Terfynau eich eiddo
Gwneud cais i gofnodi鈥檙 union derfyn
Gallwch wneud cais i gofnodi鈥檙 union derfyn rhwng eich eiddo chi ac eiddo eich cymydog. Gelwir hyn yn gwneud cais am 鈥榙erfyn wedi ei bennu鈥�.
Gallwch wneud hyn dim ond os yw鈥檆h eiddo鈥檔 gofrestredig.
Bydd terfyn wedi ei bennu yn ddilys o hyd os ydych chi neu鈥檆h cymydog yn gwerthu eich eiddo.
Gall eich cais gael ei gyfeirio at dribiwnlys os nad yw鈥檆h cymydog yn cytuno ag ef. Ceisiwch gyngor cyfreithiol cyn gwneud cais.
Edrychwch ar gynllun teitl a chofrestr eich eiddo i weld a oes terfyn wedi ei bennu ganddo eisoes.
Gwneud cais am derfyn wedi ei bennu
Bydd angen ichi anfon y canlynol:
- cynllun sy鈥檔 dangos y terfyn wedi ei bennu 鈥� gofynnwch i wneud hyn
- tystiolaeth sy鈥檔 cefnogi eich cais
- ffurflen union linell terfyn (DB) wedi ei llenwi
Tystiolaeth sy鈥檔 cefnogi eich cais
Anfonwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych sy鈥檔 cyfiawnhau terfyn yr arolygwr. Gallai hyn gynnwys:
- cop茂au ardystiedig o weithredoedd eich eiddo o鈥檙 cyfnod cyn y cafodd yr eiddo ei gofrestru
- adroddiad arbenigwr
- datganiad ysgrifenedig wedi ei lofnodi ym mhresenoldeb cyfreithiwr, ynad neu gomisiynydd llwon
Anfon eich cais
拢90 yw cost y cais. Bydd yn rhaid ichi dalu鈥檙 arolygwr a ffi鈥檙 cyfreithiwr hefyd. Os yw鈥檆h cymydog yn cytuno 芒鈥檆h cais, bydd yn rhaid iddo lofnodi鈥檙 ffurflen a鈥檙 cynllun hefyd.
Anfonwch bopeth i:
HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB
Os yw鈥檆h cais yn llwyddiannus, bydd Cofrestrfa Tir EF (CTEF) yn anfon copi o鈥檆h cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru atoch. Bydd hefyd yn anfon copi o鈥檙 cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru at eich cymydog.
Os yw鈥檆h cymydog yn gwrthwynebu鈥檆h cais
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn penderfynu a yw鈥檙 gwrthwynebiad yn ddilys. Os ydyw, bydd yn rhoi cyfle i chi a鈥檆h cymydog ddod i gytundeb.
Os na allwch ddod i gytundeb, bydd yn trosglwyddo eich cais i dribiwnlys. Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu am gyngor cyfreithiol a chyngor gan arolygwr os yw hynny鈥檔 digwydd.
Os yw鈥檙 tribiwnlys yn cymeradwyo eich cais
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon copi o鈥檆h cynllun teitl a chofrestr wedi eu diweddaru atoch. Bydd yn cofnodi鈥檙 terfyn wedi ei bennu yn y gofrestr.
Os yw鈥檙 tribiwnlys yn gwrthod eich cais
Bydd y tribiwnlys naill ai鈥檔 penderfynu ble dylai鈥檙 union derfyn fod, neu鈥檔 penderfynu peidio 芒 gosod yr union derfyn.
Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu costau eich cymydog.