TWE a鈥檙 gyflogres i gyflogwyr

Sgipio cynnwys

Dewis sut i redeg cyflogres

Gallwch weithredu TWE drwy鈥檙 naill ddull neu鈥檙 llall:

  • talu darparwr cyflogres i wneud hynny ar eich rhan
  • gwneud hynny eich hun gan ddefnyddio meddalwedd gyflogres

Talu darparwr cyflogres

Os ydych yn penderfynu talu darparwr cyflogres (er enghraifft, biwro neu gyfrifydd) i redeg eich cyflogres ar eich rhan, bydd angen i chi ystyried faint o gymorth y bydd ei angen arnoch.

Chi sy鈥檔 gyfrifol am gasglu a chadw cofnodion sy鈥檔 cynnwys manylion am y cyflogai. Bydd angen y manylion hyn ar eich darparwr cyflogres er mwyn rhedeg y gyflogres ar eich rhan.

Gall rhai darparwyr cyflogres gynnig rhagor o gymorth i chi os ydych ei angen, er enghraifft, cadw cofnodion ynghylch cyflogeion, rhoi slipiau cyflog a gwneud taliadau i Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i gwblhau bob tasg TWE 鈥� hyd yn oed os ydych yn talu rhywun arall i鈥檞 cyflawni ar eich rhan.

Rhedeg cyflogres eich hun

Bydd angen i chi gyflawni tasgau penodol er mwyn sefydlu cyflogres a thalu鈥檆h cyflogeion am y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys cofrestru fel cyflogwr gyda CThEF a rhoi gwybod iddynt am eich cyflogeion.

Esemptiadau o ran adrodd ar-lein

Efallai y byddwch wedi鈥檆h esemptio rhag darparu adroddiadau ar y gyflogres ar-lein os yw鈥檙 canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cael eich atal rhag defnyddio cyfrifiadur am resymau crefyddol
  • rydych yn cael gwasanaethau gofal neu gymorth ar eich cyfer chi neu aelod o鈥檆h teulu
  • nid ydych yn gallu anfon adroddiadau鈥檔 electronig am eich bod yn anabl, yn oedrannus neu na allwch gyrchu鈥檙 rhyngrwyd

Mae gan CThEF arweiniad os ydych yn credu eich bod wedi鈥檆h esemptio (yn agor tudalen Saesneg) ac y byddai鈥檔 well gennych anfon adroddiadau ar bapur.