o鈥檙 dydd Llun yn dilyn y farwolaeth.
Os yw plentyn yn farwanedig
Ni allwch wneud cais am Fudd-dal Plant os yw鈥檙 plentyn yn farwanedig.
Credydau Treth
Os ydych yn hawlio credydau treth a bod eich plentyn yn marw, gall eich taliadau newid. Bydd angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EF (HMRC) o fewn mis ar 么l y farwolaeth. Os na wnewch fe allech chi:
- orfod talu gordaliadau yn 么l
- peidio 芒 chael yr holl arian sy鈥檔 ddyledus i chi
Gallwch barhau i gael credydau treth am hyd at 8 wythnos yn dilyn y farwolaeth.
Os bu farw鈥檙 plentyn cyn i chi hawlio credydau treth, gallwch ddal hawlio (oni bai bod y plentyn yn farw-anedig). Ffoniwch HMRC i wneud cais.
Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Gallwch gael y grant o hyd os ydych yn gymwys. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais cyn pen 3 mis ar 么l yr enedigaeth.
Absenoldeb a th芒l mamolaeth a thadolaeth
Byddwch yn dal yn gymwys i gael absenoldeb a th芒l os yw eich baban:
- yn farw-anedig ar 么l dechrau 24ain wythnos y beichiogrwydd
- yn marw ar 么l cael ei eni
Absenoldeb a Th芒l Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Efallai y byddwch chi a鈥檆h partner yn gymwys ar gyfer absenoldeb a th芒l statudol mewn profedigaeth os ydych yn gyflogedig a naill ai bod:
- bod eich plentyn yn marw cyn iddynt gyrraedd 18 oed
- yn farw enedig ar 么l 24 wythnos o feichiogrwydd
Rhaid bod y farwolaeth neu鈥檙 farw enedig fod wedi digwydd ar neu ar 么l 6 Ebrill 2020.
Taliadau Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Pan fydd plentyn yn marw, mae unrhyw arian yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant - gan gynnwys unrhyw daliadau gan y llywodraeth - fel arfer yn cael ei drosglwyddo i bwy bynnag sy鈥檔 etifeddu ystad y plentyn.