Treuliau symlach os ydych yn hunangyflogedig

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Mae treuliau symlach yn ffordd o gyfrifo rhai o鈥檆h treuliau busnes gan ddefnyddio cyfraddau unffurf yn hytrach na chyfrifo鈥檆h costau busnes gwirioneddol.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio treuliau symlach. Gallwch benderfynu a yw hyn yn gweddu i鈥檆h busnes.

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Pwy all ddefnyddio treuliau symlach

Gall treuliau symlach gael eu defnyddio gan y canlynol:

  • unig fasnachwyr
  • partneriaeth busnes sydd heb gwmn茂au fel partneriaid

Ni all cwmn茂au cyfyngedig na phartneriaethau busnes sy鈥檔 ymwneud 芒 chwmni cyfyngedig ddefnyddio treuliau symlach.

Math o dreuliau

Gallwch ddefnyddio cyfraddau unffurf ar gyfer y canlynol:

  • costau busnes ar gyfer rhai cerbydau
  • gweithio gartref
  • byw yn eich safle busnes

Mae鈥檔 rhaid i chi gyfrifo bob treuliau eraill drwy gyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol.

Sut i ddefnyddio treuliau symlach

  1. Cadwch gofnod o鈥檆h milltiroedd busnes ar gyfer cerbydau, yr oriau rydych yn gweithio gartref a faint o bobl sy鈥檔 byw yn safle鈥檆h busnes dros y flwyddyn.聽聽

  2. Ar ddiwedd y flwyddyn dreth defnyddiwch y cyfraddau unffurf ar gyfer milltiredd cerbyd, gweithio gartref, a byw yn eich safle busnes i gyfrifo鈥檆h treuliau.聽聽

  3. Rhowch y symiau hyn yn y cyfanswm ar gyfer eich treuliau yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol. Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo a yw treuliau symlach yn addas i鈥檆h busnes.