Yswiriant Gwladol a threth ar 么l cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Printable version

1. Trosolwg

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn rhoi鈥檙 gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar 么l cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn hunangyflogedig, ni fydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu trin fel pe baent wedi鈥檜 talu bellach. Rydych yn rhoi鈥檙 gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill (dechrau鈥檙 flwyddyn dreth) ar 么l i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Rydych dim ond yn talu Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) os yw鈥檆h incwm trethadwy 鈥� gan gynnwys eich pensiwn preifat a鈥檆h Pensiwn y Wladwriaeth 鈥� yn fwy na鈥檆h lwfansau rhydd o dreth (hynny yw, swm yr incwm sydd ar gael i chi cyn i chi orfod talu treth).

Mae鈥檔 rhaid i chi gysylltu 芒 Chyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych o鈥檙 farn y dylech fod yn talu treth.

2. Rhoi鈥檙 gorau i dalu Yswiriant Gwladol

Fel arfer, unwaith i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg), byddwch yn rhoi鈥檙 gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol 鈥� a hynny hyd yn oed os byddwch yn parhau i weithio.

Gallwch hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol os ydych wedi gordalu.

Os ydych yn hunangyflogedig

Ni fydd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu trin fel pe baent wedi鈥檜 talu bellach. Rydych yn rhoi鈥檙 gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill (dechrau鈥檙 flwyddyn dreth) ar 么l i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Er enghraifft, os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Medi 2025. Byddwch yn rhoi鈥檙 gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill 2026, ac yn talu鈥檆h bil Dosbarth 4 terfynol, ynghyd 芒鈥檆h Treth Incwm, erbyn 31 Ionawr 2027.

Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer pob blwyddyn yr ydych yn gweithio 鈥� a pharhau i wneud hyn hyd yn oed ar 么l i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn gyflogai

Os byddwch yn parhau i weithio, dangoswch dystiolaeth o鈥檆h oedran (er enghraifft, tystysgrif geni neu basbort) i鈥檆h cyflogwr er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi鈥檙 gorau i dalu Yswiriant Gwladol.

Os oes well gennych fod eich cyflogwr ddim yn gweld eich tystysgrif geni neu鈥檆h pasbort, gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) anfon llythyr atoch fel tystiolaeth o鈥檆h oedran yn lle.

Bydd y llythyr yn cadarnhau鈥檙 canlynol:

  • eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • does dim angen i chi dalu Yswiriant Gwladol

Bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF i esbonio pam nad ydych am ddangos eich tystysgrif geni neu鈥檆h pasbort i鈥檆h cyflogwr.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST聽

Os nad oes gan CThEF gofnod o鈥檆h dyddiad geni, bydd gofyn i chi anfon eich tystysgrif geni neu鈥檆h pasbort at ddibenion dilysu. Caiff cop茂au ardystiedig (yn agor tudalen Saesneg) eu derbyn.

Gallwch hefyd ddangos Tystysgrif Eithrio oherwydd Oedran (CA4140) os oes gennych un.

3. Lwfansau treth ar sail oed

Lwfans P芒r Priod

Gallwch hawlio鈥檙 Lwfans P芒r Priod (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn briod, neu mewn partneriaeth sifil, a ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935. Bydd y lwfans hwn yn cael ei ddidynnu o鈥檆h bil treth 鈥� mae鈥檙 swm a ddidynnir yn dibynnu ar eich incwm.

Rhyddhad Taliadau Cynhaliaeth

Gallwch gael lwfans i ostwng eich bil treth ar gyfer taliadau cynhaliaeth a dalwch i gyn-briod neu gyn-bartner sifil os yw鈥檙 canlynol yn wir:

  • ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935

  • rydych wedi gwahanu, neu wedi ysgaru, ac rydych yn gwneud taliadau o dan orchymyn llys

  • mae鈥檙 taliadau yn cael eu gwneud ar gyfer cynhaliaeth eich cyn-briod neu鈥檆h cyn-bartner sifil (cyhyd 芒鈥檌 fod heb ail-briodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd) neu gynhaliaeth eich plant sydd o dan 21 oed

Faint y gallwch ei gael

Ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, gall Rhyddhad Taliadau Cynhaliaeth ostwng eich bil treth gan y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol (p鈥檜n bynnag sydd is):

  • 拢436 鈥� pan ydych yn gwneud taliadau cynhaliaeth sydd werth 拢4,360 neu fwy y flwyddyn

  • 10% o鈥檙 arian rydych wedi鈥檌 dalu mewn gwirionedd 鈥� pan ydych yn gwneud taliadau cynhaliaeth sydd werth llai na 拢4,360 y flwyddyn

Ni allwch hawlio gostyngiad treth ar gyfer unrhyw daliadau gwirfoddol a wnaed gennych.

4. Hawlio ad-daliad treth neu Yswiriant Gwladol

Ad-daliadau Yswiriant Gwladol

Gallwch hawlio ad-daliad ar gyfer unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a ordalwyd.

Ad-daliadau treth

Gallwch hawlio ad-daliad treth os yw鈥檙 canlynol wedi digwydd:

  • cafodd gormod o dreth ei didynnu o鈥檆h pensiwn

  • cafodd gormod o dreth ei dalu drwy鈥檆h swydd

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gallwch gywiro unrhyw gamgymeriadau a hawlio ad-daliad drwyddi.

Hawlio ad-daliad treth ar log ar gynilion

Os ydych ar incwm isel, mae鈥檔 bosibl y gallech gael llog sy鈥檔 rhydd o dreth, neu gael rhywfaint o鈥檙 dreth yn 么l o鈥檙 llog a dalwyd ar eich cynilion.