Terfynau eich eiddo
Gwneud cytundeb terfyn gyda鈥檆h cymydog
Fel arfer, gallwch osgoi creu cytundeb terfyn trwy gael trafodaeth anffurfiol 芒鈥檆h cymydog.
Cymorth i ddatrys anghydfodau
Cysylltwch 芒 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig i gael cyngor ar ddatrys anghydfodau ynghylch terfynau.
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
[email protected]
Ff么n: 0247 686 8555
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5.30pm
Darllenwch ragor am gost galwadau
Yr hyn y gall cytundeb terfyn ei wneud
Gallwch chi a鈥檆h cymydog greu 鈥榗ytundeb terfyn鈥� i gofnodi:
- y terfyn rhwng dau eiddo
- pwy sy鈥檔 gyfrifol am gynnal perth, wal, coeden neu ffens rhwng dau eiddo
Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych yn ystyried gwneud cytundeb terfyn.
Yr hyn na all cytundeb terfyn ei wneud
Ni allwch ddefnyddio cytundeb terfyn i werthu neu roi rhan o鈥檆h tir i鈥檆h cymydog.
Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych am sicrhau bod y cytundeb terfyn yn ddilys o hyd ar 么l i chi neu鈥檆h cymydog werthu eich eiddo.
Yr hyn i鈥檞 gynnwys mewn cytundeb terfyn
Rhaid i鈥檆h cytundeb terfyn gynnwys:
- eich enw a鈥檆h cyfeiriad
- enw a chyfeiriad eich cymydog
- dyddiad dechrau鈥檙 cytundeb
- y terfyn y cytunwyd arno
Gallwch gynnwys y terfyn trwy ddefnyddio:
- disgrifiad ysgrifenedig
- copi o fap gan yr Arolwg Ordnans 鈥� gallwch dynnu llinell neu ysgrifennu arno i ddangos y terfyn
- map rydych wedi ei dynnu eich hun
Enghraifft o gytundeb terfyn
鈥淐ytundeb Terfyn
Gwneir y cytundeb hwn ar 15 Gorffennaf 2017 rhwng John Smith o 10 Acacia Avenue, y mae鈥檙 teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX12345, a Mary Brown o 12 Acacia Avenue, y mae鈥檙 teitl iddo wedi ei gofrestru o dan rif teitl XX67891.
Mae鈥檙 part茂on yn cytuno bod y terfyn cyfreithiol rhwng y tir o fewn eu teitlau cofrestredig priodol, ac sy鈥檔 rhedeg rhwng y pwynt wedi ei nodi 鈥楢鈥� i鈥檙 pwynt wedi ei nodi 鈥楤鈥� ar y cynllun atodedig, yn unol 芒鈥檙 hyn a ddangosir gan y llinell goch a dynnwyd rhwng y pwyntiau hynny.
Llofnodwyd
[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]
Llofnodwyd
[Tyst (Llofnod, enw a chyfeiriad)]鈥�
Cofnodi eich cytundeb terfyn
Llenwch gais i newid y gofrestr (AP1).
Yn adran 4 o dan 鈥楥eisiadau yn nhrefn blaenoriaeth鈥� ysgrifennwch: 鈥淣odi cytundeb terfyn鈥�. O dan 鈥楩f茂oedd a dalwyd (拢)鈥� ysgrifennwch 鈥溌�40鈥�.
Nid oes yn rhaid ichi lenwi adrannau 9 i 14.
Bydd angen ichi anfon y canlynol:
- y ffurflen AP1 wedi ei llenwi
- copi o鈥檙 cytundeb terfyn
- siec neu archeb bost am 拢40, yn daladwy i 鈥楥TEF鈥� neu 鈥楥ofrestrfa Tir EF鈥�
Anfonwch y dogfennau a鈥檙 ffi i:
HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn diweddaru鈥檙 gofrestr ar gyfer eich eiddo ac yn anfon copi o鈥檙 gofrestr wedi ei diweddaru yn 么l atoch. Bydd yn gwneud yr un peth ar gyfer eich cymydog.