Treuliau symlach os ydych yn hunangyflogedig
Printable version
1. Trosolwg
Mae treuliau symlach yn ffordd o gyfrifo rhai o鈥檆h treuliau busnes gan ddefnyddio cyfraddau unffurf yn hytrach na chyfrifo鈥檆h costau busnes gwirioneddol.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio treuliau symlach. Gallwch benderfynu a yw hyn yn gweddu i鈥檆h busnes.
Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg
Pwy all ddefnyddio treuliau symlach
Gall treuliau symlach gael eu defnyddio gan y canlynol:
- unig fasnachwyr
- partneriaeth busnes sydd heb gwmn茂au fel partneriaid
Ni all cwmn茂au cyfyngedig na phartneriaethau busnes sy鈥檔 ymwneud 芒 chwmni cyfyngedig ddefnyddio treuliau symlach.
Math o dreuliau
Gallwch ddefnyddio cyfraddau unffurf ar gyfer y canlynol:
- costau busnes ar gyfer rhai cerbydau
- gweithio gartref
- byw yn eich safle busnes
Mae鈥檔 rhaid i chi gyfrifo bob treuliau eraill drwy gyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol.
Sut i ddefnyddio treuliau symlach
-
Cadwch gofnod o鈥檆h milltiroedd busnes ar gyfer cerbydau, yr oriau rydych yn gweithio gartref a faint o bobl sy鈥檔 byw yn safle鈥檆h busnes dros y flwyddyn.聽聽
-
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth defnyddiwch y cyfraddau unffurf ar gyfer milltiredd cerbyd, gweithio gartref, a byw yn eich safle busnes i gyfrifo鈥檆h treuliau.聽聽
-
Rhowch y symiau hyn yn y cyfanswm ar gyfer eich treuliau yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol. Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo a yw treuliau symlach yn addas i鈥檆h busnes.
2. Cerbydau
Cyfrifwch eich treuliau cerbyd gan ddefnyddio cyfradd unffurf ar gyfer milltiroedd yn hytrach na chostau gwirioneddol prynu a rhedeg eich cerbyd, er enghraifft yswiriant, atgyweiriadau, gwasanaethu, tanwydd.
Gallwch ddefnyddio treuliau syml ar gyfer:
- ceir (ar wah芒n i鈥檙 rhai hynny sydd wedi鈥檜 cynllunio ar gyfer defnydd masnachol, er enghraifft, cabiau du, cerbydau hacni neu geir hyfforddwyr gyrru sydd 芒 rheolaeth ddeuol)
- cerbydau nwyddau (er enghraifft, faniau)
- beiciau modur
Ni allwch hawlio treuliau symlach ar gyfer cerbyd rydych eisoes wedi hawlio lwfansau cyfalaf ar ei gyfer, neu rydych wedi鈥檌 gynnwys fel cost pan gyfrifoch eich elw busnes.
Cerbyd | Cyfradd unffurf y filltir gyda threuliau symlach |
---|---|
Ceir a cherbydau nwyddau, y 10,000 milltir gyntaf | 45c |
Ceir a cherbydau nwyddau, ar 么l 10,000 milltir | 25c |
Beiciau modur | 24c |
贰苍驳丑谤补颈蹿蹿迟听
Rydych wedi gyrru 11,000 o filltiroedd busnes dros y flwyddyn.
Cyfrifiad:
10,000 o filltiroedd x 45c = 拢4,500聽
1,000 o filltiroedd x 25c = 拢250聽
Cyfanswm y gallwch ei hawlio = 拢4,750
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio cyfraddau unffurf ar gyfer eich cerbydau i gyd. Unwaith y byddwch yn defnyddio鈥檙 cyfraddau unffurf ar gyfer cerbyd, rhaid i chi barhau i wneud hynny cyn belled 芒鈥檆h bod yn defnyddio鈥檙 cerbyd hwnnw ar gyfer eich busnes.
Gallwch hawlio鈥檙 holl gostau teithio eraill (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft teithiau tr锚n) a pharcio ar ben treuliau eich cerbyd.
Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol.
3. Gweithio gartref
Cyfrifwch eich treuliau caniataol gan ddefnyddio cyfradd unffurf yn seiliedig ar yr oriau rydych yn gweithio o鈥檆h cartref bob mis.
Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi gyfrifo cyfran y defnydd personol a鈥檙 defnydd busnes ar gyfer eich cartref, er enghraifft faint o鈥檆h biliau cyfleustodau sydd ar gyfer busnes.
Nid yw鈥檙 gyfradd unffurf yn cynnwys costau ff么n neu gostau rhyngrwyd. Gallwch hawlio cyfran y busnes o鈥檙 biliau hyn (yn agor tudalen Saesneg) drwy gyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol.
Gallwch ddefnyddio treuliau symlach dim ond os ydych yn gweithio 25 awr neu fwy鈥檙 mis o gartref.
Oriau o ddefnydd busnes y mis | Cyfradd unffurf y mis |
---|---|
25 i 50 | 拢10 |
51 i 100 | 拢18 |
101 a mwy | 拢26 |
贰苍驳丑谤补颈蹿蹿迟听
Gwnaethoch weithio 40 awr o鈥檆h cartref am 10 mis, ond gwnaethoch weithio 60 awr yn ystod 2 fis penodol:
10 mis x 拢10 = 拢100聽
2 mis x 拢18 = 拢36
Cyfanswm y gallwch ei hawlio = 拢136
Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol.
4. Byw yn eich safle busnes
Mae nifer fach o fusnesau yn defnyddio eu safle busnes fel eu cartref, er enghraifft gwesty, gwely a brecwast neu gartref gofal bychan.
Gallwch ddefnyddio treuliau symlach yn hytrach na chyfrifo鈥檙 rhaniad rhwng yr hyn yr ydych yn ei wario ar eich defnydd preifat a鈥檆h defnydd busnes o鈥檙 safle.
Gyda threuliau symlach, rydych yn cyfrifo cyfanswm y treuliau ar gyfer y safle.
Yna rydych yn defnyddio鈥檙 cyfraddau unffurf i ddidynnu swm sydd at eich defnydd personol o鈥檙 safle, yn seiliedig ar nifer y bobl sy鈥檔 byw ar y safle a hawlio鈥檙 gweddill fel treuliau eich busnes.
Nifer y bobl | Cyfradd unffurf y mis |
---|---|
1 | 拢350 |
2 | 拢500 |
3+ | 拢650 |
贰苍驳丑谤补颈蹿蹿迟听
Rydych chi a鈥檆h partner yn rhedeg gwely a brecwast ac yn byw yno trwy gydol y flwyddyn. Cyfanswm eich treuliau safle busnes yw 拢15,000.聽
Cyfrifiad:
Cyfradd unffurf: 12 mis x 拢500 y mis = 拢6,000
Gallwch hawlio:
拢15,000 - 拢6,000 = 拢9,000聽聽
Os yw rhywun yn byw yn eich safle busnes am ran o鈥檙 flwyddyn, dim ond am y misoedd y mae鈥檔 byw yno y gallwch ddidynnu鈥檙 gyfradd unffurf berthnasol.
贰苍驳丑谤补颈蹿蹿迟听聽
Rydych chi a鈥檆h partner yn rhedeg gwely a brecwast ac yn byw yno trwy gydol y flwyddyn. Mae eich plentyn yn y brifysgol am 9 mis y flwyddyn ond mae鈥檔 dod yn 么l i fyw gartref am 3 mis yn ystod yr haf.
Cyfrifiad:
Cyfradd unffurf: 9 mis x 拢500 y mis = 拢4,500聽
Cyfradd unffurf: 3 mis x 拢650 y mis = 拢1,950聽聽
Cyfanswm = 拢6,450聽聽
Gallwch hawlio:聽聽
拢15,000 - 拢6,450 = 拢8,550聽聽
Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda鈥檙 hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo鈥檙 costau gwirioneddol.