Terfynau eich eiddo

Printable version

1. Trosolwg

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, fel arfer ni fydd unrhyw gofnod o鈥檙:

  • union derfyn rhwng dau eiddo
  • pwy sy鈥檔 berchen ar y berth, wal, coeden neu ffens rhwng dau eiddo

Mae鈥檙 canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cewch ryw syniad ble mae鈥檙 terfynau ar gyfer eich eiddo trwy edrych ar ei gynllun teitl. Nid yw鈥檙 rhan fwyaf o gynlluniau teitl yn dangos yr union derfynau 鈥� fel arfer nid oes angen ichi gael yr union derfynau wedi eu cofnodi unrhyw le.

Mae鈥檙 rheolau yn wahanol yn ac yng .

Gallwch wneud cais i gywiro鈥檙 cynllun teitl os ydych yn meddwl bod camgymeriad arno.

Cofnodi鈥檙 terfyn yn fwy manwl gywir

Gallwch wneud hyn trwy:

2. Gwneud cytundeb terfyn gyda鈥檆h cymydog

Fel arfer, gallwch osgoi creu cytundeb terfyn trwy gael trafodaeth anffurfiol 芒鈥檆h cymydog.

Cymorth i ddatrys anghydfodau

Cysylltwch 芒 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig i gael cyngor ar ddatrys anghydfodau ynghylch terfynau.

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
[email protected]
Ff么n: 0247 686 8555
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5.30pm
Darllenwch ragor am gost galwadau

Yr hyn y gall cytundeb terfyn ei wneud

Gallwch chi a鈥檆h cymydog greu 鈥榗ytundeb terfyn鈥� i gofnodi:

  • y terfyn rhwng dau eiddo
  • pwy sy鈥檔 gyfrifol am gynnal perth, wal, coeden neu ffens rhwng dau eiddo

Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried gwneud cytundeb terfyn.

Yr hyn na all cytundeb terfyn ei wneud

Ni allwch ddefnyddio cytundeb terfyn i werthu neu roi rhan o鈥檆h tir i鈥檆h cymydog.

Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych am sicrhau bod y cytundeb terfyn yn ddilys o hyd ar 么l i chi neu鈥檆h cymydog werthu eich eiddo.

Yr hyn i鈥檞 gynnwys mewn cytundeb terfyn

Rhaid i鈥檆h cytundeb terfyn gynnwys:

  • eich enw a鈥檆h cyfeiriad
  • enw a chyfeiriad eich cymydog
  • dyddiad dechrau鈥檙 cytundeb
  • y terfyn y cytunwyd arno

Gallwch gynnwys y terfyn trwy ddefnyddio:

  • disgrifiad ysgrifenedig
  • copi o fap gan yr Arolwg Ordnans 鈥� gallwch dynnu llinell neu ysgrifennu arno i ddangos y terfyn
  • map rydych wedi ei dynnu eich hun

Enghraifft o gytundeb terfyn

鈥淐ytundeb Terfyn

Gwneir y cytundeb hwn ar 15 Gorffennaf 2017 rhwng John Smith o 10 Acacia Avenue, y mae鈥檙 teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX12345, a Mary Brown o 12 Acacia Avenue, y mae鈥檙 teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX67891.

Mae鈥檙 part茂on yn cytuno bod y terfyn cyfreithiol rhwng y tir o fewn eu teitlau cofrestredig priodol, ac sy鈥檔 rhedeg rhwng y pwynt wedi ei nodi 鈥楢鈥� i鈥檙 pwynt wedi ei nodi 鈥楤鈥� ar y cynllun atodedig, yn unol 芒鈥檙 hyn a ddangosir gan y llinell goch a dynnwyd rhwng y pwyntiau hynny.

Llofnodwyd

[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]

Llofnodwyd

[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]鈥�

Cofnodi eich cytundeb terfyn

Llenwch gais i newid y gofrestr (AP1).

Yn adran 4 o dan 鈥楥eisiadau yn nhrefn blaenoriaeth鈥� ysgrifennwch: 鈥淣odi cytundeb terfyn鈥�. O dan 鈥楩f茂oedd a dalwyd (拢)鈥� ysgrifennwch 鈥溌�40鈥�.

Nid oes yn rhaid ichi lenwi adrannau 9 i 14.

