Treuliau os ydych yn hunangyflogedig
Treuliau car, fan a theithio
Gallwch hawlio treuliau busnes caniataol ar gyfer:
- yswiriant cerbyd聽
- atgyweiriadau a gwasanaethu聽
- 迟补苍飞测诲诲听
- 辫补谤肠颈辞听
- costau hurio聽
- ffioedd trwydded cerbydau聽
- yswiriant torri i lawr
- tocynnau tr锚n, tocynnau bws, tocynnau awyren a chostau tacsi聽
- ystafelloedd gwesty聽
- prydau bwyd ar deithiau busnes dros nos
Ni allwch hawlio ar gyfer:
- costau moduro a theithio nad ydynt yn ymwneud 芒鈥檙 busnes聽
- 诲颈谤飞测辞苍听
- teithio rhwng cartref a busnes
Mae鈥檔 bosibl y byddwch yn gallu cyfrifo鈥檆h treuliau car, fan neu feic modur gan ddefnyddio cyfradd unffurf (yn agor tudalen Saesneg) (a enwir yn 鈥榯reuliau symlach鈥�) i gyfrifo鈥檙 milltiroedd yn lle cyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol o brynu a rhedeg eich cerbyd.
Prynu cerbydau
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol ac yn prynu cerbyd ar gyfer eich busnes, gallwch ei hawlio fel lwfans cyfalaf.
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch ei hawlio fel lwfans cyfalaf ar yr amod nad ydych yn defnyddio treuliau symlach.
Gallwch hawlio pob math arall o gerbyd fel traul ganiataol.