Bydd angen ichi anfon y canlynol:

  • y ffurflen AP1 wedi ei llenwi
  • copi o鈥檙 cytundeb terfyn
  • siec neu archeb bost am 拢40, yn daladwy i 鈥楥TEF鈥� neu 鈥楥ofrestrfa Tir EF鈥�

Anfonwch y dogfennau a鈥檙 ffi i:

HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn diweddaru鈥檙 gofrestr ar gyfer eich eiddo ac yn anfon copi o鈥檙 gofrestr wedi ei diweddaru yn 么l atoch. Bydd yn gwneud yr un peth ar gyfer eich cymydog.

3. Gwneud cais i gofnodi鈥檙 union derfyn

Gallwch wneud cais i gofnodi鈥檙 union derfyn rhwng eich eiddo chi ac eiddo eich cymydog. Gelwir hyn yn gwneud cais am 鈥榙erfyn wedi ei bennu鈥�.

Gallwch wneud hyn dim ond os yw鈥檆h eiddo鈥檔 gofrestredig.

Bydd terfyn wedi ei bennu yn ddilys o hyd os ydych chi neu鈥檆h cymydog yn gwerthu eich eiddo.

Gall eich cais gael ei gyfeirio at dribiwnlys os nad yw鈥檆h cymydog yn cytuno ag ef. Ceisiwch gyngor cyfreithiol cyn gwneud cais.

Edrychwch ar gynllun teitl a chofrestr eich eiddo i weld a oes terfyn wedi ei bennu ganddo eisoes.

Gwneud cais am derfyn wedi ei bennu

Bydd angen ichi anfon y canlynol:

Tystiolaeth sy鈥檔 cefnogi eich cais

Anfonwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych sy鈥檔 cyfiawnhau terfyn yr arolygwr. Gallai hyn gynnwys:

  • cop茂au ardystiedig o weithredoedd eich eiddo o鈥檙 cyfnod cyn y cafodd yr eiddo ei gofrestru
  • adroddiad arbenigwr
  • datganiad ysgrifenedig wedi ei lofnodi ym mhresenoldeb cyfreithiwr, ynad neu gomisiynydd llwon

Anfon eich cais

拢90 yw cost y cais. Bydd yn rhaid ichi dalu鈥檙 arolygwr a ffi鈥檙 cyfreithiwr hefyd. Os yw鈥檆h cymydog yn cytuno 芒鈥檆h cais, bydd yn rhaid iddo lofnodi鈥檙 ffurflen a鈥檙 cynllun hefyd.

Anfonwch bopeth i:

HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Os yw鈥檆h cais yn llwyddiannus, bydd Cofrestrfa Tir EF (CTEF) yn anfon copi o鈥檆h cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru atoch. Bydd hefyd yn anfon copi o鈥檙 cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru at eich cymydog.

Os yw鈥檆h cymydog yn gwrthwynebu鈥檆h cais

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn penderfynu a yw鈥檙 gwrthwynebiad yn ddilys. Os ydyw, bydd yn rhoi cyfle i chi a鈥檆h cymydog ddod i gytundeb.

Os na allwch ddod i gytundeb, bydd yn trosglwyddo eich cais i dribiwnlys. Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu am gyngor cyfreithiol a chyngor gan arolygwr os yw hynny鈥檔 digwydd.

Os yw鈥檙 tribiwnlys yn cymeradwyo eich cais

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon copi o鈥檆h cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru atoch. Bydd yn cofnodi鈥檙 terfyn wedi ei bennu yn y gofrestr.

Os yw鈥檙 tribiwnlys yn gwrthod eich cais

Bydd y tribiwnlys naill ai鈥檔 penderfynu ble dylai鈥檙 union derfyn fod, neu鈥檔 penderfynu peidio 芒 gosod yr union derfyn.

Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu costau eich cymydog.

4. Cywiro camgymeriad terfyn ar gynllun teitl

Ysgrifennwch i Gofrestrfa Tir EF (CTEF) os ydych yn credu bod camgymeriad terfyn ar gynllun teitl eiddo.

Bydd yn rhaid i chi:

  • egluro pam rydych o鈥檙 farn bod camgymeriad yno
  • cynnwys unrhyw dystiolaeth sy鈥檔 cefnogi eich dadl, megis cop茂au ardystiedig o weithredoedd yr eiddo.

Anfonwch bopeth i:

HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

Os bydd CTEF yn gweld bod camgymeriad, bydd yn dweud wrthych sut i鈥檞 unioni.